Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I (testun cyfansawdd)
← | Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I (testun cyfansawdd) gan Josiah Thomas Jones |
→ |
I'w darllen erthygl wrth bennod erthygl Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I |
GEIRIADUR
BYWGRAFFYDDOL
O
ENWOGION CYMRU,
O'R OESOEDD BOREUAF HYD YN AWR,
Yn Offeiriaid, Pregethwyr, Beirdd, Hynafiaethwyr, Gwyddonegwyr, Llenorion, Cerddorion,
YNG NGHYD
A PHOB UN O ENWOGRWYDD
MEWN YSTYR WLADOL NEU GREFYDDOL.
—————————————
GAN
JOSIAH THOMAS JONES, GWEINIDOG YR EFENGYL,
ABERDAR.
—————————————
CYFROL 1.
ABERDAR:
ARGRAFFWYD A CHYOEDDWYD GAN J. T. JONES A'I FAB, SWYDDFA'R "ABERDARE TIMES."
—————————————
1867.
ENTERED AT STATIONERS' HALL.
RHAGYMADRODD
Y MAE yn ffaith anwadadwy mai un o gangenau gwerthfawrocaf Hanesyddiaeth ydyw Bywgraffiaeth, yr hyn a gynwys gofnodau o hanes bywydau a chymeriadau dynion o enwogrwydd mewn ystyr wladol neu grefyddol, ac felly a ellir ddysgwyl fod yn dra adeiladol a defnyddiol i helaethu gwybodaeth o bethau perthynol i'n dedwyddwch, i gadarnhau ein ffydd yn athrawiaethau yr Efengyl, i helaethu ein cariad at Dduw a dyn, ac i lanw ein calonau â sel dros y gwirionedd. Llawer o hiliogaeth Gomer, wrth ystyried y pethau hyn, a hiraethent er ys blynyddoedd lawer am gael hanes rheolaidd a chywir o enwogion ein cenedl, o'r hyn yr ydym yn mhell ar ol y Saeson. Tra y mae ganddynt hwy gyfrolau mawrion ar y pwnc, nid oes genym ni ddim gwerth ei grybwyll braidd, er y gallwn ymffrostio mewn mwy o Wroniaid ao Enwogion nag unrhyw genedl adnabyddus yn ol ein rhif. Hiraethem er ys talm am weled rhyw un cymwys yn ymaflyd yn y gorchwyl angenrheidiol hwn, ond yn gwbl ofer; gan hyny, penderfynasom a'n holl egni i ymgymeryd a'r anturiaeth fawrbwys, mewn hyder y derbyniem gefnogaeth unfrydol ein cyd-genedl er cwblhau y gorchwyl yn anrhydeddus, fel y peth diweddaf o'n heiddo, mae'n debyg, eto y peth pwysicaf o lawer o ddim yr ymaflasom ynddo erioed. Wele y gyfrol gyntaf o'r gwaith yn awr ar ben, am yr hyn y teimlwn yn dra diolchgar i Dad y Trugareddau. Gan nad pa dderbyniad bynag a gaiff y gwaith hwn gan y genedl yn gyffredinol, gallwn ddyweyd yn hyf na ataliasom na thraul na llafur i'w wneuthur yn deilwng o sylw y dysgedig, y deallus, a'r diduedd yn mhlith y genedl. Nid ydym yn rhyfygu dywedyd nad oes llawer o anmherffeithrwydd yn y gwaith, ond gwnaethom ein goreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Y mae lluoedd i'w cael yn barod i chwilio beiau a nodi gwallau, ond nid oes un o fil yn barod i estyn unrhyw gynorthwy tuag at gael yr hanes yn fwy perffaith. Y mae yn flin genym na fuasem ugain neu ddeng mlynedd ar ugain yn gynt wedi ymroddi at y gorchwyl o gasglu hanesion gwahanol Enwogion yn nghyd, pan oedd ein natur yn fwy galluog i ymgynal o dan bwys y gwaith, a phan nad oedd henaint wedi anmharu eneidiau rhai, na'r bedd wedi llyncu cyrff y lleill, a allasent fod o fawr gymorth i ni i gasglu defnyddiau at hanes llawer un teilwng o gofnodiad cenedlaethol nad ellir bellach gael braidd ddim cymorth tuag at hyny oddiwrth neb. Dengys fawr ddoethineb mewn dyn yn ei waith yn casglu addysgiadau oddiwrth bob rhyw amgylchiad a golygfa a'i cyferfydd er cyfarwyddo ei lwybr ei hun yn briodol trwy daith yr anialwch. Y mae pob cangen o wybodaeth yn cynwys rhyw wersi cymwys i'w defnyddio; ond o'r holl wersi yn nghyd nid oes yr un yn fwy manteisiol na gwersi profiad yn hanes bywydau dynion, ac yn neillduol hanes dynion fyddont wedi rhagori ar ereill mewn pethau cyoeddus, gan y ceir ynddynt dueddiadau ymarferol y gwahanol egwyddorion a fyddant yn eu cymell i weithrediad. Y mae dynion i'w beio yn fawr pan yn esgeuluso talu sylw teilwng i'r cyfryw amgylchiadau er eu haddysg profiadol eu hunain yn llywodraethiad eu hachosion yn y byd. Hyn yw dyben Bywgraffiadau. Gofidus yw meddwl fod lluoedd yn treulio eu hoes heb roddi awr o'u hamser ystyriol i sylwi a barnu a ydyw dynion yn byw ai peidio er ateb dybenion eu bodolaeth yn y byd. Pan byddo dynion yn adfyfyrio ar y cofnodau a gadwyd o'r "pethau a ddygwyddasant o'r blaen yn siampl iddynt hwy, ac a ysgrifenwyd yn rhybudd i ninau," y mae eu meddyliau yn cael eu goleuo, eu teimladau yn cael eu cynhesu, eu hymddygiadau yn Cael eu cyfarwyddo i "rodio canol llwybr barn," fel y byddai iddynt lanw eu cylchoedd mewn cymdeithas megys ag y gweddai iddynt, yn ol y byddont o ran eu galluoedd a'u sefyllfaoedd wedi eu gosod yn y byd. Arddangosiad teg o gymeriadau dynion ddylai Geiriadur Bywgraffyddol fod, fel y mae darluniau cywir i fod o'u personau. Os bydd yr ardebau wedi eu tynu yn ffyddlon, byddant yn arddangosiadau o'r hyn ydoedd y dynion; felly, bywgraffiadau teilwng o'r enw a drosglwyddant i'r oesoedd a ddeuant, ac i'r plant a enir gynlluniau o'r peth ydoedd dynion o ran eu cymeriadau gwirioneddol. Nid darfolawd yw Bywgraffiad i fod, ond arddangosiad ffyddlawn o'r hyn ydoedd cymeriadau y gwrthddrychau. Er y dylid trin a thrafod yr ymadawedig yn dirion, ysgafn, a mwynaidd, eto ni ddylid gwyngalchu gormod ar eu beddau. Bydd rhai bywgraffwyr yn casglu eu holl ddoniau a'u dychymygion yn nghyd i arganmol rhagoriaethau yr ymadawedig—ei dalentau, ei alluoedd digyffelyb, ei araethyddiaeth hyawdl, ei ddybenion pur a dihalog, nes bydd yr holl frychau wedi myned o'r golwg, ac yr ymddengys fel pe buasai yn un o drigolion gwlad y perffeithrwydd. Dichon fod amcan y cyfryw yn dda, er efallai nad oedd y darlun yn gywir. Pan fyddo darluniwr ffyddlon yn myned i dynu delw un, nid ei waith fydd dyfeisio pa fodd i'w dynu brydferthaf, na pha fodd i gael y lliwiau gryfaf, ond pa fodd i'w gael debyoaf i'r cynllun; nid pa un a fyddai yn hardd ac yn dlws fyddai y pwnc, ond a fyddai mor debyg i'r gwreiddiol ag y gallai ei blant, ei wyrion, neu ei orddisgynyddion, ffurfio dychymyg cywir am dano. Felly am Fywgraffiad, nid y peth y dylasai dyn fod, ond y peth ydoedd mewn gwirionedd a ddylasai ddangos, a gadael i'r darllenydd ei hun y gwaith o dynu casgliad pa fath ddyn y dylasai fod. Nid oes neb yn y byd hwn heb ei golliadau, a phan ddarlunir y rhai hyny gan law gywrain â lliwiau priodol, y mae addysg briodol o ochelgarwch yn cael ei chyflwyno i'r darllenydd. Gwnai esgeuluso y sylwadau hyn gau allan ran fawr o ddyben Bywgraffiad. Y mae y colliadau yn y Bywgraffiadau Ysgrythyrol yn oleudai i'n cyfarwyddo i gadw ein llestr yn mhell oddiwrth y creigiau ar ba rai y syrthiasant; ac y mae rhinweddau, ar y llaw arall, yn foddion i'n tynu i hwylio ar hyd yr un llwybr, i fordeithio wrth yr un ser, a than arweiniad yr un Llywydd, nes oyraedd yr un porthladd. Felly hefyd, y duwielion diweddar, y mae y rhai a'n blaenodd "wedi marw yn llefaru eto;" y mae eu Bywgraffiad yn gynorthwy i ereill i ffurfio eu cymeriadau ar eu hol. Y mae tuedd gref mewn darluniad cyffrous o bob math o gymeriad, da neu ddrwg, er effeithio yr unrhyw ddelw ar y darllenydd. Gwnaeth darllen hanes gorchestion ambell filwr dewr gyflwyno ysbryd milwraidd i filoedd a'i darllenasant; dywedir fod darllen hanes lladron penffordd wedi llithio canoedd i ledrad; dywedir fod ymgydnabyddu a hanes ambell wleidyddwr enwog, megys Blackstone, &c., wedi denu meddyliau miloedd o ddynion at bethau gwleidyddol; a bod darllen hanes bywyd duwiol a llwyddianus rhai o Weinidogion yr Efengyl wedi enyn awydd mewn llawer bachgen ieuanc i'w hefelychu; ac felly gyda golwg ar bob gwyddoniaeth a chelfyddyd, i raddau mwy neu lai. Canfyddwn yma werth bywgraffiadau duwiolion—"gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur"—er gwrthweithio tuedd niweidiol hanesion rhai wedi hynodi eu hunain mewn pethau diles a niweidiol, ac er dyrchafu meddyliau dynion uwchlaw pethau diniwaid ynddynt eu hunain at bethau mwy gwerthfawr. Gwaith gwleidyddwr ydyw trefnu a chynllunio ar gyfer y byd hwn, ond gwaith Gweinidog yr Efengyl ydyw cyfeirio at y byd a ddaw; amcan y gwleidyddwr yw oynyg at wella amgylchiadau tymhorol y wlad, ond dyben y Gweinidog Cristionogol a gyfeiria at radd uwch—at gyflawn fuddugoliaeth ar bob gelyn, at adgyfodiad gorfoleddus o byrth y bedd, a thragywyddol ddedwyddwch yn y nef. Nls gallwn ganfod pa mor bell y mae argraffiadau cymeriad yn cyraedd yn eu dylanwad moesol. Hyn yw Bywgraffiad adeiladol, a hwn yw y ooffadwriaeth sydd fendigedig. Byddai eu defnyddio o wir werth i'r genedl ieuanc sydd yn codi. Ofnwn fod chwaeth ieuenctyd ac ereill yn myned yn ormodol ar ol pethau diwerth, gan adael pethau sylweddol heb eu ceisio.
Gan mai tir anghof ydyw y bedd, a bod y meirw yn fuan yn cael eu hanghofio, a'u gweithredoedd yn cael eu hebargofio yn y ddinas lle y gwnaethant felly, dylem fod yn dra gofalus i gadw coffadwriaeth i'r oesoedd a ddeuant o'r rhai hyny "a gawsant air da trwy ffydd," y rhai a fuont hynod yn mhlith yr apostolion, ac fel Jehoiada, a wnaethant ddaioni yn Israel tuag at Dduw a'i dy; fel pan y byddont hwy fel canwyll o dan lestr yn ngwely dystaw y bedd y byddo y grasau a'r doniau a ddysgloiriasant ynddynt yn llewyrchu gerbron cenedlaethau dyfodol, fel y gogonedder eu Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, ac y byddo i'w hesiamplau effeithio yn ddaionus ar ou holynwyr, trwy fod yn anogaeth i'r rhai a ddarllenant i fyned rhagddynt ar hyd ol traed y praidd, a bod yn ddylynwyr i'r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu yr addewidion. Dywedodd Crist am y wraig a eneiniodd ei gorff, "Pa le bynag y pregethir yr efengyl yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd er coffa am dani hi." Yn yr hyn a ddywedir uchod golygai yr ysgrifenydd yn ddiameu dduwiolion a rhai rhagorol mewn gras yn gyffredinol, pa un bynag a fyddent mewn swyddau yn yr eglwys neu beidio. Ac yn ychwanegol, am swyddogion y mae genym orchymyn penodol yr Apostol at yr Hebreaid, Heb. iii. 5—"Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw, ffydd y rhai dylynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt." Lle byddo blaenoriaid ysbrydol a theilwng yn yr eglwys yn cael lle mawr yn meddyliau y bobl tra byddont yn myned i mewn ao allan yn eu plith, nis gallant lai na chofio am danynt ar ol eu hymadawiad. Pa mor ffyddlon bynag y byddo gweision Crist dros eu tymor ar y maes, nid ydyw eu hamser ond byr iawn; gyda'u bod megys yn dechreu ar eu defnyddioldeb gyda'r gwaith gelwir hwynt oddiwrtho i roddi eu cyfrif. Er hyny, y rhai a dderbyniasant yr efengyl trwyddynt, ac sydd yn dal yn eu cof a pha ymadrodd yr efengylasant iddynt, nis gallant beidio meddwl am danynt ar ol myned i orphwys, "gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt."
