Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I/Bedwyr
← Bedwini | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I gan Josiah Thomas Jones |
Beli, mab Benlli Gawr → |
BEDWYR, un o ryfelwyr gwrolaf Arthur, ydoedd fab Bedrawg, yn ol y Trioedd, neu Bedrawd, fel y mae yn cael ei ysgrifenu yn Mabinogi Geraint ab Erbin, neu Pedrod, yn ol y Brut. Yr oedd yn dal y swydd o bentrulliad yn llys y brenin hwnw. Yr oedd yn un o'r ddau farchog a ddewisodd Arthur i fyned gydag ef i fynydd St. Michael, yn Normandy, i ddial marwolaeth Helen, nith i Hywel ab Emyr Llydaw, yr hon a gafodd ei chario ymaith a'i lladd gan gawr o faintioli anferth; a phan oedd Arthur wedi gorchfygu Ffrainc, derbyniodd Bedwyr oddiwrtho ef iarllaeth Normandy. Efe mewn canlyniad a lywyddai fyddin yn y frwydr enwog lle y gorchfygodd Arthur y Rhufeiniaid, dan Lucius, yu nyffryn y Seine, ac yno y lladdwyd ef trwy gael ei drywanu a gwaywffon, gan Baochus, brenin Media, yr hwn yn fuan wedi hyny a gymerwyd yn garcharor, ac a offrymwyd ar gorff Bedwyr. Claddwyd ef yn Bayeux, dinas a adeiladodd efe ei hun, fel prif ddinas iarllyddiaeth Normandy. Dyma'r hanes a roddir i ni gan y Brut Cymreig. Nodir lle ei feddrod hefyd yn Englynion y Beddau, y rhai a dybir yn wrthwyneb i'r hanes a roddir yn y Brut:—
"Bedd mab Osfran yn Nghamlan,
Wedi llawer cyflafan,
Bedd Bedwyr yn ngallt Tryfan."