Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Bedo Aeddran
← Bedo ab Hywel Bach | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Bedo Hafesp → |
BEDO AEDDRAN, bardd o gryn enwogrwydd, yr hwn a flodeuodd rhwng 1480 a 1510. Y mae llawer o'i ganiadau ar gael mewn ysgrifen. Ymddangosodd enwau a llinell gyntaf amryw o honynt ar amlen Misolyn Cymreig a elwid y Greal, a gyhoeddwyd yn Llundain, yn y flwyddyn 1806.