Y mae yn debyg nag oes un genedl ag sydd yn meddu gradd o ddysgeidiaeth wedi bod yn fwy difraw a diofal am gadw coffadwriaeth o wroniaid eu cenedl na'r Cymry. Gwir yw iddynt fod am oesoedd lawer yn dra amddifad o fanteision er helaethu eu gwybodaeth; nid oedd braidd neb o'r bobl gyffredin dri chant o flynyddoedd yn ol a fedrai air ar lyfr, a llawer llai yr oesoedd cyn hyny, ac nid oedd am amser maith wedi hyny ond ychydig o lyfrau Cymreig yn argraffedig; ond erbyn hyn y mae'r addewid yn dechreu cael ei chyflawni, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Y mae yn wir fod breintiau ein cenedl yn bresenol yn bur halaeth; gall yr Arglwydd ddyweyd gyda'r priodoldeb mwyaf am ein gwlad megys y dywedodd gynt am ei winllan, "Beth oedd i'w wneuthur yn ychwaneg i'm gwinllan nag a wnaethum ynddi ?" Y mae yn ddiau mai i'r rhai y rhoddir llawer iddynt y gofynir llawer ganddynt.. Y mae y rhai a geisiant ddarllen er buddioldeb yn barnu fod y Beibl a llawer o lyfrau da ereill yn llesiol i'w darllen, ond ystyriant fod darllen llyfrau hanesyddol yn gwbl ddiles ac afreidiol. Nid ydyw y cyfryw yn ystyried fod y Beibl, neu ran fawr o hono, yn hanesyddol a bywgraffyddol, fel y gwelir yn yr Hen Destament a'r Newydd. Hyderwn nad oes neb a addefant ddwyfoldeb yr Ysgrythyrau yn edrych ar y rhanau hanesyddol o hono yn ddiles ac afreidiol, canys y mae holl Air Duw yn bar. Pe na buasai genym ond y rhanau athrawiaethol yn unig o'r Ysgrythyrau, pa fodd y delem i wybod pwy a greodd y byd, ac yn mha gyflwr y cafodd ein rhieni cyntaf eu gosod ynddo cyn y cwymp? y modd y syrthiasant o uchder dedwyddwych i ddyfnder trueni, yn nghyd a'n holl hiliogaeth i'r unrhyw bydew erchyll? Oni buasai i'r Beibl roddi i ni hanes am y cwymp a'r twyllwr, sef diafol, ni fuasai genym wybodaeth sicr, ond rhyw draddodiadau anmherffaith wedi dyfod i waered o dad i fab; ni fuasai genym unrhyw ddarluniad cywir am y dylif, dim ond rhyw ddychymygion cyfeiliornus, megys ag y sydd gan y paganiaid hyd heddyw, oni buasai Gair Duw. Yn y Beibl yr ydym yn cael hanes aneirif bethau tra rhyfedd a ddygwyddasant yn yr amseroedd gynt, megys gwaith Abraham yn aberthu ei fab Isaac, amgylchiadau trallodus Joseph, gwyrthiau Moses, teithiau yr Israeliaid, y Môr Coch yn agor o'u blaen a hwythau yn myned drosodd ar dir sych, boddiad Pharao, dyfroedd yr Iorddonen yn troi yn ol, yr aberthau, y babell, teml Solomon, Jonah yn mol y pysgodyn, Dafydd yn lladd y cawr, y tri llanc yn y ffwrn dân, Daniel yn ffau y llewod. Ni fuasem ychwaith yn gwybod dim am Gyfryngwr y Testament Newydd oni buasai yr hanes a roddwyd am dano i ni gan yr Efengylwyr—ei genedliad goruwch—naturiol, ei enedigaeth, ei demtasiynau, ei wyrthiau, ei ddyoddefiadau annhraethol, ei angeu, ei gladdedigaeth, ei adgyfodiad buddugoliaethus, ei esgyniad gogoneddus, a'i ddyfodiad i farnu byw a meirw yn y dydd diweddaf. Ni fuasem ychwaith yn gwybod dim am yr Apostolion, eu teithiau blinion, yr erledigaethau creulawn a ddyoddefasant, a'r gwaredigaethau a gawsant, yn nghyd â llwyddiant eu gweinidogaeth. Nid oes yr un hanesyddiaeth i'w chystadlu a'r hyn a adroddwyd gan ddynion sanctaidd Duw, y rhai a lefarasant megys y cynyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glan. Eto, y mae hanesiaeth yr eglwys, yr ystormydd blinion yr aeth trwyddynt, a'r erledigaethau creulawn a ddyoddefodd Gweinidogion ffyddlawn Crist yn Nghymru, llawer o ba rai a gymerasant eu curo a'u hyspeilio o'u meddianau, a'u carcharu yn y modd mwyaf barbaraidd yn hytrach na rhoddi i fyny bregethu Crist yn geidwad i'r colledig,—y mae'r pethau hyn yn wir deilwng o'u cadw mewn coffadwriaeth. Y mae hefyd yn beth hyfryd i gael ychydig o hanes y ser boreuol a adlewyrchasant oddiwrth Haul y Cyfiawnder i ymlid cysgodau y nos a dychrynu creaduriaid aflan o'r wlad. Pe na buasai i ryw rai fod mor ffyddlawn a chadw coffadwriaeth am yr ardderchog lu o ferthyron a ddiangasant adref yn orfoleddus trwy ganol fflamiau tanllyd; ac am Calfin, Wickliffe, a Luther, yn nghyd a miloedd lawer o dystion ffyddlon ereill dros Dduw, ni fuasem ni yn gwybod fod y fath wyr enwog wedi bod erioed yn y byd; a chan fod hanesiaeth yn mhob oes a gwlad mor fuddiol ac adeiladol, a raid i'r Cymry gael eu cau mewn tywyllwch ao anwybodaeth am wroniad eu cenedl, ac am y pethau rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd yn eu mysg mewn gwahanol oesoedd. Gyda golwg ar haniad a hynafiaeth y genedl ac ystyr yr enw Cymry, peth hawdd fyddai profi mewn modd anwadadwy fod cenedl y Cymry wedi hanu oddiwrth Gomer, mab hynaf Japheth, cyntaf—anedig Noa. Gellir profi hyn yn y modd cadarnaf trwy dystiolaethau lluoedd o enwogion y cyn—oesoedd, megys Eustalius, Isidore, Tonaras, Josephus, Ptolemy, Strabo, Pliny, Dionysius, Mela, Theodoret, Pezron, Bullet, Bochart, Kaleigh, a chan luoedd o hynafyddion diweddarach. Am hyny, gallwn sicrhau yn orfoleddus yn ngeiriau awduron dysgedig yr "Universal History," fod y Cymry o ran ei hynafiaeth yn rhagori ar holl genedlaethau y ddaear. Er fod rhai o'r doetion paganaidd yn rhoddi y flaenoriaeth i'r Aifftiaid a'r Phrygiaid, ac ereill ar y dybiaeth gyfeiliornus a groch—haerant mai nid Gomer ydoedd cynfab Japheth. Eto, yn ol y tystiolaethau mwyaf cadarn ac eglur, y Cymry ydynt iawn etifeddion coron anrhydeddus hynaf— iaeth; a phe buasai breniniaeth ac archoffeiriadaeth y byd wedi cael eu trosglwyddo trwy ddeddf dragywyddol i gyntaf—anedigion Noa, a phe buasai llinach ei etifeddion heb ei thori hyd yn awr, CYMRO fuasai heddyw yn eistedd ar deyrn—gadair y byd, ac yn ysgwyd ei deyrnwialen dros wyneb yr holl ddaear i lywio ei thrigolion gyda rhwysg cyffredinol; a CHYMRO hefyd fuasai yn gweini yn y cysegr santeiddiolaf yn ei lys—wisgoedd archoffeiriadol, a'r meitr coronawg ar ei ben, a'r Urim Sanctaidd yn dysgleirio ar ei ddwyfron; a da yw genym allu ychwanegu mai Cymro oedd y cyntaf erioed a edrychodd ar fryniau gwynion Deheudir Prydain, a thraed Cymro oedd y cyntaf erioed a sangodd ei daear hyfrydlawn. Am eu dyfodiad i'r Ynys, anhawdd yn bresenol fyddai i neb allu nodi allan gyda manyldra a chywirdeb amser poblogiad cyntaf yr Ynys hon; ond penderfynir gan haneswyr yn gyffredinol iddi gael ei phoblogi gan DRI LLWYTH o'r Cymry—i'r cyntaf ddyfod drosodd o ororau Thrasia o gylch 3,000 o flynyddoedd yn ol; i'r ail, sef y Lloegrwys, ddyfod yn fuan wedi hyny, dan lywyddiaeth Prydain ab Aedd Mawr; ac i'r rhai hyn gael eu canlyn gan y trydydd, sef y Brythoniaid, o Llydaw. Gellir casglu gyda golwg ar ddull eu sefydliad yn yr Ynys, oddiwrth amryw o'r Trioedd a chrybwylliadau hanesyddol ereill, iddynt sefydlu mewn modd tawel ac heddychlawn, ac i'r tir gael ei ranu rhyngddynt mewn cyfiawnder, ac heb dywallt gwaed, naill ai trwy gydsyniad, yn ol trefn Abraham a Lot, neu trwy goelbren, yn ol trefn Joshua a blaenoriaid Israel. Iaith y genedl yn ddiameu ydoedd yr hen Omeraeg, yr hon, yn ol tystiolaethau y dynion enwocaf a ymddangosasant erioed ar chwareufwrdd dysgeidiaeth, ydoedd un o ieithoedd Babel, os nid un o brif gangenau iaith Eden—y iaith a arferid unwaith o godiad y Danube hyd Benrhyn Finisterre a Chyfyngfor Erclwff——y iaith a lefarwyd gan enwogion llawer oes a llawer gwlad, ar y maes, yn y llys, ac wrth yr allor—yr hon sydd eto yn fyw, ac yn cael ei siarad heddyw mor rwydd ac y llefarwyd hi erioed gan feibion a merched Gomer. Profa yr awdwr enwog Pezron tu hwnt i bob dadl fod y Cymry yn llawer henach cenedl na'r Groegiaid, ac mai o'r Gymraeg y tarddodd y Roegaeg agos yn gyflawn. Profa Josephus hefyd, yn ei lythyr at Apion, na fedrai y Groogiaid air ar lyfr yn amser brwydr Caerdroia, rhwng y Cymry a'r Groegiaid. Er cael hanes pellach ar hyn cyfeirir y darllenydd at yr haneswyr a roddwyd, ac at Hughes's Hora Britanica, Davies's Celtic Researches, Encyclopedia Londivensis (Article Britain), Camden's Britain, Universal History (Vol. II. pp. 241—246), Dysgedydd am 1848, tu—dal. 398. Y mae yn ymddangos oddiwrth yr Ysgrythyrau Santaidd i'r amryw lwythau y rhai a ymdaenasant ar hyd y ddaear ar ol y dilaw gymeryd eu henwau oddiwrth eu gwahanol deidiau neu bonau eu cenedloedd. Ar ol enwi meibion Noa, Gen. x. 22, dywedir, "Dyma deuluoedd meibion Noa wrth eu cenedlaethau yn ol eu cenedloedd, ac o'r rhai hyn yr ymranodd y cenedloedd ar y ddaear wedi y diluw." Yn epil Sem, o ganlyniad, deallwn fod yr Hebreaid yn cael eu henw oddiwrth Heber, gor— wyr Noa; deallwn hefyd i Ashur roddi ei enw i'r Assyriaid, y rhai a ddeilliasant oddiwrtho; Elam a roddodd ei enw i'r Elamitiaid, trigolion Persia—gelwir hwy felly yn Actau yr Apostoiion; ac Aram a roddodd ei enw i'r Aramitiaid neu y Syriaid; ar ol hyny cafodd y Moabiaid en henw oddiwrth Moab, yr Amoniaid oddiwrth Benamoni, a'r Edomiaid a gawsant eu henw oddiwrth Edom, sef Esay. Yn hiliogaeth Ham, rhoddodd Misraim ei enw i wlad yr Aifft, yr hon a elwir yn yr Hebraeg Mitaraim, fel y gall pob Cymro ei ddeall oddiwrth y gair Abel Misraim, sef Galar yr Aifftiaid (Gen. 1. 11), a gelwir y wlad hono Mesi hyd heddyw gan yr Arabiaid, a gelwir hi weithiau yn yr Ysgrythyrau Gwlad Ham. Canaan, mab Ham, a roddodd ei enw i wlad Canaan, a'i feibion ef hefyd a enwasant eu gwahanol lwythau yn y wlad hono yn ol eu henwau priodol, megys Heth, tad yr Hethiaid, ac. Oush, mab Ham, oedd dad i genedl luosog a alwyd gan yr Hebreaid Cushim, sef yr Ethiopiaid. Mewn perthynas i feibion Japheth, dywedir, "O'r rhai hyn y rhanwyd ynysoedd y cenedloedd yn eu gwledydd, pawb wrth eu hiaith eu hun, trwy eu teuluoedd, wrth eu cenedloedd." Jafan mab Japheth a roddodd ei enw i'r Groegiaid, o herwydd Jafan (yn hytrach Jofon, am fod cryn gymysg yn sain yr F a'r W yn rhai ieithoedd dwyreiniol) yw enw gwlad Groeg yn yr Hebraeg, a Jofonim y gelwir y Groegiaid; ac ni a wyddom fod y Groegiaid yn galw en hunain yn Ionoi, ac y mae rhan o'u gwlad yn myned dan enw "Yr Ynysoedd Ionaidd" hyd heddyw. Yn awr pan welwn yr holl enwau hyn ac amryw ereill wedi eu rhoddi i'w gwahanol genedloedd, a hyny wedi ei sicrhau i ni trwy awdurdod yr Ysgrythyr Lân—pan welwn fod cynifer o feibion ac wyrion Noa wedi rhoddi eu henwau i'w llwythi priodol, nid ydyw yn un rhyfedd os darfu i Gomer roddi ei enw i'w genedl—yn hytrach, buasai yn rhyfedd iddo beidio. Ac os parhaodd rhai o'r enwau hyn hyd y dydd heddyw, nid ydyw yn anmhrofadwy i enw Gomer barhau felly hefyd; ac oddiwrth yr enghreifftiau uchod, y mae yn debygol i'w hiliogaeth gadw ei enw yn gystal ag y bu i'r llwythau ereill gadw enwau eu gwahanol fon— cenedlaethau; ac yn ganlynol y mae awdurdod i gredu mai felly y bu, o herwydd y mae Josephus yn dywedyd mai Gomer oedd tad cenedl y Gomeri, y rhai, medd efe, yr oedd y Groegiaid yn eu galw yn Galatai; ac y mae awdurdod i brofi fod y Galatai hyn o'r un bobl a hen drigolion Ffrainc, neu dir Gal, a galwyd hwy hefyd Calatoi (Celtoi), ac ymddengys trwy dystiolaeth ddiameuol fod yr Hen Frytaniaid a hen drigolion Ffrainc wedi tarddu o'r un gwreiddyn. Deallwn hyn oddiwrth Cesar a thrwy gyffelybrwydd eu defodau a'u harferion gwladol, megys eu Beirdd a'u Derwyddon, &c., ac oddiwrth iaith trigolion Llydaw, ac am— ryw ddarnau o hen iaith tir Gal. Weithan, gwelwn fod yma gadwyn o brofiadau anwrthwynebol am darddiad y Cymry oddiwrth Gomer. Yr oedd y Cymry o'r un gwraidd a'r Galatai, hen drigolion Ffrainc; yr oedd y Galatai yr un bobl a'r Gomari; ac yr oedd y Gomari wedi deilliaw oddiwrth Gomer. Ond dichon yr ymddengys yn ddyeithr iawn fod enw Gomer wedi ei gadw gan lwyth bychan y Cymry tra mae ereill wedi colli eu hen enwau; ond cofiwn nad yw yr Ynysoedd Ionaidd, tir meibion Jafan, ond bychain iawn o faintioli. ac nad yw gwlad Mesi, sef yr Aifft, ddim yn helaeth, eto y mae y prif enwau heb eu colli. A chofier gyda hyny, er bod llwyth y Cymry yn fychan ac anaml y dydd heddyw, nid oeddynt felly yn wastad, o herwydd yr oedd cenedl luosog yn y prif oesoedd, yr hon a elwid Cimmeri, ac yn preswylio yn ngogledd—dir Europa; a dywed hen hanesyddion mai yr un oeddynt a'r Cimbri, y rhai a drigent yn rhan o'r Almaen a Denmarc. Ond pa fodd y gellir profi fod Cimbri y Cyfandir o'r un epil a Chymry Prydain? Credwn y gellir dangos hyn trwy ddau beth penodol: yn gyntaf, trwy gyffelybrwydd y ddau enw—Cimbri, Cymry; yn ail, trwy gyffelybrwydd y iaith, canys y mae dau air o'u hiaith eto ar glawr, sef yr enw Moriamarusa, rhan o For Llychlyn, yr hyn, medd Plinius, sydd yn arwyddocau Môr Marw. Cymerer oddiwrth y geiriau hyn eu terfyniadau Lladin, a doder at y dystiolaeth hyny enw y genedl, sef Cimbri, a phwy a all ameu mai Cymry oeddynt? Nid ydym yn gweled un peth idd ei wrthosod i'r daliadau uchod, oddieithr i ryw un ddywedyd am Josephus ei fod yn byw mor bell oddiwrth oes Gomer fel nad ydyw yn debygol fod ei awdurdod ef yn ddiamheuol. I hyn yr atebwn na allwn ni weled pa awdurdod oedd gan Josephus. Dichon fod ganddo hanesion y sawl ydynt yn awr wedi myned ar goll, o herwydd ni a wyddom fod amryw lyfrau hanesiol ac ereill gan yr Iuddewon gynt y rhai ydynt er ys oesoedd wedi eu colli yn llwyr; ac os cadwodd yr Iuddewon hanesion cynifer o'r cenedloedd ereill, nid yw yn annhebygol eu bod yn gwybod tarddiad y genedl Geltaidd, yr hon oedd unwaith yn cyffinio ar wlad Asia, ac mai nid heb awdurdod y dywedodd Josephus fod y Gomeri yn deilliaw oddiwrth Gomer. Pa darddiad arall a ymddengys mor resymol i'r enw? Rhai a ddywedant mai oddiwrth agwedd fynyddig Tywysogaeth Cymru y cymerodd ei thrigolion yr enw hwn; ond gwrthbrofa y Trioedd hyn, o herwydd gwelir yno fod y Cymry yn dwyn yr enw cyn dyfod i'r ynys hon. Haera ereill. mai oddiwrth cyn-bru y tardda, sef y trigolion cyntaf; ond paham y cymerai y Cymry yr enw hwn yn hytrach na thrigolion gwledydd ereill, a phaham y troent oddiwrth arfer yr oesoedd hyny yn mha rai y gelwid y prif drigolion yn ol eu gwahanol ben- cenedloedd? Y mae cefnogwyr y tarddiad cyn-bru yn cyfaddef i'r enw gael ei roddi yn foreu iawn, sef pan nad oedd trigolion ereill yn y tir, a hyn a'n dwg ni at oesoedd y gwasgariad, yr hyn a gymerodd le yn nghylch can mlynedd ar ol y diluw, pan roddwyd ynysoedd y cenedloedd i Japheth a'i hiliogaeth. Felly, pan ystyrir yr amrywiol ddaliadau hyn yr ydym yn barnu fod awdurdod hanes a thebygolrwydd amgylchiadau yn gwbl o ochr deilliad y Cymry oddiwrth Gommer . Y neb a ewyllysiant weled rhagor ar hyn darllement Herodotus; Archaiol, Vol. I p. 76, Vol. II. pp. 57, 58; Welle's Geo., Vol. I.; Celtic Researches, p. 135; Pearon Antiq. Celt, Ch. 8; Camden.
GEIRIADUR BYWGRAFFYDDOL
A
AARON, oedd wr enedigol o Gaerlleon ar Wysg, sir Fynwy. Y mae yn dra enwog mewn, hanesyddiaeth eglwysig, fel un o ferthyron cyntaf Ynys Prydein. Cafodd ef ac un arall o'r enw. Julius, eu rhoddi i farwolaeth gyda'u gilydd yn Nghaerlleon, trwy y poenau creulonaf a allasai gelynion ddyfeisio, yn ystod yr erledigaeth dan Dioclesian, yn y flwyddyn 303, tua'r un amser a St. Alban, yn ol fel y dywed Mathew o Westminster. Nid oes genym un hanes pa beth oedd ei enw Prydeinig. Yr oedd yn arferiad gan y Prydeiniaid Cristionogol i gymeryd enwau newyddion o'r Hebraeg, Groeg, neu y Lladin, ar y pryd eu bedyddid. Y fath oedd yr amgylchiad gydag Albanus ac Amphibalus, Yn ol Waltere Mapes, Geoffrey o Fynwy, a Giraldus Cambrensis, cysegrwyd eglwysi ardderchog i Aaron a Julius yn Nghaerlleon. Yr oedd yn perthyn i'r eiddo Aaron urdd enwog o ganonwyr, a'r eiddo Julius wedi eu hurddasu i chor o fynachesau. Cadarnheir hyn i ryw fesur gan Lyfr Llandaf, a hysbysir ni gan esgob Godwin, fod gweddillion yr eglwysi hyny i'w canfod yn ei amser ef. Y mae eu gwyliau wedi eu gosod yn y Merthyrdraeth Rhufeinig ar y cyntaf o Orphenaf. Bernir hefyd fod Llanharan, yn sir Forganwg, wedi ei chysegru i Aaron. Os felly, rhaid mai llygriad o Aaron yw Llanharan.
