Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Beaufort, Henry Somerset
← Beaufort, Edward Somerset | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Bedo ab Hywel Bach → |
BEAUFORT, HENRY SOMERSET ydoedd bumed iarll Beaufort, a mab i Edward, y pedwerydd iarll o Ragland, yn sir Fynwy. Efe a alwyd i senedd gyntaf Iago I. Cymerodd ran neillduol yn mhlaid Siarl I., ac amddiffynodd ei gastell yn Ragland gyda byddin o 800 o wyr, o'r flwyddyn 1642 i 1646, heb godi treth ar y wlad. Ond bu orfod iddo ei roddi i fyny o'r diwedd i Syr Thomas Fairfax. Hwn oedd y castell diweddaf yn y deyrnas a barhaodd i herio y gwerinwyr. Wedi ei ddidoi, efe a ddinystriwyd, a thorwyd y coed yn y parc, y rhai a werthwyd gan bwyllgor yr atafaeliad, yr hyn a fernid yn golled i'r meddianwr, hyd i werth £100,000. Cyfodwyd yr iarll hwn i'r urddas o ardalydd Worcester, Tach. 2, 1642. Ei wraig oedd Ann, unig ferch i John, arglwydd Russell. Bu farw yn 1646. (Burk's Genealogical and Heraldic Dictionary.)