Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Bayly, Thomas, D.D

Bayly, Lewis, D.D Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I

gan Josiah Thomas Jones

Beaufort, Edward Somerset

BAYLY, THOMAS, D.D., oedd fab ieuangaf Dr. Lewis Bayly, esgob Bangor, ac addysgwyd ef yn Nghaergrawnt. Ar ol cymeryd ei raddio yn y Celfau, y brenin yn 1638 a gyflwynodd iddo is-ddeoniaeth Wells. Yn 1644, efe, yn nghyd ag ereill a enciliasant i Rydychain; ac yn Awst yr un flwyddyn, graddiwyd ef yn A.C.; ac yn fuan wedi hyny graddiwyd ef yn D.D. Yn 1646 cawn ef gyda iarll Caerwrangon yn Nghastell Ragland; yr hwn a amddiffynai y boneddwr dros y brenin yn erbyn byddin y Senedd. Wedi hyny aeth i Ffrainc, a gwledydd ereill; ac ar ol marwolaeth y brenin dychwelodd i Loegr. Cyhoeddodd amryw lyfrau; yn mysg ereill cyhoeddodd un yn cynwys ymosodiad chwerw ar y llywodraeth, yr hyn a barodd iddo gael ei daflu i garchar Newgate. Pan yn y carchar cyhoeddodd lyfr arall; ac mor fuan ag y cafodd ei gyhoeddi, diangodd o'r carchar a ffodd i Holland, lle cyhoeddai ei hun yn Babydd, ac y daeth yn amddiffynydd selog o'r grefydd Babaidd. Wedi hyny sefydlodd yn Douay, lle y cyhoeddodd waith a alwai, "Terfyn dadleuaeth rhwng y grefydd Babaidd a Phrotestanaidd," yr hwn a argraffwyd yn 1654. Oddiyno enciliodd i Itali, lle y bu farw mewn cyfyngder mawr, yn y flwyddyn 1659. (Wood's Ath. Oxon.)