ABBOT, JOHN, ydoedd weinidog y Bedyddwyr o'r flwyddyn 1651, i'r flwyddyn 1660. Yr oedd yn cymeryd rhan yn y ddadl gyhoeddus ar fedydd yn eglwys St. Mary, Abergavenny, yn y flwyddyn 1653, rhwng Mr. Toombs, dros fedydd y crediniol yn unig, â Mr. Cragg, dros fedydd plant â bedydd y crediniol. Ymddengys mai un o'r Bedyddwyr oedd gweinidog y plwyf yn y Fenni yr amser hwnw. Yn hanes yr ymddadleu uchod gelwir ef Mr, Abbot, "preacher resident" a nodir ei fod wedi ei drochi. Tebygol iddo aros yno hyd yr erledigaeth; oblegyd y mae Dr. Calamy yn nodi ei droi ef allan o'r Fenni o gylch 1660. Y mae Mr. Crosby yn ei enwi yn mlaenaf o bump o wyr dysgedig a ymadawsant a'r Eglwys Sefydledig, ac a ymunasant â'r Bedyddwyr trwy drochiad. Cafodd ei droi ymaith o'r eglwys, meddir, yn 1660
ABEL, PARCH. JOHN, ydoedd fab i Mr. William Abel, o blwyf Llanstephan, yr hwn oedd yn arfer pregethu yn achlysurol yn Hen Gapel Llanybri a'r gymydogaeth hono. Cafodd Mr. John Abel felly ei ddwyn i fyny mewn teulu crefyddol, a thueddwyd ef yn moreu ei oes i roddi ei hunan i'r Arglwydd, ac i'w bobl yn ol ei ewyllys ef. Derbyniwyd ef yn aelod o'r eglwys gynulleidfaol yn Llanybri. Yn mhen ychydig amser canfyddwyd fod ynddo ddefnyddiau cymwys i fod yn bregethwr, anogwyd ef i arfer ei ddawn yn yr eglwys; a thua'r flwyddyn 1789, aeth i'r ysgol ramadegol yn Nghaerfyrddin. Derbyniwyd ef wedi hynny i'r coleg Henadurol yno; a phan oedd ei amser ar ddyfod i fyny, derbyniodd alwad oddiwrth yr eglwys gynulleidfaol a gyfarfyddai i addoli Duw yn Nghapel Sul, Cidweli ; cydsyniodd a'r alwad. Yn 1794, cafodd ei urddo yn weinidog ar yr eglwys hono, lle y bu yn llafurio gyda gradd o lwyddiant dros 25 o flynyddoedd. Yr oedd gelyniaeth trigolion Cidweli yr amser hwnw yn fawr at Ymneillduaeth; nid oedd y gynulleidfa ond bechan, a rhif yr aelodau yn ychydig. Ond trwy fod Mr. Abel yn ŵr dysgedig, ac yn cadw ysgol yn gystal a phregethu, efe a fu yn foddion yn law yr Arglwydd i symud gelyniaeth y trigolion, a daeth i gryn ffafr gydag amryw yn y dref a'r wlad oddi amgylch. Yr oedd arwyddion amlwg o foddlonrwydd yr Arglwydd ar ei weinidogaeth yn y lle.
ABRAHAM, esgob Tyddewi, yr hwn a ddaeth i'r esgobaeth ar waith Sulgen yn ei rhoddi i fyny, yn 1076; yn mhen dwy flynedd wed hyny efe a fu farw, oddeutu yr amser y glaniodd y Daniaid, ac y dinystriasant ddinas Tyddewi. (Brut y Tywysogion.)
ABRAHAM, ROWLAND, a anwyd mewn lle a elwir Dol Cwm Brwynog, ar odre yr Wyddfa, yn mhlwyf Llanberis, yn y flwyddyn 1769. Ei rieni oeddynt Abrabam a Chatherine Mathew. Hwy a symudasant o Ddol Cwm
Brwynog y flwyddyn 1784, pan oedd eu
mab Rowland yn bumtheng mlwydd oed, i'r
Brynteg, ym mhlwyf Llanddeiniolen; ac yn
fuan ar ol hyny efe a aeth i wasanaethu i
Lwynybedw, yn mhlwyf Llanberis, ac yno y
clywodd y bregeth gyntaf erioed oddi allan i
furiau llan y plwyf, gan un Thomas Evans, o'r
Waunfawr. Cawsom ein hysbysu y byddai
pregethau yn cyffroi cryn lawer ar ei feddwl
yn y blynyddoedd boreuol hyny o'i einioes;
ond fel y mae yn fynych gyda phobl ieuainc
byddai cyfeillach lygredig ei gyfoedion anystyriol yn gwisgo ymaith bob argraffiadau crefyddol oddiar ei feddwl yn fuan. Pan yn bedair blwydd ar bumtheg oed, efe a "newidiodd ei sefyllfa," trwy ymbriodi ag un Elinor
Hughes, o Gwmywrach, yr hon a fu yn "ymgelydd gymwys" iddo hyd ddiwedd ei oes.
Wedi ei briodi efe a aeth i fyw i hen gartref ei
rieni, sef Brynteg. Erbyn hyn yr oedd pregethu Sabbathol yn lled reolaidd gan y Trefnyddion Calfinaidd yn Llanrug; a phregethent
yn achlysurol yn Llanddeiniolen, a dechreuodd
yntau ddyfod yn wrandawr cyson; ac o'r diwedd, pan oddoutu tair ar hugain oed, efe a
ymunodd a'r ddeadell Fethodistaidd yn Llanrug, yr hon oedd yn cael ei chyfansoddi y
pryd hyny o tuag ugain o aelodau. Nid oedd
efe yn alluog i ddarllen llythyren ar lyfr pan
ymunodd a'r eglwys; ond trwy ymdrech diwyd
ni bu yn hir cyn gallu darllen y Beibl yn lled
rwydd a digyfeiliorn. Ond trwy ryw amgylchiadau a'i cyfarfu, daeth pangfa ar ei grefydd; ac fel Pedr, efe a wadodd ei Feistr, a bu
yn wrthgiliedig am rai blynyddoedd, am yr hyn y crybwyllai gydan gofid a chywilydd yn
fynych hyd ddiwedd ei oes; yn enwedig wrth
ymddiddan â gwrthgilwyr dychweledig. Eithr
ni chafodd ei adael yn y tir pell y crwydrasai
iddo; canys y Bugail da yn ei fawr drugaredd
a aeth ar ei ol, ac a'i dug adref ar eì ysgwyddau ei hun yn llawen; ac efo a fu o lysy hyd
ddiwedd ei ddyddiau, nid yn unig yn aelod,
ond hefyd yn weithiwr difefl yn ngwinllan ei
Arglwydd. A phan oedd efe yn ddeugain
mlwydd oed efe a ddewiswyd yn flaenor, neu
ddiacon, gan yr eglwys yn Llanrug. Nid oedd
gan y Trefnyddion Calfinaidd yr un addoldy
yn mhlwyf Llanddeiniolen hyd yn hyn; ond
trwy ei offerynoliaeth ef, a rhai brodyr ffyddlawn ereill, cafwyd yma adeilad fechan yn lled
fuan, yr hwn aelwid "Yr Ysgoldy;" ac y mae
hwnw erbyn hyn wedi ei helaethu drachefn a
thrachefn, fel y mae yn addoldy eang a hardd,
a chynulleidfa luosog a phrydferth yn ymgynull ynddo, at goffadwriaeth enw yr Arglwydd.
Efe a fu yn hynod o ffyddlon gyda'r achos
crefyddol yn y lle hwn, ac arferai yn y blynyddoedd hyny gynghori a rhybudio ei gymydogion pechadurus ar bob adeg gyfleus;
mewn cyfarfodydd gweddio, yn yr ysgolion
Sabbathol, &c., a chafwyd llawer o brofion na
bu ei lafur yn ofer yn y wedd ddysyml yma.
Ond ar ol bod yn ffyddlon a diwyd am flynyddoedd yn arfer ei ddawn yn y modd yma
yn ei gylch cartrefol, tueddwyd ei feddwl i
ymgyflwyno yn fwy llwyr i bregethu y gair
i'w gyd genedl; a'r hyn y cydsyniodd y cyfarfol misol yn rhwydd; ac er nad oedd efe
ond dyn gwledig a ddiaddysg, yr oedd yn feddianol ar synwyr cyffredin cryf, ac yr oedd eî
ddull syml a dirodres o ymdrin a'r gwirionedd,
yn peri fod ei weinidogaeth yn dderbyniol gan
yr eglwysi pa le bynag yr elai. Efe a barhaodd dros amryw flynyddoedd i deithio oddi
amgylch i bregethu ar y Sabbathau yn ei sir
ei hun; a bu gyda rhai o weinidogion y sîr ar
rai teithiau trwy siroedd ereill. Efe a ddyoddefodd lawer gan fethiant yn ei aelodau dros
y deng mlynedd diweddaf o'i oes, fel nas gallasai fyned nemawr oddicartref, heblaw i'r
addoldy y perthynai iddo; a chynelid cyfarfodydd gweddio yn ei dy yn fynych yn ystod
ei flynyddoedd diweddaf; a byddai yntau fel
Paul yn pregethu i'w gymydogion yn ei dy ei
hun; ond yr oedd ei lesgedd yn gymaint am
amryw fisoedd cyn eì farwolaeth, fel nas gallai
ymddiddan nemawr â neb heb boen dirfawr.
Ar yr 21 o Awst, 1841, efe a hunodd yn yr
Iesu, yn 72 mlwydd oed; ac ar y 25 o'r un
mis, hebryngwyd ei gorff i fynwent Llanddeiniolen, lle ei gadawyd i orphwys mewn gobuith
adgyfodiad i'r fywyd tragywyddol. Rhagoriaeth
Rowland Abraham oedd symledd ei feddwl, yr
hyn a welid yn mhob peth a wnelai. Er nad
oedd efe yn ddyn o wybodaeth eang, nac o
ddeall treiddgar, eto gwelai yr hyn a welai ar
unwaith, a dywedai ei feddwl bob amser yn
eglur, ar ar fyr eiriau. Os mewn cyfeillach
bersonol, efe a fyddai yn sicr o wneud y gyfeillach yn ddifyrus ac adeiladol; ac yn y cyfarfodydd eglwysig gwerthfawrogid ei wasanaeth yn neillduol, gan mor fedrus oedd efe i
ymddiddan a'i gyd bererinion am eu profiadau.
Deuai yn ebrwydd o hyd i agwedd eu meddyliau; ac yr oedd yn hynod o fedrus i gymhwyso
feddyginiaeth briodol at eu harchollïon.
Rhoddai gyngor byr ac i'r perwyl yn wastad,
gan lefaru gair mewn pryd wrth eneidiau diffygiol. Yr oedd ganddo ddawn hynod gyfaddas
hefyd i holwyddori ac addysgu plant, am hyny
byddai cryn awydd ac ymdrech am gael ei wasanaeth yn nghyfarfodydd ysgolion yr ardaloedd
cylchynol. Yr oedd efe yn dra medrus i gyfaddasu ei iaith at ddeall y plant, ac yn ochelgar rhag eu holi o bell, am bethau uwchlaw
eu dirnadaeth. Yr oedd efe yn wr mawr mewn
gweddi hefyd; nid gweddïau gwyntog disylwedd oedd yr eiddo ef, ond byddai ei weddïau
bob amser yn llawn o bethau sylweddol a
phwysig, a'r rhai hyny wedi eu gwisgo mewn
ychydig o ymadroddion, detholedig ac i'r pwrpas. Ac er nad ystyriodd efe ei hun erioed
yn nemawr o "bregethwr," ond yn hytrach
yn un o'r dosbarth dysyml a alwai ein tadau
"cynghorwyr." Yr oedd ynddo bethau teilwng o'i efelychu ynddynt gan lawer o'n pregethwyr mawr. Byddai ei bregeth bob amser
yn gorwedd yn esmwyth ar ei destun. Nid
darllen rhyw ran o'r ysgrythyr yn destun, a
phregethu athrawiaeth na pherthynai i'r rhan
hono a wnai efe; ond efe a ofalai yn wastadol
am bregethu gwirionedd neillduol eì destun;
ac fel hyn, er nad oedd efe yn ddyn mawr, cafodd y fraint o fod yn ddyn defnyddiol; ac er
nad oedd unrhyw rwysg yn gysylltiedig a'i
enw, namyn "Rolant Abraham" ddysyml, y
mae ei goffadwriaeth yn fendigedìg yn yr ardaloedd ai hadwnenid oreu.
ACHLEN, un o feibion Gwrthmwl Wledig, uchel deyrn y Prydeiniaid Gogleddol o ddechreu hyd ganol y chweched ganrif; yr hwn a ddaeth i Gymru ar ei waith yn colli ei diriogaeth. Cofnodir Achlen yn y Trioedd, (Myvyrian Archaiology ii. 8, 10,) fel yn cael ei gario gyda'i frawd Arthaned ar eu ceffyl erch i fyny i fryn Maelawr, yn Ngheredigion, neu sir Aherteifì, i ddial marwolaeth eu tad.
ADEBON, rhyfelwr, oedd yn byw yn y
chweched ganrif, a glodforwyd gan Aneurin a
Thaliesin; yr olaf a gyflwynai gerdd iddo a
elwid "Gorchon Adebon," neu "Swyngan Adebon". Y dernyn hwn, yn cynwys ond 15 llinell
yn unig, a ddyogelir yn y gyfrol gyntaf o'r
Myvyrian Archaiology tudal. 60.
ADDA (FAWR,) penaeth un o bum llwyth
gwerinol Cymru; y lleill oeddynt Gwenwys o
Bowys, Blaidd Rhydd, Heilyn, ac Alo, (Cambrian Biography,)
ADDA, (FRAS,) bardd, yr hwn a flodeuodd,
yn ol Edward Llwyd a'r Dr. Davies, oddeutu
y flwyddyn 1240. Nid yw yn hysbys pa un
a oes rhyw ddarn o'i waith wedi ei ddyogelu
ai peidio.
AEDENAWG, penaeth enwog, yr hwn a
hynododd ei hun yn nechreu y chweched ganrif, yn y rhyfeloedd a'r Sacsoniaid ; ac yn neillduol yn mrwydr Cattraeth, (Gwel Gododin
Aneurin). Mab ydoedd i Gieisiar y Gogledd,
a chofnodir ef yn y Trioedd fel un o'r tri Gwron, arwireb pa rai oedd peidio encilio o'r frwydr
ond ar eu helorau. Y ddau ereill oeddynt ei
frodyr, Grudmeu a Henbrien (Myfyr, Arch,
ii. 15.)
AEDD (MAWR.) tywysog yn nhrefedigaeth flaenaf y Brytaniaid, yr hwn a groesodd
drosodd o'r Cyfandir; a thad yr enwog Prydain.
AEDDAN, mab Blegwryd, ac wyr i Morgan Mawr, tywysog Morganwg. Yr oedd yn
rhyfelwr enwog. Ymddengys gyntaf mewn
hanesyddiaeth yn arwain byddin o'r Daniaid,
yn ol cyfarwyddyd Iestin ab Gwrgant, i sir
Benfro, lle y llosgasant ddinas Tyddewi, ac y
lladdasant Morgan, yr esgob, yn y flwyddyn
1000. Aeddan a ymosododd ar sir Aberteifi,
yr hon a orchfygodd, a chadwodd feddiant o
honi. Oddiyno efe a aeth yn erbyn Gogledd
Cymru, lle y gorchfygodd Cynan ab Hywel,
yr hwn a syrthiodd ar y maes; a'r modd hwn
efe a ddaeth yn ben llywodraethwr holl Gymru.
Er yn ormeswr, cofnodir ef fel wedi dangos
gofal a sylw mawr i lywodraethiad y wlad, adolygu y cyfreithiau, ac adgyweirio yr eglwysi
a ddinystriasid yn amser y rhyfeloedd. Yn
1015, ymosodwyd arno gan Llewellyn ab Seisyllt, y penllywydd cyfreithlawn, a lladdwyd
yn nghyd a'i bedwar nai, yn y frwydr. (Gwel
Hanes Cymru gan Price, 428.)
AEDDAN (FOEDDOG,) sant, yr hwn
oedd fab Caw ab Geraint; bu fyw yn y rhan
gyntaf o'r chweched ganrif. Yr oedd yn ddysgybl i Dewi Sant yn Nhyddewi. Oddiyno efe
a ymadawodd i'r Iwerddon, a chafodd ei benodi
yn esgob cyntaf Ferns; a'r amgylchiad hwn
a barodd i offeiriaid Tyddewi mewn amser diweddarach honi fod esgobaeth Ferns unwaith
yn ddarostyngedig i archesgobaeth Tyddewi.
Gyda golwg ar yr enw, gelwir ef gan y Gwyddelod, Moedog, a Madog; a chan Giraldus,
Maidocus. John o Teigumouth a ddywed :—
"Gelwir y person santaidd hwn Aidamus yn
mywyd Dewi Sant; ond yn ei fywyd ei hunan,
Aidus; ac yn eglwys Tyddewi gelwir ef Maddok, yr hwn sydd enw Gwyddelig, a chedwir
ei ddydd gwyl mewn parch mawr yn y lle
hwnw. Adrodda Giraldus hanes ryfeddol am
y modd y cariodd Aeddau haid o wenyn i'r
Iwerddon; oblegyd ni welwyd y fath greaduriaid erioed yn y wlad hono o'r blaen; ac ni
welwyd yn Nhyddewi wedi hyny. Y mae olion
coffadwriaethol o hono ar gael yn awr yn sir
Benfro, gan mai efe yw sylfaenydd tybiedig
Llaniaden, yn y sir hono, ac eglwysi Nalton
a West-Havolatone a briodolir iddo ef dan yr
enw Madog. Cynelir ei wyl ar y 31 o Ionawr.
(Rees's Welsh Saints).
AEDDAN (FRADOG,) oedd dywysog yn
mhlith y Brythoniaid Gogleddol yn y rhan olaf
o'r bumed ganrif. Gwarthnodir ef a'r enw
bradychwr. Efe a adawodd achos ei gydwladwyr, ac ymladdodd gyda'r Sacsoniaid yn
erbyn Rhydderch Hael, brenin Brythoniaid
Stratclyde. Am y rheswm hwn traddodwyd
ef i'w genedl gyda gwarth, wedi ymuno mewu
triant gyda Gwrgi a Medrod, fel tri charnfradwyr Ynys Prydain, y rhai oeddynt yn
achos i'r Brythoniaid golli llywodraeth yr
ynys. (Gwel Trioedd, 46, 52, Myv. Arch.
p. 11, 65.)
AELGYFARCH, sant, ac un o feibion Helig ab Glanawg, tiriogaeth yr hwn a orlifwyd
gan y mor yn y rhan flaenaf o'r seithfed ganrif. Ar yr amgylchiad efe ei hun a'i blant a
gofleidiasant fywyd crefyddol, a daethant yn
ddysgawdwyr Cristionogaeth selog. Y diriogaeth a safai rhwng sir Fon a sir Gaernarfon,
ac a elwir yn awr y Lavan Sands. (Bonedd y
Saint, yn Myv. Arch.)
AELHAIARN, sant, yr hwn oedd yn byw
yn y chweched ganrif, mab Hygarfael ab Cyndrwyn, o Llystynwenan, yn Caereinion, sir
Drefaldwyn, a brawd Llwchhaiarn a Chynhaiarn. Efe oedd sylfaenydd Llanaelhaiarn,
yn sir Gaernarfon, a Chegidfa, yn sir Drefaldwyn. Ei ddydd gwyl ef oedd ar y cyntaf o
Dachwedd. (Bonedd y Saint.)
AELRHIW, sant, nad oes genym ddim
gwybodaeth pellach am dano na bod eglwys
Rhiw, yn Lleyn, sir Gaernarfon, wedi ei sylfaenu ganddo; a bod ei wyl yn cael ei chadw
Medi 9fed, (Brown Willis's Survey of Bangor.)
AENWAY, JOHN, D.D., ydoedd wyr i
John Aenway, o Dregynon, sir Drefalwyn.
Yr oedd yn archddiacon Amwythig, yn eagobaeth Lichfield a Coventry; yn dal prebendariaeth Volney, yn yr un esgobaeth, a phersoniaeth Hodnet. Yr oedd yn selog bleidiol i'r
deyrniaeth yn amser y Siarliaid, a chymerwyd ef yn garcharor gan fyddin y milwriad Mytton pan gymerwyd Amwythig, Chwefror 22, 1644-5. Bu wedi hyny ar gêl dros y mor, lle yr ysgrifenodd, "The Tablet, or Moderation of Charles the First, martyr," yr hwn a argraffwyd wedi ei farwolaeth, yn 1661. Wedi dyoddef carchariad, a'i yru ar encil i Hague, yn Holland, gorfu arno fyned oddiyno i Virginia, lle bu farw yn 1662, cyn gwybod am adferiad Siarls II. (Walker's Sufferings of the Clergy; Meyrick's Dumo's Heraldry, Vol. i. 277.)
AERDEYRN, sant, i'r hwn yr oedd eglwys gynt wedi ei chysegru yn sir Forganwg; mab ydoedd i Gwrtheyrn, neu Vortigern, yr hwn a fu byw tua diwedd y bumed ganrif. (Cambrian Biography.)
AFAN BUALLT, sant, yr hwn oedd yn byw yn y rhan flaenaf o'r chweched ganrif. Yr oedd yn fab i Cedig ab Caredig ab Cynedda, a Tegwedd, merch Tegid Foel, o Benllyn. Efe oedd sylfaenydd Llanafan Fawr a Llanfechan, yn nosbarth Buallt, yn Mrycheiniog. Cafodd Eglwys Llanafan, Trawsgoed, yn sir Aberteifi, hefyd ei sylfaenu ganddo ef. Claddwyd ef yn Llanafan Fawr, lle y mae ei fedd-faen eto i'w gweled. Meddylir ei fod y trydydd esgob Llanbadarn; a chedwid ei wyl ef ar yr 16eg o Dachwedd. (Rees's Welsh Saints.)
AFAN FERDDIG, oedd Fardd Cadwallon ab Cadfan, brenin y Brythoniaid, yr hwn a flodeuai yn y seithfed Ganrif. Nid oes dim yn aros o'i weithiau. Cofnodir ef yn y Trioedd fel un o'r "Gwaywruddion feirdd," o nodwedd ryfelgar, yn groes i egwyddorion barddoniaeth. Mewn un Trioedd cysylltir ef ag Aronan a Dygynnelw, bardd Owain ab Urien; mewn un arall â Tristfardd, bardd Urien Rheged a Dygynnelw. (Myv. Arch. ii. 4, 64.)
AFAON, MAB TALIESIN. Canmolir ef yn y Trioedd fel bardd, yr hwn a gymerodd arfau er ainddiffyn ei wlad, ac a hynododd ei hunan o dan lywyddiaeth Cadwallawn ab Cadfan. Yn un Trioedd gelwir ef yn un o'r "Tritharw unben;" y ddau ereill oeddynt Cynhafal ac Elmur. Mewn rhai ereill, darlunir ef gyda Gwallawg ab Lleanawg, a Selyf ab Cyran Gorwyn fel y rhyfelwyr y rhai a barhasant i ladd ar eu beddau er dial eu camweddau. Trioedd arall a gofnoda ei farwolaeth gan Llawgad Trwm Bargawd, fel un o'r "Tair anfad Gyflafan" Ynys Prydain. (Myv. Arch. ii. 4, 9, 13, 14, 15, 69.) Cofnodir dywediad o'i eiddo yn yr englynion clywed. (Myv. Arch. i. 173.)-
"A glywesti a gant Afaon
Fab Taliesin gerdd gyfion?
Ni chel grudd gystudd calon."
AFARWY oedd fab Lludd, brenin y Brythoniaid. Bu farw ei dad cyn iddo ddyfod i'w oed. Cadwallon, ei ewythr, a gymerai arno y llywodraeth; yr hwn a roddodd Llundain a iarllaeth Kent i Afarwy, a Chornwal i'w frawd Teneufan. Caswallon, ar ol brwydr fuddugoliaethus ar y Rhufeiniaid, dan Cæsar, a wahoddodd yr holl benaethiaid i'w mawrygu, ac aberthu i'w duwiau, a chael gwleddoedd moethus. Yn ystod yr amser hwn dygwyddodd yn anffortunus i Hirlas, nai y brenin, gael ei ladd gan Cynheli, nai Afarwy, mewn ornest, yr hyn a gynddeiriogodd y brenin i'r fath raddau fel yr oedd yn benderfynol i'w ddwyn i brawf. Afarwy yn ofni y canlyniad, efe a'i nai a enciliasant o'r llys i'w diriogaethau ei hunan, yr hyn a ddygodd Caswallon a'i alluoedd i ymosod ar Lundain. Afarwy fel yma yn cael ymosod arno a erfyniai gymodiad â'r brenin, yr hyn a wrthodid. Yna efe a anfonodd i wahodd Cæsar drosodd i'w gynorthwyo, gan addaw ar yr un pryd ei gynorthwyo i ddarostwng y Brythoniaid i'r Rhufeiniaid. Ond ni farnai Cæsar yn addas i ddyfod i Brydain ar alwadau Afarwy yn unig, hyd onid anfonodd efe ei fab a deuddeg ar ugain o feibion y penaethiaid drosodd fel gwystlau. Yna efe a hwyliodd drosodd. Unodd Afarwy ag ef; a'u cydunol alluoedd a orchfygasant Caswallon. Afarwy heb ewyllysio i'r Brythoniaid fod yn fwy darostyngedig i'r Rhufeiniaid, a wnaeth i Cæsar yn anfoddlon i gytuno am heddwch ar y telerau o fod treth o dair mil o aur ac arian i gael eu talu yn flynyddol gan y Brytaniaid. Yr haf canlynol, aeth Afarwy gyda Cæsar i Rufein i wrthwynebu Pompey, lle yr arosodd am rai blynyddau, ac yn ei absenoldeb, bu farw Caswallon; a'i frawd ieuengaf, Teneufan, a'i canlynodd i'r orsedd. Y fath yw sylwedd hanes Afarwy yn y Brut Cymreig, wedi ei ddyogelu yn y Myv. Arch. Yn y Trioedd 21 gelwir ef yn un o'r "Tri Carnfradwyr" ag oedd wedi bod yn achos i'r wlad hon ddyfod dan deyrnged i'r Rhufeiniaid.
AIDAN, dysgybl i St. Dubricius, yn Henllan, ar lanau yr afon Gwy. Yr oedd yn byw
yn y bumed ganrif; a chafodd ei benodi yn
rhaglaw esgob yn Ergyng, rhandir yn sir Henffordd, yn nheyrnasiad Cynfyn, mab Pebian,
brenin Ergyng. (Llyfr Llandaf.)
AIDAN, esgob Llandaf, yr hwn a roddwyd
i farwolaeth, gyda llawer o'i offeiriaid, pan
gafodd yr eglwysi eu hysbeilio gan y Sacsoniaid paganaidd, yn y flwyddyn 720. (Myv.
Arch. ii. 473.)
AILFYW, sant, yr hwn oedd fab Derden
a Danadlwen, merch Gynyr o Gaergawch.
Efe a flodeuodd yn y chweched ganrif, ac a
sefydlodd eglwys Llanailfyw, neu St. Elvis,
ger Tyddewi. (Bonedd y Saint, Rees's Welsh
Saints.)
ALAN, sant, yr hwn a anwyd yn Armorica.
Bu fyw oddeutu canol y ehweched ganrif. Yr
oedd yn fab i Emyr Llydaw. Wedi gadael ei
wlad enedigol efe a ddaeth yn aelod o goleg
Illtyd, yn sir Forganwg. Bu iddo dri mab,
o'r enwau Lleuddad, Llonio Lawhir, a Llynab,
y rhai oeddynt aelodau o'r un coleg, ac a
ddaethant yn addurniadau nodedig o'r eglwys
Gymreig.
ALAN (FORGAN,) tywysog, yr hwn a
laddwyd yn maes Camlan, O. C. 542, o herwydd
bradwriaeth ei wyr, y rhai a'i gadawsant
pan ar fyned i frwydr; o herwydd hyn cofnodir hwynt yn y Trioedd fel un o'r tri "Anaiwair Deulu," neu Dylwythau anffyddlon Ynys Prydain. Y ddau ereill oeddynt Llwythau Goronwy Befr, o Benllyn, a Peredur. (Gwel Myv. Arch. ii. 70.)
ALBAN, y Cristion cyntaf a ddyoddefodd ferthyrdod yn Mhrydain. Ganwyd ef yn Verulam, neu St. Alban, yr haner ddiweddaf o'r drydedd ganrif. Yn ol Mathew o Westminster, Thomas o Welsingham, ac awdurdodau ereill, ei rieni oeddynt Frythoniaid. Megys Aaron, o bosibl iddo fabwysiadu yr enw Albanus yn lle ei enw gwreiddiol Prydeinig, ar amser ei droedigaeth. Yn ei ieuenctyd efe a aeth i Rufain, yn cael ei ganlyn gan Amphibalus, a gwasanaethodd saith mlynedd yn myddinoedd yr ymerawdwr Dioclesian. Wedi iddo ddy- chwelyd adref, efe a sefydlodd yn ei dref enedigol, lle y bu byw mewn parch mawr hyd yr erledigaeth dan yr ymerawdwr hwnw. Yn y cyfryw amser yr oedd wedi ei ddychwelyd at Gristionogaeth gan Amphibalus; a rhoddwyd ef i farwolaeth yn y flwyddyn 303. Adroddir hanes ei ferthyrdod yn fyr gan Gildas, ond yn fwy amgylchiadol gan Bede, yr hwn a ddywed i Alban pan yn bagan, neu cyn ei bod yn gyffredinol wybodus ei fod wedi cofleidio Cristionogaeth, noddi Amphibalus yn ei dy. Wedi i'r ymerawdwr Rhufeinig glywed ei fod yn noddi Cristion, efe a anfonodd filwyr i'w ddal; ond Alban a osodai am dano wisg ei letywr, ac a gyflwynai ei hun yn ei le, a chafodd ei gymeryd o flaen yr ynad hwnw. Pan ddygid Alban o'i flaen, dygwyddai ei fod yn aberthu i'r duwiau; ac ar ei waith yn gwrthod cyduno yn y defodau, a chyffesu ei hun yn Gristion, gorchymynodd ar iddo gael ei ddienyddio yn uniongyrchol, pan y bu ei ymddygiad yn offerynol i ddychwelyd llawer o'r edrychwyr at Gristionogaeth. Torwyd ymaith ei ben ar y degfed dydd o Orphenaf. Gellir canfod hanes cyflawn o hono yn y gyfrol gyntaf o'r Biographia Britannica.
ALBANACTUS, oedd un o dri o feibion Brutus, oddiwrth yr hwn, fel y dywed rhai ysgrifenwyr, y cafodd yr ynys hon yr enw Prydain. Yn ol yr hanes, yr oedd Brutus yn frenin yr holl ynys; a chafodd ei wraig Inogen dri mab, Loerin, Camber, ac Albanact. I'r henaf y rhoddodd efe ganolbarth, a'r rhan oreu, a elwir oddiwrtho ef, Lloegria; yr hwn enw a roddir i'r wlad gan y Cymry hyd heddyw. Yr ail fab a gafodd Cambria, a elwir yn bresenol Cymru; a'r ieuangaf, Albanact, a gafodd i'w ran ef yr holl wlad i'r gogledd o'r Hymber. Yr oedd hyn rai blynyddau cyn marwolaeth Brutus, yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 1114 cyn Crist. Am rai blynyddau llywyddai y tri eu priodol wledydd mewn heddwch a llwyddiant; ond o'r diwedd Humber, brenin yr Huns, a oresgynodd lywodraeth Albanact gyda byddin gref, a'i lladdodd, ac a yrodd ei bobl ar ffo am gysgod i Loegr. Efe, er dialu marwolaeth ei frawd, a gasglodd ei alluoedd, ac wedi cwrdd a'r goresgynwr, yr hwn yn awr oedd wedi cyraedd ei diriogaethau ef, a'i gorchfygodd, ac yn ei ffoedigaeth efe a'i gyrodd i afon, lle y boddodd, a'r hon a elwir oddiwrtho ef, Hymber. Cymerodd hyn le oddeutu 1104 cyn Crist; ac oddiwrth Albanact gelwid y rhan ogleddol o'r ynys hon, Alban. Adroddir yr holl hanes yn dra manol yn y Brut Cymreig, a chan Geoffrey o Fynwy; ond y mae yn gwbl anghydweddol à hanesiaeth, a thraddodiadau boreuaf y Cymry. Gellir canfod ysgrifenwyr ereill yn traethu yr un chwedl yn y gyfrol gyntaf o'r Biographia Britannica.
ALED (TUDUR) oedd fardd enwog, yr
hwn oedd enedigol o sir Dinbych. Yr oedd
yn byw yn Garth Geri, yn mhlwyf Llansanan,
trwy ba un y rhed yr afon Aled, oddiwrth yr
hyn y cymerai ei enw. Yr oedd yn fynach o
urdd Dominic. Y mae llawer o'i ganiadau yn
cael eu dyogelu yn barhaus mewn ysgrifen.
Yn eu plith y mae hanes y gwyrthiau a gyflawnwyd gan ffynon St. Winifred, yn gystal a
hanes dychymygol y sant hwnw. Yr oedd
hefyd yn un o ganlynwyr Syr Rhys ab Thomas,
o Dynefor, wrth yr hwn y mawr ymlynai, ac
mewn clod i orchestweithiau yr hwn y cyfansoddodd amryw ganiadau. Tudur Aled a
flodeuodd o'r flwyddyn 1480 i 1520. Yr oedd
yn nai a dysgybl i Dafydd ab Edmund, ar
farwolaeth yr hwn y cyfansoddodd farwnad,
yr hon yn nghyd ag ychydig o rai ereill o'i
ganiadau sydd wedi eu hargraffu yn "Ngorchestion Beirdd Cymru," gan Jones.
ALMEDHA, sant, yr hon oedd yn byw
yn y rhan flaenaf o'r bumed ganrif. Yr oedd
yn un o ferched lluosog Brychan, tywysog
Deheudir Cymru; a gelwir hi rai gweithiau
Elevetha, ac Aled; ac yn rhestr plant Brychan
yn y Myv. Arch., gelwir hi Elmed. Giraldus
Cambrensis a sonia am dani dan yr enw Almedha, a dywed ei bod o'i hieuenctyd yn gyflwynedig i grefydd, ac wedi gwrthod llaw
tywysog yr hwn a'i ceisiai mewn priodas, hi a
ymorfoleddodd mewn merthyrdod dedwydd.
Hi a ddyoddefodd ar ben bryn a elwir Penginger, ger Aberhonddu, lle yr adeiladwyd
eglwys wedi hyny, yr hon a gysegrwyd iddi
hi; a chedwid ei gwyl ar y cyntaf o Awst
gyda difrifoldeb mawr. Byddai lluoedd o
bobl yn dyfod yn nghyd o gryn bellder, y rhai
a flinid gan wahanol glefydau, a dysgwylient
dderbyn iachad trwy haeddiant Mair Fendigaid. (Gwel Hoare's Giraldus, i. 35.)
ALO, tywysog Powys, yr hwn oedd benaeth un o bump llwyth gwerinol Cymru; y
lleill oeddynt Gwenwys, Blaidd Rhydd, Adda
Fawr, a Heilyn Ysteilfforch, o Forganwg.
ALON, sydd enwog yn y Trioedd, fel wedi
bod y cyntaf, yn nghyd a Plennydd a Gwron,
i ddwyn breiniau a defodau barddoniaeth i gyfundrefn dan nawdd y genedl. Yn ol un hanes
gosodir hwynt allan yn amser Prydain ab Aedd
Mawr, yn mysg trefedigwyr cyntaf yr ynys
hon; tra y dywed arall eu bod yn byw yn amser Dyfnwal Moelmud. Dr. Owen Pugh, yn
ei "Cambrian Biography," a ystyria ei bod yn
debygol mai yr un person ydoedd ag Olen,
Olenus, Ailinus, a Linus, yn mysg y Groegiaid, oddiwrth yr amgylchiad fod yr un priodoleddau yn cael eu prindoli iddynt hwy ag i
Alon yn y Trioedd. (Myv. Arch., ii. 67.)
ALSER, mab Maelgwn, a gofnodir mewn dau o'r Trioedd fel meddianydd un o dri cheffyl gorhoenus ynys Prydain. (Myv. Arch., ii. 19, 20.)
AMABON, (GLOCHYDD,) penaeth un
o dair llinach ddiweddar Cymru. Y lleill oeddynt Cantelli ac Osborn. (Cam. Biog.)
AMLAWDD (WLEDIG,) tywysog y
Brythoniaid Gogleddol, yr hwn oedd yn byw
tua diwedd y bumed ganrif. Yr oedd yn dad
Tywynwedd, neu Tyfrydog, a'r brenin Arthur.
Coffeir am dano ef yn y Mabinogi Kilhwch ac
Olwen. (Gwel Lady Guest's Mabinogion,
part 4.)
AMPHIBALUS, y gwr enwog hwn, fel y
dywed Giraldus Cambrensis a Ranulphuo Cestrensis, oedd enedigol o Gaerlleon, sir Fynwy,
y pryd hwnw oedd brif ddinas Cymru, lle y
ganwyd ef, yn y drydedd ganrif; ereill a
haerant mai mynach ydoedd, ac yn dal swydd
yn eglwys gadeiriol y ddinas hono. Modd
bynag, y mae yn sicr iddo fod yn offerynol yn
nhroedigaeth Alban, gan yr hwn y cafodd ei
ddyogelu yn St. Alban. Pan anfonodd llywodraethwr Rhufain filwyr i'w ddal, gwisgodd
Alban ei wisg, ac ymddangosodd o flaen yr
ynad yn ei le ef, ac felly rhoddodd gyfle i
Amphibalus ffoi. Ar ol ei ddiangfa, efe a
ddychwelodd i Gaerlleon, lle y pregethodd
gyda llwyddiant rhyfeddol, ac y trodd rifedi
lawer i'r ffydd Gristionogol; a dywedir, o
herwydd dychweliad cynifer ar amser dienyddiad Alban, i oddeutu mil o wyr St. Alban
deithio i Gymru, lle y cawsant oll eu bedyddio
gan Amphibalus. Cynddeiriogodd hyn y rhan
baganaidd o'r trigolion i'r fath raddau fel y
cymerasant arfau, ac a'u dilynasant i Gymru,
lle y syrthiasant arnynt, gan eu dryllio yn
ddarnau. Amphibolus ei hun a ddygwyd
ymaith ganddynt yn gaeth, ac a ddyoddefodd
ferthyrdod yn Rudburn, tair milltir o St.
Alban, lle y llabyddiwyd ef a cheryg i farwolaeth.
AMWN (DDU), sant, a fu byw yn y rhan
gyntaf o'r chweched ganrif. Yr oedd yn fab
i Emyr Llydaw, ac yn ben llywodraethwr tiriogaeth a elwid Graweg yn Armorica. Efe a
ddaeth drosodd i Gymru, lle y sefydlodd, a
phriododd Anna, merch Meurig, tywysog
Morganwg, o'r hon y cafodd ddau fab, Samson
a Tathan, y rhai oeddynt enwog o ran eu
daioni. Dywedir iddo fwynhau cyfeillgarwch
Illtyd, o sefydliad yr hwn yn Llanilltyd y
daeth yn aelod. Preswyliai ar ynys fechan yn
agos i'r lle, hyd oni symudodd i anialdir ar
lanau Hafren, lle y treuliodd weddill ei oes.
Ymddengys i Anna adeiladu eglwys yn y lle,
yr hon a gysegrwyd iddi gan Samson. Claddwyd ef yn Llanilltyd Fawr. (Rees's Welsh
Saints, p. 219.)
ANARAWD, mab henaf Rhodri Mawr, yr
hwn oedd benllywydd holl Gymru, yr hon a
ranodd efe rhwng ei dri mab ar ei farwolaeth,
yn 876. Cafodd Anarawd Gwynedd, neu Ogledd Cymru, yn rhan iddo; Cadell a gafodd
Ddeheudir Cymru; a Merfyn a gafodd Powys.
Yr oedd ei goron yn mhell o fod yn ysgafn,
gan ei fod yn barhaus mewn rhyfel a'r Sacsoniaid. Yn 880, ymladdodd frwydr Cymryd,
ger tref Aberconwy, sir Gaernarfon, lle y
gorchfygodd ef y Sacsoniaid, gyda lladdfa fawr;
a dialodd farwolaeth ei dad, yr hwn oedd wedi
ei ladd ganddynt yn sir Fon. Gelwir y frwydr
hon mewn hanesyddiaeth Gymreig, "Dial
Rhodri." Y mae ei deyrnasiad hefyd yn nodedig am fudiad y Brythoniaid Gogleddol, yn
890, y rhai a wasgwyd gan eu gelynion, a
adawsant Stratclyde, a chawsant dderbyniad
croesawgar gan Anarawd, yr hwn a roddodd
iddynt dir yn siroedd Dinbych a Fflint, ar yr
amod iddynt fwrw allan y Sacsoniaid oeddynt
wedi cymeryd meddiant o honynt, yr hyn a
gyflawnwyd yn foddhaol. Yn 892, Anarawd
a oresgynodd diriogaethau ei frawd yn Neheudir Cymru, y rhai trwy dân a chleddyf a ddifrododd efe. Yn 900, Cadel', yr hwn oedd yn
flaenorol wedi darostwng Powys dan ei lywodraeth, a fu farw, ac felly Anarawd a ddaeth
yn benllywodraethwr holl Gymru, a theyrnasodd hyd ei farwolaeth yn 913, pan y gadawodd dri o feibion, Edwal Voel, Ellis, a Meurig. Cofnodir Anarawd, Cadell, a Merfyn yn
y Trioedd, fel y "Tri Theyrn taleithiog," neu
dri thywysog coronog Ynys Prydain. (Myv.
Arch., ii. 64.)
ANDREAS, sant, yr hwn oedd fab Rhun
ab Brychan. Blodeuodd yn y bumed ganrif.
Tybir mai efe a sylfaenodd eglwys St. Andrew,
sef Denis Powys, ger Caerdydd. (Rees's
Welsh Saints.)
ANDREWS, JOSHUA, oedd weinidog yr
efengyl yn perthyn i'r Bedyddwyr. Nid oes
genym yr un wybodaeth am dano ond iddo gael
ei urddo yn weinidog cynorthwyol yn Mhen-
ygarn, ger Pontypool, sir Fynwy. Yn y
flwyddyn 1745, neu 1746, rhoddodd yr eglwys
yn Olchon, neu Gapel y Ffin alwad iddo i'w
cynorthwyo am ddau Sabbath yn y mis. Yr
oedd Mr. J. Andrews yn byw yn agos i Bont-
ypool. Yr oedd yn Gristion da, yn bregethwr
derbyniol a chymeradwy. Er fod ganddo lawer
o ffordd i deithio i Gapel y Ffin, eto efe a bar-
haodd yn ffyddlon i wasanaethu yr eglwys
hono hyd y gallai am ddau Sabbath yn y mis
am 40 mlynedd, gyda Mr. George Watkins. Efe
oedd yn gweinyddu yr ordinhadau yn eu plith.
Cafodd ei gymeryd yu glaf, a bu farw, yn 1793,
a chladdwyd ef yn y Trosnant, lle y mae careg
ar ei fedd yn awr i'w gweled.
ANE, un o feibion Caw, arglwydd Cwm
Cowlwyd, tiriogaeth yn Ngogledd Lloegr, yr
hon a boenid gan ruthriadau parhaus y Pictiaid a'r Ysgotiaid, efe a ymfudodd gyda'i
deulu i Gymru, a chafodd dir yn Mon gan
Maelgwn Gwynedd. Cyfrifir Ane yn mhlith
y seintiau Cymreig; a gelwir eglwys Coed
Ane, yn y sir hono, ar ei enw. Efe a flodeuodd yn y chweched ganrif.
ANEURIN, oedd un o'r beirdd, yr hwn a
flodeuodd yn y rhan flaenaf o'r chweched
ganrif. Yr oedd yn fab i Caw, arglwydd Cwm
Cowlwyd. Oddeutu y flwyddyn 540, ymladdwyd brwydr waedlyd Cattraeth, rhwng y Prydeiniaid a'r Sacsoniaid, pan orchfygwyd y
blaenaf a lladdfa fawr, fel mai allan o dri chant
a thri ugain a thri o benaethiaid Prydeinig.
dim ond tri yn unig a ddiangasant yn fyw, un
o ba rai oedd Aneurin. Cymerwyd ef wedi
hyny yn garcharor, llwythwyd ef â chadwynau,
a thaflwyd ef i'r ffau, o'r lle y rhyddhawyd ef
gan Ceneu, mab Llywarch Hen. Brwydr ddinystriol Cattraeth a achosodd fudiad niferi o'r
Prydeiniaid Gogleddol at en cenedl berthynasol yn Nghymru; a dywedir i Aneurin gael
noddfa yn ngholeg rhagorol Cattwg, yn Neheudir Cymru, lle oddeutu 570, y cafodd ei
ladd yn fradwrus gan Eiddin. (Myv. Arch.,
ii. 65.) Brwydr Cattraeth yw testun cân
wronaidd, gan Aneurin, yr hon sydd eto ar
gael. Y mae y gwirionedd o hyn wedi ei brofi
tu hwnt i bob amheuaeth gan Sharon Turner,
yn ei "Amddiffyniad hen Ganiadau Prydeinig: Llundain, 1803." Gelwir y Gan fawreddog hon, "Y Gododin," ac ystyrir hi gan y
beirdd Cymreig yn mhob oes yn brif waith, neu
brif gynllun ardderchogrwydd mewn barddoniaeth. Dywed y Dr. W.O. Pugh yn ei Cambrian
Biography, mai yr un person oedd Aneurin a
Gildas.
Y mae yn sicr mai nid enw Prydeinig
yw Gildas, ond mewn gwirionedd mai cyfieithad Sacsonaidd yw o Aneurin, yn ol yr arferiad
ag oedd yn gyffredin yn y canol oesau.
Gan fod enw Gildas yn cael ei adael allan o'r hen
ysgrifeniadau sydd yn haeru mai mab Caw
oedd Aneurin, a bod enw Aneurin yn cael ei
adael heibio yn yr ysgrifeniadau sydd yn dangos fod Gildas yn fab Caw, rhai a dybiant mai
yr un person dan wahanol enwau oedd Gildas
ac Aneurin, ac mai enw a roddid iddo fel dysgawdwr oedd Gildas. Y mae llawer o wahaniaeth rhwng egwyddorion awdwr y "Gododin "
ag egwyddorion Gildas dduwiol. Y mae yn
fwy rhesymol gan hyny i feddwl mai gwahanol
bersonau, oeddynt oddieithr cael allan i'r "Gododin" gael ei gyfansoddi pan oedd yr awdwr
yn ieuanc, ac yn dueddol i baganiaeth, ac i'r
llyfr a elwir Gildas gael ei ysgrifenu wedi
iddo gael ei egwyddori yn gyflawn yn athrawiaethau y grefydd Gristionogol.
ANGAR, un o feibion Caw, a rhyfelwr nodedig, yn nechreu y chweched ganrif. Cofnodir dywedial o'i eiddo yn Englynion y Clywed, (Myv. Arch., i. 173.)
"A glywaisti a gant Angar
Mab Caw, milwr clodgar,
Bid ton calon gan galar."
ANGHARAD (DON FELEN,) neu gyda'r
croen melyn, sydd glodfawr yn y Trioedd, fel
un o dair Gorhoyw Riein Ynys Prydain. Y
ddwy arall oeddynt Annan a Perwyr. (Myo.
Arch., ii. 16.)
ANHUN, neu ANNUN, santes, oedd yn
byw yn y bumed ganrif. Hi oedd llawforwyn
Madrun, gwraig Ynyr Gwent, a merch Gwrthefyr, neu Fortimer. Dywedir iddi, mewn
cysylltiad a'i meistres, sylfaenu Eglwys Trawsfynydd, yn sir Feirionydd.
ANIAN, oedd y 13eg archesgob Tyddewi,
yn canlyn Cledawg. Yr oedd yn byw yn y
rhan olaf o'r wythfed ganrif.
ANNA, merch Gwrthefyr, a gwraig Gynyr,
o'r hon y cafodd Non mam Dewi Sant. Yr
oedd yn byw yn y bumed ganrif.
ANNA, merch Meurig ab Tewdrig, tywysog
Morganwg. Priododd ag Amwn Ddu, i'r
hwn yn ei henaint y dygodd ddau o feibion,
Samson, archesgob Tyddewi, a Tathan, yr hwn
oedd enwog mewn daioni. Hi a fu byw tua
diwedd y bumed ganrif. (Llyfr Llandaf.)
ANNAN, merch Maig Mygotwas, a gofnodir yn y Trioedd fel un o'r Tair Gorhoyw
Riein Ynys Prydain. Y ddwy arall oedd
Angharad a Perwyr. (Myv. Arch. ii. 16.)
ANNO, enw yr hwn mewn rhai ysgrifau
yw Amo, oedd sant, i'r hwn y mae eglwys
Llananno, yn sir Faesyfed, wedi ei chysegru,
hefyd Newborough, yn Mon, yr hon gynt a
elwid Llananno. (Bardd y Saint.)
ANWAS (ADEINIOG,) un o ryfelwyr y
brenin Arthur, yr hwn o bosibl a dderbyniodd
yr enw hwn oddiwrth gyflymdra ei farn. Gan
rai modd bynag, ystyrir efo nodwedd ffugiol.
Ymddengys ei enw mewn cân gywrain, o
ddyddiad borea; ond nid yw yr awdwr yn
adnabyddus, yn cynwys ymddiddan rhwng
Arthur, Cai, a Glewlwyd, yr hon a gedwir yn
y Myvyrian Archaiology, i. 167. Enwir ef
hefyd yn nghyd â rhyfelwyr ereill i Arthur,
yn y Mabinogi, Kilhwch ac Olwen, tudal. 259.
ANWYL, ELLIS, ydoedd fardd yn Meirion
tua chanol yr 16 ganrif. Y mae englynion o
anerchiad o'i eiddo yn gysylltiedig & chyfieithad o Ystyriaethau Dietelius ar dragywyddoldeb, gan Lewis Ellis, o'r Llwyngwern, yn sir
Feirionydd, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn
1661.
ANWYL, MORRIS, ydoedd fab i Robert
Anwyl, o'i wraig, Margaret Owen; ac efe a
anwyd Ebrill 16, 1814, yn y lle a elwir Dinas
Moel, gerllaw Beddgelert. Yr oedd efe yn
hanu o du ei dad, o dylwyth Dafydd Nanmor,
i'r hwn, meddir, y rhoddes Rhys Goch, o Hafod Garegog, dyddyn bychan, o'r enw Cae
Dafydd, yn etifeddiaeth; ac o du ei fam, o
dylwyth Hafod Lwyfog, yn mhlwyf Beddgelert. Nid oedd rhieni Morris Anwyl yn aelod-
au eglwysig pan aethant i'r sefyllfa briodasol;
ond yn mhen tua phum mlynedd ar ol priodi,
bwriasant eu coelbren yn mysg pobl yr Arglwydd, ac felly dygasant eu plant i fyny dan
addysg grefyddol. Yn mhen rhyw gymaint
o amser ar ol priodi, symudodd Robert Anwyl
i gyfaneddu ar ei hen dreftadaeth, Cae Dafydd
Nanmor, ac yno y bu cartref Morris tra bu efe
byw. Er i Morris Anwyl gael ei fagu yn yr
eglwys, pan ddaeth efe yn alluog i fyw arno ei
hun, fel y dywedir, efe a gefnodd ar eglwys
Dduw, gan wenieitho iddo ei hunan y mwynhai lawer mwy o hyfrydwch, wedi cael ei ben
yn rhydd o dorch llywodraeth eglwysig. Ond
mewn rhyw adfywiad crefyddol lled rymus a
gymerodd le yn fuan wedi hyny yn y Rhyd
Ddu, daliwyd yntau, a "than gerdded ac
wylo," efe a ymofynodd am aelodaeth gyda phobl yr Arglwydd. Dylynai alwedigaeth
mwnwr y blynyddoedd hyny, gan weithio
weithiau yn nghymydogaeth Beddgelert, ac
weithiau yn nghymydogaeth Ffestiniog. Yn
ei gymydogaeth gartrefol, Nanmor, y dechreuodd efe bregethu; a hyny trwygymhelliad taer yr
henuriaid eglwysig yn y lle; ac mewn angladd
yn y gymydogaeth hono y traddododd efe y
bregeth gyntaf. O ran ei dymer naturiol, yr oedd
o duedd dawedog a gwylaidd; ond o feddwl
tra phenderfynol. Efe a fu dros ryw dymor
yn athrofa y Bala; a thra fu yno, aeth ryw noswaith i bregethu i amaethdy ychydig o'r dref;
ac fel yr oedd yn myned tua'r lle, gan ei bod yn
gwlawio yn drwm efe a wlychodd yn ddirfawr;
a thra yr ydoedd yn pregethu yn y dillad gwlybion hyny efe a deimlodd boen tost-lym yn cymeryd gafael yn ei fraich, fel pe ei gwanesid ag
arf. Yn mhen ychydig symudodd y boen o'i
fraich i'w ystlys; ac ni chafodd ymwared o'i boen
yma hyd oni therfynodd yn ei angeu. Yn y canlyniad i'r anhwyldeb yma, efe a ddychwelodd
o'r Bala yn gynt nag y bwriadai ar y dechreu;
a chymerodd dyddyn o'r enw Tanyrhiw, Nanmor; a thrwy y blynyddoedd olaf o'i fywyd efe a
fu yn dra diwyd a gweithgar gydag achos crefydd yn yr ardal; sefydlodd fath o ysgol nos
i bobl ieuainc yr ardal; a cherddai o Danyrhiw
i Gapel Peniel unwaith bob wythnos am oddeutu deunaw mis, i gyfarfod y bobl ieuainc, i'w
hyfforddi mewn ieithyddiaeth, &c.; a rhoddai
destunau iddynt i gyfansoddi traethodau, trwy
yr hyn yr oedd efe yn cael mantais i'w symbylu i feddwl, a'u hymarfer i wisgo y meddwl
hwn mewn iaith drefnus; a gadawodd yr ymdrech yma o'i eiddo ei ol ar yr ardal na ddileir yn yr oes hon. Yr oedd efe yn feddianol ar ddawn
neillduol i gyfranu addysg; os byddai rhyw
un yn rhoddi ateb cyfeiliornus iddo, ni ddywedai yn uniongyrchol wrtho ei fod yn cyfeil-
iorni; ond efe a arweiniai y dysgybl yn ddiarwybod iddo ei hun yn rhywfodd, i safle o'r
hon y gwelai efe ei gyfeiliornad yn eglur, ac
megys o hono ei hunan. Efrydydd diflin, a
gweddiwr dyfal iawn oedd Morris, pan yn
gweithio yn galed yn y cloddfeydd ar hyd y
dydd, efe a dreuliai oriau yn ei ystafell ddirgel
wedi noswylio yn wastadol, ac yr oedd ei Dad
yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, yn gofalu
am dalu iddo yn yr amlwg. Yr oedd ei bregethau yn gyffredinol o arwedd ddifrifol, a
thra sylweddol. Yr oedd golwg dra gobeithiol
gan ddynion craff arno, ei fod yn debyg o ddyfod yn athrawiaethwr cadarn; ond efe a gymerwyd ymaith gan y darfodedigaeth twyllodrus yn ieuanc; canys efe a hunodd yn yr
Iesu, Awst 12, 1846, yn 32 oed. Yr oedd ei
rodiad diargyoedd, ei weddïau taerion, a'i lafur
egniol, yn nghyd a'i brofiadau uchel o bethau
ysbrydol, yn ei hynodi fel Cristion; ac yr oedd
nertholrwydd ei enaid i dreiddio i mewn i
ddirgelwch yr efengyl, yn nghyd a'i ddawn nodedig i osod cynyrch ei fyfyrdodau ger bron ei
gyd ddynion, yn ei hynodi fel cenad dros Grist.
ANWYL, PARCH. EDWARD, oedd fab i Owen ac Ann Anwyl, o'r Ty'nllan, Llanegryn, yn sir Feirionydd, lle y ganwyd ef yn Ebrill, 1786. Ymunodd a'r Wesleyaid pan ymwelodd eu gweinidogion fel cenhadon gyntaf a'r gymydogaeth, yn y flwyddyn 1804. Daeth yn fuan yn ddyn o aylw, trwy ei sel, grym naturiol ei feddwl, a pharodrwydd ei ymadroddion, ac anogwyd ef i arfer ei ddawn yn gyhoeddus yn 1808. Bu wedi hyny yn cadw ysgol Gymraeg yn Mhenrhyndeudraeth. Ychydig fisoedd y bu yno; canys oblegyd diffyg llafurwyr yn y blynyddoedd boreuaf hyny ar Wesleyaeth Gymreig yn y Dywysog- aeth, galwyd ef i'r weinidogaeth amdeithiol yn Awst y flwyddyn hono. Maes cyntaf ei lafur oedd Mon. Yr oedd yn selog, hyf, a gwrol. Yn 1814, priododd ag un Miss Mathews, o Drelai, Morganwg, a bu iddynt 11 o blant. Yr oedd o gyfansoddiad cryf, esgyrnog, gydag ychydig iawn o gnawd, yr hyn oedd yn ei alluogi i fyned trwy y llafur caletaf mewn teithio ar ei draed, a phregethu, heb unrhyw anfantais gweledig, er cerdded 50 milltir mewn diwrnod. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof cryf digyffelyb i gadw yn ei feddwl yr hyn a ddarllenai, ac yn ei wneud yr hanesydd goreu yn y Dywysogaeth am holl wledydd y ddaear a'u trigolion, ac yn ei wneud yn gyfaill difyrus yn mhob cyfeillach. Yr oedd fel duwinydd yn feddyliwr dwfn a goleu, ond yr oedd ei gyfansoddiadau gweinidogaethol yn dangos esgeulusdra trefn, yr hyn oedd ei unig fai. Bu yn ymdeithio o le i le yn Nghymru, yn ol trefn y cyfundeb, mewn modd rheolaidd, hyd y flwyddyn 1854, a llawer o'r blynyddoedd diweddaf yn gadeirydd talaeth Gymreig Gwynedd, pan enciliodd o'r gwaith rheolaidd, ac aeth i renc y gweinidogion hen a methedig. Anrhegwyd ef gan ei gydweinidogion yn y dalaeth a'i bortread a swm o arian, ar ei ymneillduad o'r ymdeithiaeth. Bu wedi hyny yn cyfaneddu yn Rhythun a Threffynon, a bu farw yn y lle olaf mewn llawn fwynhad o'r gobaith gwynfydedig, Ionawr 23, 1857, yn 71 oed. Nid ydys yn gwybod iddo gyhoeddi dim erioed trwy y wasg, oddieithr y gwelir ei enw wrth rai erthyglau yn yr Eurgrawn Wesleyaidd er yn lled anfynych—ar hyd holl flynyddoedd ei oes, o sefydliad cyntaf y cyfnodolyn hwnw. (Eurgrawn Wesleyaidd, 1858, tudal. 101, 109, 146.)
ANWYL, PARCH. LEWIS, ydoedd weinidog plwyf Ysbyty Ifan, yn sir Dinbych, yn
y flwyddyn 1740. Symudodd i ficeriaeth
Abergele yn 1742, gan gymeryd ei anedd yn
Nhyddyn Forgan. Pan oedd yn Ysbyty, efe
a roddodd allan y llyfrynau canlynol:—1. "Y
Nefawl Ganllaw, neu yr uniawn ffordd i fynwes
Abraham; mewn ychydig o ystyriaethau eglur
i gyfarwyddo y cyfeiliornus i'r porthladd dymunol hwnw. Gan L. A., gweinidog o eglwys
Loegr. Argraffwyd yn yr Amwythig, gan R.
Lathrop, dros Dafydd Jones." 2 "Myfyrdodau Wythnosol, sef myfyrdod am bob dydd yn yr
wythnos, yn enwedig amser y Grawys; wedi
eu cyfieithu yn benaf er mwyn addysg y tlawd,
yr hwn nad oes iddo foddion i gyraedd llyfrau
gwell; yn nghyda cholectau, gweddiau, a geiriau llesawl ereill." 3. "Cyngor yr Athraw i Rieni, yn nghylch dwyn eu plant i fyny, yn
cynwys rhai meddyliau neillduol ar y testun
hwnw, wedi eu cyfansoddi a'u cymhwyso i'r
deall gwanaf; yn nghyda a Rhagymadrodd,
yn dangos mor esgeulus yw rhieni yn gyffredinol am roddi meithrin syberlan i'w plant."
Cyhoeddwyd y tri uchod yn un llyfr lled gryno
—ond fod rhagddalenau gwahanol iddynt
o tua 150 o dudalenau. Wedi symud i Abergele, efe a gyhoeddodd, oddeutu y flwyddyn
1756,"Hyfforddiadau eglur i'r ieuainc a'r
anwybodus; yn cynwys eglurhad hawdd a
chryno o Gatechism yr Eglwys, wedi ei gymhwyso i ddeall a choffadwriaeth y rhieni o'r
synwyr iselaf: gan esgob Synge. Ac wedi ei
gyfieithu o'r seithfed argraffiad, gan L. Anwyl,
ficar Abergele. Amwythig: argraffwyd gan
T. Durston." Efe a fu farw yn 1776, a chladdwyd ef ger llaw y bedyddfaen, yn eglwys y
plwyf hwnw, Chwefror 27, 1776. (Cofrestr
plwyf Abergele.)
ANWYL, WILLIAM, ydoedd wr o sir Dinbych, gan yr hwn y cafodd Thomas Jones, argraffydd yn yr Amwythig, y llyfr canlynol, "Ymadrodd gweddaidd yn nghylch diwedd y byd; neu dueddiad at yr amser y dygwydda dydd y farn; yn cynwys hefyd fwy na dau cant o englynion duwiol, o erfyniad am drugaredd, yn ol dosbarth y prif feirdd, wedi i'r postfeirdd, rhag eu llygru, eu rhoi allan mewn cerdd, i'w cadw mewn parch. Argraffwyd yn yr Amwythig, ac ar werth yno gan Thomas Jones, yn yr hwylfa a elwir Mr. Hill's Lane." Y mae iddo ragymadrodd "at y darllenwr," gan Thomas Jones, lle y dywed, "Yn y flwyddyn o oed Iesu 1700, gwr boneddig o sir Dinbych, (sef Mr. William Anwyl,) a roddodd y corff yn ysgrifen o law deg i mi, i'w argraffu, os gwelwn yn dda; ac a ddywedodd wrthyf ei gael ef yn mhalas Syr Richard Wynne, (sef yn Ngwydyr, yn sir Dinbych,) ar ol marw Syr Richard Wynne. Ond ni wyddai ef pwy oedd yr awdwr, na pha bryd yr ysgrifenwyd ef. Nid oes mo enw yr awdwr wrth y gwaith." Maint y llyfr yw 64 tudalen 12 plyg. Y mae ynddo heblaw rhyddiaith, 101 o "Englynion erfynied am drugaredd."
ARAU, un o feibion Llywarch Hen, yr hwn
y sonir ganddo yn anrhydeddus am dano yn
yr alargan am ei henaint. Gweler y penillion
yn tudal. 141 o alarganau arwrol Owen.
ARDDUN, gwraig Catgor ab Collwyn, clodfawr yn y Trioedd, fel un o "Dair diweirwraig
Ynys Prydain." Y ddwy arall oeddynt Efilian
ac Enerchred. (Myv. Arch., ii. 73.)
ARDDUN (BENASGELL,) oedd yn byw
yn y chweched ganrif. Merch ydoedd i Pabo
Post Prydain, yr hwn ar ol colli ei diriogaethau
yn Ngogledd Lloegr trwy ymosodiadau parhaus y Sacsoniaid, a ymneillduodd i Gymru.
Yr oedd Arddun yn briod a Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, i'r hwn y dygodd Tysilio.
Ystyrid hi gan rai yn mysg y seintiau Cymreig; ond nid oes eglwysi yn cael eu galw ar
ei hol; er fod Dolarddun, cwmwd yn mhlwyf
Castell Caereinion, sir Drefaldwyn, yn dwyn
ei enw oddiwrthi.
AREGWEDD (FOEDDIG,) oedd ferch i
Afarwy ab Lludd. Y mae wedi ei chofnodi
yn y Trioedd fel wedi bod yn achos bradwrus
o gaethiwed Caradog; yr hwn ar ol ei orchfygiad gan y Rhufeiniaid dan Ostorius, yn y
flwyddyn 51, a ffodd ati am noddfa, a hi a'i
traddododd ef i'w elynion mewn cadwynau.
Yr oedd yn frenhines y Brigantiaid, ac yn
ddynes o nodwedd halogedig; oblegyd dianrhydeddodd Venatius, ei gwr, trwy syrthio
mewn cariad â Velocatus, un o weision ei gwr.
Cymerodd rhyfel cartrefol le, yn yr hwn y
llwyddodd ei gwr ar y cyntaf. Y Rhufeiniaid
modd bynag, er ei gwobrwyo am roddi Caradog i fyny, a ddaethant i'w chynorthwyo, ac
achubasant hi rhag cosbedigae gyfiawn ei
gwarthusrwydd.
ARGAD, bardd, yr hwn a flodeuodd yn y
seithfed ganrif; ond nid oes dim o'i waith ar
gael. Yr oedd un arall o'r enw, yr hwn
oedd fab i Llywarch Hen.
ARIANROD, merch Don, y mae wedi ei
chofnodi yn y Trioedd fel un o'r "Tair Gwenriain" Ynys Prydain. Y ddwy ereill oeddynt
Gwen, merch Cywryd ab Crydon, a Creirwy,
merch Ceridwen. Mewn awengerdd gyfrinol,
priodoledig i Taliesin, a argraffwyd yn y gyfrol
gyntaf o'r Myv. Arch., tudal. 66, coffeir Arianrod; ac am ei chysylltiad â ffugchwedlaeth Gymreig y Derwyddon, tudal. 266.
Y gair Arianrod, yn llythyrenol cylch y rhod
arian, yn ol Dr. Owen Pugh, yw enw Cymreig
y cydser, Aurora Borealis.
ARIANWEN, un o ferched lluosog Brychan. Priododd â Iorwerth Hirflawdd, o Powys,
mab Tegonwy ab Toan. Yr oedd yn fam
Caenog Mawr, ac yn santes, i'r hon yr oedd
eglwys Clog Caenog, sir Dinbych, wedi ei chysegru. (Bonedd y Saint.)
ARLEY, STEPHEN, oedd lefarwr gyda'r
Bedyddwyr am flynyddau yn Molestone, ger
Arberth, air Benfro. Cafodd ei fedyddio yn
Rhydwilym yn 1729, a bernir iddo gael ei
anog i ddechreu pregethu tua'r flwyddyn 1774,
os nad yn gynt. Sais ydoedd O ran ei
ddechreuad, ond Cymro oedd ei weinidog, ac
yn nghymundeb y Cymry yr oedd yr eglwys
y perthynai iddi. Pan fu y gweinidog farw,
yr oedd Mr. Arley yn rhy oedranus i fod o
lawer o wasanaeth fel gweinidog, onide buasai
yn cael ei ordeinio yn fugail arni. Efe a
orphenodd ei daith tua'r flwyddyn 1795 neu
1796. Yr oedd yn wr da a defnyddiol, a bu yn
gynorthwywr ffyddlon i'r gweinidog a'r eglwys
dros lawer o flynyddau.
ARON, un o feibion Cynfarch, tywysog y
Brythoniaid Gogleddol. Yr oedd yn frawd
i Urien a Llew; a hwy oll a hynodasant eu
hunain yn y rhyfeloedd a'r Sacsoniaid. Cof—
nodir Aron yn y Trioedd, fel un o dri chyng—
boriaid milwraidd llys Arthur. Y ddau ereill
oeddynt Cynan mab Clydno Eiddun, a Llyw—
arch Hen. (Myv. Arch., ii. 18.) Dywedir
hefyd yn y Brat Tysilio, iddo dderbyn teyrnas
Prydain, neu Ysgotland, oddiwrth Arthur, pan
oedd wedi gorchfygu yr Ysgotiaid a'r Pictiaid;
ac iddo gael ei ladd yn y frwydr a ymladdwyd
yn erbyn Medrod, pan ddychwelodd Arthur o
Gal.
ARONAN, bardd, mab Cynan Garwyn, yr hwn a flodeuodd yn y seithfed ganrif. Nid oes dim o'i weithiau wedi en dyogelu. Cofnodir ef yn y Triocdd fel un o dri "Gwaywruddion feirdd Ynys Prydain. Yr oedd o nodwedd ryfelgar, yn groes i egwyddorion barddoniaeth. Y ddau ereill oeddynt Dygynnelw ac Afan. (Myv. Arch, ii. 13.)
ARTHANAD, mab Gwrthmwl Wledig. Cofnodir ef yn y Trioedd fel wedi hynodi ei hun yn y daith a gyflawnwyd ganddo ef a'i frawd Achlen, ar geffyl hynod, i ddial marwolaeth eu tad. (Myv. Arch., ii. 2, 8.)
ARTHEN, mab Brychan, sant. Yr oedd
eglwys Gwaenllwg, yn sir Fynwy, wedi ei chysegru iddo unwaith, yr hon a ddinystriwyd
gan y Sacsoniaid. Parheir ei goffadwriaeth
yn yr enw sydd ar fryn yn Brycheiniog, ger
Llanymddyfri, a elwir Cefnarthen, yr hwn oedd
raid fod o fewn tiriogaethau ei dad. Y mae
lle hefyd ger Aberystwyth, a elwir Rhiwarthen; ond dichon i hwn gael enw oddiwrth Arthen, arglwydd Ceredigion. Claddwyd ef yn Ynys Manaw.
ARTHEN, mab Sitsyllt ab Clydawg, oedd
frenin, neu arglwydd Ceredigion, yn awr sir
Aberteifi. Bu farw yn y flwyddyn O.C. 804.
ARTHFAEL (HEN,) oedd fab Rhys, arglwydd Morganwg. Efe a briododd Ceinwen,
merch Arthen, arglwydd Ceredigion. Wedi
iddo fyned yn hen, aeth llywodraethiad dywysogaeth yn flin iddo, ac efe a'i rhoddodd i
fyny i'w frawd Hywel. Bu fyw, modd bynag,
lawer o flynyddau wedi hyny; a bu farw yn
895, yn yr oedran mawr o 120. Ei frawd
Hywel a fu farw y flwyddyn flaenorol, mewn
mwy o oed eto, sef 124. (Myv. Arch., ii. 484.)
ARTHMAEL, dylynydd ei frawd Blegwryd
ar orsedd Prydain, yn ol y Brut; ac yr oedd
y 56ain brenin. Dywedir iddo deyrnasu dwy
flynedd, pan y dylynwyd ef gan Eidal. (Myv.
Arch., ii. 165.)
ARTHOL, a elwir Arthgallo gan Geoffrey o
Fynwy, mab Morydd, a dylynydd ei frawd
Gorfyniawn i orsedd Prydain. Yn ol Brut, yr
ocdd ar y cyntaf yn dywysog o nodwedd ganolig, oblegyd efe a ddarostyngodd y boneddigion,
a godai y gwael i anrhydedd, ysbeiliai y cyfoethog trwy gribddeiliad, fel y cododd y bobl
o feddianau yn ei erbyn ac a'i diorseddasant,
a gosodasant ei frawd Elidyr, a elwid y Tosturiol, ar yr orsedd. Ar of teyrnasiad o bum
mlynedd, Elidyr a adferodd y frenhiniaeth i'w
frawd Arthol, yr hwn y pryd hwnw oedd wedi
ymadael a'i arferion drwg blaenorol; a pharhaodd i deyrnasu yn gyfiawn am ddeng mlynedd wedi hyny, hyd ei farwolaeth. (Gwel yr
hanes yn helaethach yn y Myv. Arch. ii. 161.)
ARTHUR, GRUFFYDD AB, neu fel yr
adwaenir ef yn mhlith yr holl awdwyr Seisnig
a thramor, Geoffrey o Fynwy. Nid oes
genyn ond ychydig i draethu am dano yn ei
ddyddiau ieuengaidd, gan fod yr holl awdwyr
ydym wedi weled yn ddystaw am dano. Nid oes
sicrwydd pa le y cafodd ei eni, na pha lwyddiant a'i canlynodd yn ei ystad fachgenaidd. Y
farn gyffredin yw iddo gael ei eni yn nhre
Fynwy; ac y mae hyn yn ymddangos yn
rhesymol, ac yn debyg iawn; o herwydd nad
oes un lle arall wedi honi yr hawl anrhydeddus
o fod yn fan ei enedigaeth. Ar ol iddo dderbyn
ei addysg, gwnaed ef yn fynach o Fynachlog
St. Benedict, yn y dref hon. Efe a flodeuodd
yn amser Harri 1. a'r II., ac Ystyffan. Efe a
ddewiswyd yn archddiacon Mynwy, ac wedi
hyny a wnawd yn esgob Llanelwy, yn 1152;
yr hon esgobaeth wedi hyny a roddodd i fyny,
ac a aeth yn abad Mynachlog Abingdon, lle y
bu farw, medd rhai; ereill a farnant iddo farw
yn ei dy ei hun yn Llandaf. Yr oedd efe yn
hanesydd boreu am ein gwlad a'n cenedl ni.
Dywedir mai o achos y terfysgoedd yn
Nghymru y rhoddodd efe yr esgobaeth i fyny,
a chymeryd gofal Mynachlog Abingdon.
Offeiriaid ei esgobaeth a ddeisyfasant arno i
ddychwelyd, a chymeryd y swydd esgobaethol
eilwaith, eithr efe a wrthododd gydsynio a'u
cais, gan feddwl y celai gadw Mynachlog
Abingdon; ond yn hyn y siomwyd ef yn
ddirfawr; ac efe a adawyd heb un fywoliaeth.
Fel hanesydd, adnabyddir ef fel awdwr Chronico Sive Historia Britanum. Y gwaith hwn
sydd wedi cael ei feio yn fawr, o herwydd y
ffug-chwedlau a gynwysir ynddo.
Ond dywedent a fynont, mae'r awdwr yn rhyglyddu
clod fel ysgolhaig moesgar, ac ysgrifenydd
hyawdl. Y mae ei ddull a'i eiriau yn ei gyfansoddiadau Lladinaidd yn profi ei ddysg tryloyw, ac yn ei godi ef uwchlaw ysgolheigion
canolig. Yr oedd yn awdwr rhai darnau ereill,
yn mhlith y rhai y mae Daroganau Myrddin,
y rhai a gymeradwyir yn fawr gan Leland.
Am gymeriad awdurol Gruffydd ab Arthur, y
mae rhai awdwyr, yn mhlith y rhai y mae Dr.
Lloyd, esgob Llanelwy, wedi ei gollfarnu ef a'i
waith, a'i osod ef allan fel dyn anwybodus a
thwyllodrus. Ond ymddengys eu bod wedi
gwneud camsyniadau mawrion, neu ynte wedi
gweithredu yn anghyfiawn a rhagfarnllyd;
oblegyd y mae Caradog, o Lancarvan, ei gydoeswr, wedi rhoddi tystiolaeth mor ragorol ag
oedd alluadwy i un dyn ddywedyd am ddyn
arall. A phwy a allasai wybod yn well na'i
gydoeswr? Y mae'r athrawon Powell a Davies
wedi bod yn ddiwyd ac yn fanol iawn, ac wedi
ysgrifenu yn ddiduedd a gonest, a beirniadu
yn deg, ac wedi dadleu yn alluog yn erbyn
Giraldus Cambrensis, a William o Newborough,
dros gymeriad Gruffydd ab Arthur a'i ysgrifeniadau. Y mae Thompson, yr hwn a gyfieithodd
hanes Prydeinaidd Gruffydd Arthur i'r Seisnig
wedi ysgrifenu amddiffyniad gorchestol i'r
gwaith, ac yn cyfiawnhau yr awdwr mewn dull
galluog a dysgedig, ac wedi gwrthwynebu yn
deg y cyhuddiad o fod y gwaith yn dwyllodrus. (Gwel Seren Gomer, Tach. 1855.)
ARTHUR, PARCH. D., oedd weinidog y
Bedyddwyr yn Llanfairmuallt. Efe a ddechreuodd bregethu yn Mhantycelyn, sir Frycheiniog, a chafodd ei ordeinio yn Llanfairmuallt, yn 1830, yn gydweinidog a'r Parch.
Thomas Daniel. Darfu iddynt gyd-lafurio yn
y weinidogaeth hyd y flwyddyn 1831 neu 1832,
pryd y gadawodd y blaenaf, ac yr aeth drosodd
America. Ond parhaodd Mr. D. Arthur i
bregethu yma ddau Sabbath yn y mis hyd y flwyddyn 1835, pryd y cafodd Mr. Morris
Edwards ei sefydlu yn fugail ar yr eglwys; a
pharhaodd Mr. Arthur i bregethu yn achlysurol yno wedi hyny tra y gallodd. Yr oedd
hefyd yn cydlafurio a Mr. James Davies,
Pantycelyn, ac yn gweinyddu yr ordinhadau i'r
eglwys ieuanc yn Llanarch-cawr, Dyffryn
Claerwen, Brycheiniog, hyd galangauaf 1837.
ARTHUR FRENIN, ydoedd fab Meurig ab Tewdrig, tywysog y Prydeiniaid Siluriaidd, yn nechreuad y chweched ganrif, yr hwn mae'n debyg yw yr Uthyr, neu yr Uther, oedd o fri mawr yn yr hen ffug chwedlau; enwad mae'n debygol, o roddwyd iddo o herwydd ei orchestion rhyfeddol yn ei frwydrau a'r Sacsoniaid. Yn mherthynas i'w fam, yr ydys mewn anwybod pwy ydoedd, ac nis gellir ymddibynu ar chwedl Geoffrey o Fynwy, yr hwn a ddywed genhedlu o Feurig Arthur yn anghyfreithlon, yn ei gyfrinachau â thywysoges brydweddol o Gernyw. Dywedir fod ganddo chwaer o'r enw Anna, yr hon a briododd Llew, brawd Urien, penaeth y Prydeiniaid Cumbriaidd; a'r Anna hon ydoedd fam Medrod, yr hwn a luniodd lawer o fradwriaethau yn erbyn ei ewythr Arthur, fel y sylwir rhagllaw. Yn ol a ddywed haneswyr, ganed Arthur yn Tindagel, yn Nghernyw, yr hon wlad a gyfaneddid y pryd hyny gan bobl o'r un cyff, mewn arferiad o'r un iaith, ac yn blaid yn yr un cyngrair er gwrthsefyll gormes y Sacsoniaid. Ac wrth ystyried hyn, nid ydyw yn annhebygol na fyddai Meurig yn cael ei arwain, yn neillduol ar achosion ei hyntiau milwraidd, i gyfaneddu ar brydiau yn y parth hwn o'r wlad. A dywed y Trioedd fod gan Arthur lys yn Nghernyw, a elwid Celliwig; ond pa un ai yr un ydoedd hwn a Tindagel, y mae yn anhawdd ar y pryd hwn ddywedyd. Am ddyddiau ieuengaidd Arthur, a'i ddysgeidiaeth foreuol, nid oes ond ychydig i'w fynegu; ond iddo pan yn ieuanc gael ei ddysgu mewn arferion milwraidd a ellir gasglu oddiwrth natur yr amserau, yn nghyd Ag iddo yn moreuddydd ei oes gael ei ddethol i arglwyddiaethu ar y Prydeiniaid. Ac y mae yn debygol, wrth ystyried cymeriad ei dad Meurig, yr hwn oedd ya dra selog i ledaenu egwyddorion Cristionogaeth yn mhell ac yn agos; a'r hwn hefyd a sefydlodd ysgoldy Llancarfan, yn Neheudir Cymru, nad esgeuluswyd, hyd yr ydoedd alluadwy, argraffu ar feddyliau Arthur bethau pwysig crefydd, yn ol eu hymarferiad yr oes hono. Yn nghylch y flwyddyn 517, galwyd Arthur, trwy gyd-ddewisiad, i lywyddu Prydain, ac i arwain ei byddinoedd yn erbyn galluoedd cynhyddol yr estroniaid Sacsonaidd, un wedd ag y gwnaed mewn amserau boreuach, pan y penodwyd Caswallon a Charadog yn awr galed cyfyngder, i wrthwynebu arfau cedyrn a llwyddianus y Rhufeiniaid. Yn ol hanes rhai, nid oedd Arthur y pryd hyn dros bumtheg mlwydd oed, er yr arferai ei awdurdod fel tywysog cyn hyn dros ei dreftadaeth ei hun yn Neheudir Cymru. Coronwyd ef gyda mawredd a gorwychder mawr gan Dyfrig, archesgob Llandaf, yn Nghaerlleon-ar- Wyag, ger gwydd amryw o dywysogion Prydeinaidd, y rhai a alwyd yn nghyd er cadarnhau etholiad y wladwriaeth. Ac y mae yn naturiol i gasglu oddiwrth ansawdd y wlad pan ddyrchafwyd Arthur i'r deyrngadair, y byddai i'w deyrnasiad gael ei nodi â llawer o ymladdfeydd a thywallt gwaed. Yn Ngogledd Lloegr, yn Nghymru, ac yn Nghernyw, yr ydoedd y Prydeiniaid yn wrol ac yn lluosog iawn; ac aml yr ymruthrent ar eu gelynion, ar mor ddewr yr ymladdent. Y mae Neunius yn ei hanes, pan yn crybwyll gorchestion Arthur, yn cyfrif deuddeg o frwydrau penodol, yn mha rai yr arweiniodd ac y rheolodd efe ei fyddinoedd yn erbyn y Sacsoniaid. Ond y mae yn anhawdd iawn ymddiried i hen hanesyddiaethau, yn neillduol pan brofir eu bod yn cynwys chwedlau celwyddog mewn lluosogrwydd; eto y mae yn gredadwy oddiwrth gyd darawiad hen awduron, fod Arthur wedi ymgydio mewn llawer cad â'r gelyn, yn nghyd a bod ei hyntiau milwraidd yn gyffredinol yn cael eu coroni â llwyddiant. Ond dywedir mai y frwydr benaf a ymladdodd efe oedd hono ar fryn Baddon, yn nghymydogaeth Nânt Baddon (Bath.) Yn ol yr awduron mwyaf credadwy, hon ydoedd y frwydr benigol gyntaf a ymladdwyd gan Arthur â'r Sacsoniaid, yn y flwyddyn 520, dair blynedd wedi ei etholiad, a'r ddeunawfed o'i oed. Y Sacsoniaid a arweinid gan y gwrol Cerdic, ymladdwr dewr a chynefin â rhyfel; ond wedi ymgydio o'r ddwy blaid, Arthur, yn ddiystyr o ofn, a chan watwar arswyd, a dynai ei gleddyf o'r wain, a buan y syrthiai y gelyn yn archolledig gan rym ei ergydion, fel y dywedir iddo a'i law ei hun ddieneidio naw cant a deugain o honynt! Ac wrth weled eu llywydd ieuanc yn effeithio y fath alanasdra, syrthiodd yr un ysbryd ar y milwyr, fel wedi gadael miloedd yn lladdedig ac yn archolledig, bu Cerdic dan yr angenrheidrwydd o encilio, a'r gweddill o'i fyddin gydag ef, gan adael Arthur i gyhwfanu baniar buddugoliaeth ar y bryn, ac i fedi effeithiau yr orfodaeth fawr hon. Nid oedd i'w weled yn ngwersyll y Prydeiniaid ond cwcyllau llawn o flodau; ac ni chlywid ond twrf bloeddiadau y byddinoedd yn dyrchu molawd Arthur, am eu tywys a'u llywyddu i lwyddiant. Wedi y frwydr gwnaeth gyngrair â Cerdic, yr hwn fu dan yr angenrheidrwydd o gydnabod anymddibyniaeth Arthur yn ei arglwyddiaeth o'r ddau tu i'r Hafren. Y mae yn gwbl annichonadwy coffau brwydrau ereill Arthur yn rheolaidd, rhwng brwydr Bryn Baddon a'r un angeuol yn Camlan. Amryw yn ddiau a ymladdwyd â'r Sacsoniaid, yn gystal ag ereill a achoswyd o herwydd rhwygiadau gwladol y Prydeiniaid eu hunain. Nodir dwy gan Llywarch Hen, y bardd, ei gydoeswr; un yn Llongborth, a'r llall ar y Llawen. Am frwydr Llongborth, (yr un, medd rhai, a Phortsmouth,) yr ydoedd yn waedlyd uwchlaw darluniad, yn ol yr ymddengys oddiwrth gyfansoddiad barddonawl Llywarch Hen; ac er fod ymadroddion mawreddog barddoniaeth yn myned dros y terfynau, eto hawdd canfod natur pethau yn narluniadau beirdd. A rhaid fod y frwydr hon yn echrydus, amgen ni ddywedasai Llywarch fod y milwyr yn ymgydio hyd eu gliniau mewn gwaed; ac am elorau yn llwythog o laddedigion dirif. Ni ddywedir am ganlyniadau uniongyrch y frwydr; ond y mae gwythien barddoniaeth Llywarch yn rhoddi lle i gasglu, mai Arthur a'i filwyr a gawsant reolaeth y maes, ac iddynt gael yr hyfrydwch o weled y gelyn yn cymeryd y traed, ac yn ymddeol o'u gwydd. Am frwydr Llawen, y mae yn gorwedd mewn tywyllwch, fel mai rhyfyg o'r mwyaf fyddai ychwanegu, mwy nag i Arthur ymddwyn yn deilwng o'i gymeriad, a chwareu y gwron, yn ol ei arferiad gyffredin. Ond y mae gwyr o fri yn mhob oes mewn llai perygl oddiwrth elynion agored nag oddiwrth gyfeillion bradwrus; ac felly y profodd Arthur. Mynegwyd eisoes fod ganddo nai fab ei chwaer Anna, o'r enw Medrod; yr hwn fel yr ymddengys, a gymerwyd yn ieuanc i lys ei ewythr, lle yr enillodd fri nid bychan o herwydd ei ymddygiadau moesgar, yn gystal ag am ei wroldeb milwrol. Ac oddiar yr ystyriaethau hyn ei ewythr a roddodd iddo ymddiried o bwys. Ond ar un achlysur, pan oedd y brenin yn gorfod gadael ei lys i fyned i'r rhyfel, penododd ei nai i weinyddu fel rhaglaw yn ei absenoldeb. Eithr Medrod, yn lle bod yn ffyddlawn yn yr ymddiried a roesid iddo gan ei ewythr, a ddefnyddiodd y cyfleusdra i ffurfio brad yn ei erbyn, gan gymeryd i'r gyfrinach un arall o wyr y llys, a elwid Iddog. Ac nid hir y bu y brad dirgelaidd hwn heb dori allan mewn gweithredoedd cyhoeddus o wrthryfel. Ac y mae yn debygol i Medrod trwy ei ddawn crybwylledig o foddio dynion, enill cryn rifedi o'i gydwladwyr i bleidio ei anturiaethau. Ei weithred gyntaf o gamwri ydoedd anrheithio tiroedd y brenin yn Nghornwal; a dywedir i hyn gael ei gyflawni mor llwyr, fel nad arbedwyd dim a ellid ei ddyfethia. Ac fel pe na buasai hyny yn digoni ei fariaeth, dywedir iddo halogi Gwenhwyfar, gwraig y brenin! Ond nid hir y bu ei ddyhirwch heb ddyfod yn hysbys i'w ewythr, yr hwn pan glywodd am ymddygiadau bradwrus Medrod, a benderfynedd ddial yr unrhyw i'r eithaf; ac i'r perwyl hwnw ymosododd yn ddioed ar diriogaethau treftadol y bradwr yn y Gogledd, gan eu difrodi mor llwyr ag y difrodasid yr eiddo ef ei hun yn Nghornwal. Y difrodiadau hyn o'r ddau tu a roddasant achlysur i ymddialau mwy cyffredinol; Medrod, i ychwanegu dial at fradwriaeth, a gysylltodd ei hun a'i bleidwyr â byddin y Saeson, i ymladd yn erbyn Arthur a'i gydgenedl; ac y mae yn ymddangos i hyn fod yn achlysur o amryw frwydrau rhwng y ddwy blaid; ac er mai y Cymry yn gyffredin oeddynt fuddugol yn y brwydrau hyny, eto yr olaf o honynt a amddifadodd y genedl o'i phenigamp ryfelwr; a hono a elwid "Brwydr Camlan." Pa faint bynag o aneglurdeb sydd yn cymylu rhanau ereill o fywyd Arthur, y mae tystiolaethau dibetrus yn profi mai y frwydr uchod a derfynodd ei yrfa ; a hono a ddygwyddodd, mor agos ag y gellir casglu, tua'r flwyddyn 542. Mae yr hen ysgrifeniadau Cymreig, barddonol a hanesiol, yn gydsain mewn perthynas i'r amgylchiad hwn. Eto y mae amrywiaeth barnau yn nghylch sefyllfa y lle a elwir Camlan; rhai a haerant mai yn Ngogledd—barth Lloegr yr ydoedd, ac ereill mai yn Nghornwal. Pa fodd bynag, y mae tystiolaethau yn mantoli gyda y dyb olaf, gan roddi ar ddeall mai bro enedigol Arthur a fu hefyd ei fro farwolaethol. Desgrifir y frwydr hon fel un o'r rhai mwyaf gwaedlyd a gofnodir mewn hanesyddiaeth, canys y mae y Trioedd yn dywedyd na adawyd dim ond tri o'r rhyfelwyr yn fyw, er fe allai mai math o ormodiaith yw hyny, er rhoi desgrifiad mwy alaethus o'r alanas. Ond beth bynag am hyny, cyfarfu Medrod yma a thaledigaeth ei frad; syrthiodd ar faes y frwydr; ond nid cyn bod Arthur hefyd wedi cael archoll farwol, a hyny medd rhai, trwy ddwylaw ei nai ysgeler ei hun! Dyma fel y darfu am brif ryfelwr y Cymry, a chydag ef am fawrfri y genedl fel pobl annibynol; canys o hyny allan ymddengys i rwysg y Saeson gynyddu yn raddol, nes o'r diwedd iddynt ddifeddianu y cyndrigolion o'u treftadaeth gysefin, a'u cyfyngu o fewn cyffiniau Cymru. Dywed yr hanesion ddarfod i gorff Arthur gael ei gymeryd o faes Camlan, a'i gladdu yn Ynys Afallon (Glastonbury,) yn swydd Somerset, ac i'r brenin Harri II. ryw dro pan ar ymweliad a Chastell Cilgeran, yn swydd Benfro, wrth glywed y traddodiad yn mysg y Cymry o fod Arthur wedi ei gladdu yn y lle crybwylledig, roddi gorchymyn i chwiliad gael ei wneuthur am ei gorff, a darfod dyfod o hyd i lech faen tua saith troedfedd islaw gwyneb y ddaear, ac oddidani groes blwm, ac arni y darlleniad canlynol:
"HIC JACET SEPULTUS INCLYTUS REX
ARTHURIUS IN INSULA AVALONIA."
Hyny yw, "Yma y gorwedd yr enwog Frenin Arthur yn Ynys Afallon." Ac medd traddodiad yn mhellach—Ar ol cloddio yn nghylch naw troedfedd yn ddyfnach, daethant o hyd i'r gweddillion o gorff y brenin, yn amgauedig mewn bonyn pren derwen; a bernid wrth ei esgyrn ei fod yn ddyn o faintioli anarferol; a bod ôl deg archoll ar asgwn ei ben, ac un o'r rhai hyny yn helaethach ac yn fwy agored na'r lleill, a hwnw, fel y tybid, a fuasai ei archoll marwol. Y brenin Harri a orchymynodd i'r gweddillion hyn gael eu hail gladdu yn eglwys Glastonbury, mewn bedd—gell farmor, yr hon wedi hyny a symudwyd i ymyl yr allor yn yr eglwys hono, trwy orchymyn y brenin Edward I.; ac yno y bu hyd oni ddinystriwyd holl fynachlogydd y deyrnas, a'r cwbl oedd ynddynt, trwy orchymyn Harri VIII. Mae rhai awduron, yn wir, yn ameu gwirionedd y traddodiadau blaenorol mewn perthynas i gladdiad Arthur yn Glastonbury, a hyny o herwydd na ddarfu i un o'r beirdd cydnabyddus ag ef, a'r rhai oedd yn byw ar ei ol, son dim am yr amgylchiad, eithr i'r gwrthwyneb, fod Taliesin wedi dadgan fod ei ddiwedd yn ddirgelwch i'r byd. Ac y mae rhai o'r hen haneswyr yn dywedyd na choeliai y Cymry iddo farw, eithr eu bod yn ei geisio am lawer cant o flynyddoedd wedi brwydr Camlan. Hyn mae'n debygol a roddodd achlysur i'r gyfadgan newydd a ddodwyd ar droed yn ddiweddar yn Neheubarth Cymru, gan Mons. Rio, y boneddwr o Lydaw, sef, Ni bu farw Arthur," gan arwyddo, ysgatfydd, fod ei anian yn hanfodi o hyd yn mysg y Cymry. Ar y cyfan, y mae yn amlwg fod clodusrwydd Arthur yn gynwysedig gan mwyaf yn ei lewder a'i lwyddiant fel rhyfelwr; eto hynodir ef am ansoddau ereill hefyd. Fel y crybwyllwyd eisoes, ymddengys ei fod yn gefnogol i Gristionogrwydd, yn ol siampl ragorol ei dad; a dywedir hefyd y byddai weithiau yn cymeryd y duwiol esgob Dyfrig gydag ef i'r rhyfel, fel y byddai iddo gynghori y milwyr. A chyn dybenu cofiant Arthur, rhaid i ni beidio anghofio ei fod hefyd, nid yn unig yn noddwr i feirdd, ond heblaw hyny yn cael ei gyfrif yn un o'r frawdoliaeth hono ei hunan, er nad oedd ei amgylchiadau helbulus yn caniatau iddo nemawr o hamdden i goleddu ei awen; ac nid oes ar gael ond un dernyn bychan o'i gyfansoddiad, sef y Triban canlynol, yr hwn ydoedd un o ddewisedig fesurau yr oes hono:—
"Sefynt fy nhri chadfarchawg,
Mael Hir a Llur Lluyddawg,
A cholofn Cymru, Caradawg."
ARTHWYS oedd fab Cenan ab Coel, tywysog y Brythoniaid Gogleddol, yr hwn oedd yn byw yn nghanol y bumed ganrif.
ARTHWYS, a elwir hefyd Adras, mab
Meurig ab Tewdrig, brenin Morganwg. Dylynodd ei dad yn llywodraeth Gwent a Morganwg, tua'r flwyddyn 575. Oddiwrth debygolrwydd ei enw i'r eiddo Arthur, meddyliwyd
yn gamsyniol mai yr un ydoedd a'r gwr
enwog hwnw. Yr oedd yn dad i Morgan
Mwynfawr, yr hwn a'i canlynodd i'r llywyddiaeth fel brenin, ac oddiwrth yr hwn y mae
sir Forganwg wedi cymeryd ei henw. Y mae
copi o roddiad tiroedd gan y brenin Athrwys i
eglwys Llandaf wedi ei gadw yn Llyfr Llandaf, tudal. 411.
ARWYSTLI (GLOFF,) oedd fab Seithenin,
a sefydlodd eglwys yn Nghymru tua chanol y
chweched ganrif. Yr oedd yn aelod o Bangor
Enlli, neu Goleg Ynys Enlli.
ARWYSTLI (HEN,) yn ol cofnodiadau
Cymreig, oedd un o'r pedwar dysgawdwyr y
rhai a ddaethant gyda Bran ab Llur o Rufain
i bregethu Cristionogaeth i'r Brythoniaid, tua'r
flwyddyn 70. Unolir ef gan rai ag Aristobulus,
yr hwn y sonir am dano yn y Llythyr at y
Rhufeiniaid, xvi. 10. Y mae hefyd yn nodedig, yn ol y merthyrdraeth Groegaidd a goffeir gan archesgob Usher, i Aristobulus gael ei
ordeinio gan Paul fel gweinidog i'r Brythoniaid. Dywed Cressy hefyd i Aristobulus,
dysgybl i Pedr a Phaul yn Rhufain, gael ei
anfon fel cenad at y Brythoniaid, a'i fod y
gweinidog cyntaf yn Mhrydain; iddo farw yn
Glastonbury, yn y flwyddyn 90, a bod dydd ei
goffadwriaeth yn cael ei gadw yn yr eglwys
Mawrth 15ed. (Rees's Welsh Saints.)
ASAPH oedd fab Sawyl Benuchel, mab
Pabo o Gwenaseth, merch Rhufon Rhufoniog.
Ganwyd ef yn Ngogledd Cymru. Yr oedd yn
ddysgybl i Cyndeyrn o Kentigern, yr hwn
oedd wedi ffurfio coleg yn Llanelwy, yn 545,
pan roddodd y diweddaf i fyny yr esgobaeth
hon, a dychwelyd i Ogledd Brydain, yn 560.
Asaph, yr hwn oedd enwog am ei rinweddau
a'i ddysgeidiaeth, a ddewiswyd i'w ganlyn yn
yr esgobaeth ac yn llywyddiaeth y coleg. Yr
oedd yn bregethwr diwyd. Arferai yn aml
i ddyweyd," Y rhai a wrthsafant bregethiad
gair Duw, a warafunant iechydwriaeth dynion."
Efe a ysgrifenodd ordinhadau ei eglwys,
Bywyd St. Kentigern, a rhai gweithiau ereill.
Bu farw Mai 1af, 596. Ar gylchwyl y cyfryw
ddydd byddai ffair gynt yn cael ei chynal yn
y dref. Cafodd ei gladdu yn ei eglwys
gadeiriol ei hun. Amgylchiad a gyfranodd yn
helaeth tuag at godi awydd yn meddyliau y
bobl am gadw yr esgobaeth yno. Ar ol 'ei
farwolaeth, cafodd ei galw ar ei enw, St. Asaph,
er mai yr enw gwreiddiol a ddefnyddir yn yr
iaith Gymreig. Llanasa hefyd yn sir Flint a
sylfaenwyd ganddo ef.
ASCLEPIODOTUS, iarll Cornwal, a 74ain
brenin Prydain, yn ol Brut Cymreig Tysilio.
Dyrchafwyd ef i'r orsedd gan y Brythoniaid,
y rhai a dorasant allan yn wrthwynebus, yn
erbyn Alectus, tua'r flwyddyn O.C. 302, o dan
ei lywyddiaeth aethant i fyny i Lundain.
Alectus ar y pryd y dynesasant at y ddinas
oedd yn aberthu i'r duwiau; ar hyn efe a dorodd i fyny y ddefod, gan fyned allan i'w
gwrthwynebu. Ar ol ymosodiad creulon,
gyrwyd ei fyddinoedd yn eu holau, ac efe ei
hun, yn nghyd a miloedd lawer, a laddwyd.
Livius Gallus, mewn canlyniad, a gauodd y
pyrth gan ymdrechu achub y lle; ond Asclepiodotus a'r Brythoniaid a'u hamgauasant, ac
anfonasant adref am fwy o filwyr; hwy a'u
cymerasant drwy ruthr, pan gafodd yr holl
Rhufeiniaid eu rhoddi i'r cleddyf. Drwy yr
amgylchiad hwn, cafodd Asclepiodotus ei
sicrhau yn y llywodraeth, ac yr oedd wedi
teyrnasu deng mlynedd pan gododd Coel
Coedelog, iarll Caerloyw, i fyny mewn arfau
i'w erbyn, ac a'i lladdodd mewn brwydr.
ASER oedd fynach dysgedig o Dyddewi.
Yn ol y Llinach Gymreig, dywedir ei fod yn
fab Tudwal, mab Rhodri Mawr. Yr oedd
cymaint o son am ei ddysgeidiaeth fel y cafodd
ei wahodd i lys y brenin Alfred, tua'r flwyddyn
880; a'r rhai oeddynt wedi cael eu hanfon i'w
gyrchu, a'i dygasant ef o Dyddewi at y brenin,
yr hwn oedd ar y pryd yn Dean, yn Wiltshire.
Alfred, nid yn unig a'i derbyniodd ef yn garedig, ond a'i hanogai yn fawr i adael y lle yr
oedd efe, a chymeryd ei drigfan yn barhaus
gydag ef. Y cynyg hwn Aser a'i gwrthodai
yn wylaidd, gan sylwi y buasai yn warth iddo
ef adael lle yr oedd wedi cael ei ddwyn i
fyny ynddo, a'i ordeinio i'r offeiriadaeth er
mwyn cael dyrchafiad mewn lle arall. Y
brenin, mewn canlyniad, a ddeisyfodd arno i
ranu ei amser, a threulio chwe mis yn y llys,
a'r chwech arall yn Nhyddewi. Ond ni wnai
Aser gyduno hyd yn nod â hyn, hyd oni
byddai wedi ymgynghori ag aelodau ei fynachdy. Efe, mewn canlyniad a droai allan am
Dyddewi, ond yn Winchester efe a syrthiodd
yn glaf, ac arosodd yno am dros flwyddyn.
Wedi hyny efe a frysiodd adref, a derbyniodd ganiatad ei frodyr i gydsynio a'r cais, gan eu
bod yn addaw iddynt eu hunain fawr leshad oddiwrth ffafr Alfred yn erbyn gormesiadau Hemeid,
neu Hyfaidd, tywysog Dyfed, yn Neheudir
Cymru, yr hwn yn aml a ysbeiliai y fynachlog
a'r rhandir a berthynai i eglwys Tyddewi. Ý
mynachod, modd bynag, a ddeisyfasant ar
Aser i geisio caniatad Alfred i aros tri mis yn
y llys ar yn ail a Thyddewi, yn hytrach na
bod yn absenol am chwech mis yn nghyd. Ar
ei ddychweliad, yr oedd y brenin mewn lle a
elwir Leonaford; cafodd y derbyniad caredicaf
ganddo; ac efe a arosodd am wyth mis, yn
darllen gydag ef y fath lyfrau a feddai y
brenin. Aser a ddywed i'r brenin ar nos
Nadolig canlynol ei anrhegu ef â mynachlogydd
Amesbury, yn Wiltshire, a Banuwille, ueu
Banwell, yn Ngwlad-yr-haf, yn nghyd ag
urddwisg sidan o werth mawr, a chymaint o
arogldarth ag a fedrai dyn cryf ei gario. Yn
fuan ar ol hyn, rhoddwyd eglwys Exeter
iddo, ac ar amser diweddarach, esgobaeth
Sherburn, yr hon, modd bynag, y dywedir iddo
ei rhoddi fyny yn 883, er iddo yn barhaus gadw yr enw.
O'r pryd hwnw hyd farwolaeth y
brenin efe a bresenolai ei hun yn y llys.
Efe a ysgrifenodd hanes bywyd y brenin
Alfred, yn yr hwn y ceir hanes dyddorgol iawn
o'r dull y treulient eu hamser gyda'u gilydd.
Yr oedd hefyd archesgob yn Nhyddewi o'r
enw Aser. Y mae rhai yn barnu mai yr un
ydoedd ag Aser, mynach Tyddewi, ag Aser,
esgob Sherburn. Dywed Caradog, o Lancarfan,
yn ei Amseriedydd Cymreig, i Aser y Doeth,
archesgob y Brythoniaid, farw yn y flwyddyn
O.C. 906, ond y Sacsoniaid a ddyddiant ei
farwolaeth yn 910.
AUBREY, PARCH. WILLIAM, LL.D., a anwyd yn y Cantref, sir Forganwg. Yr oedd yn gefnder i'r Dr. John Die. Cafodd ei addysg yn Ngholeg yr holl Saint, Rhydychain. Graddiwyd ef yn B.A. yn 1549. Gwnaed ef wedi hyny yn benaeth Neuadd New Inn, ac yn Gorph. 13eg, 1554, yn LL.D. Dyrchafwyd ef hefyd yn farnydd amddiffynol byddin y frenhines yn St. Quintens, yn Ffrainc, yn amddiffynydd yn y Court of Arches, yn un o Gynghorwyr Terfynau Cymru, yn Feistr yn y Sianseri, ac yn ganghellwr i archesgob Canterbury dros yr holl dalaeth. Yn olaf, cymerwyd ef yn nes at berson ei Mawrhydi Elizabeth, trwy ei godi yn feistr cwrt yr ymofynion wrth alwad. Dewiswyd ef hefyd yn un o broctoriaid y Brif Ysgol, yn 1593. Yr oedd yn meddu dysgeidiaeth ddofn, ac o bwyll neillduol, ac am hyny yn cael ei enwi yn anrhydeddus gan yr hanesydd Thuanus ac ereill. Efe a ysgrifenodd amryw bethau, yn enwedig ei lythyrau at Dr. Du—Du ar "Benarglwyddiaeth y Moroedd." Ond ni wyddys fod dim o'i eiddo wedi ei argraffu. Darfu i Syr F. Walsingham, un o weinidogion Elizabeth, ysgrifenu llythyr at Syr Edward Stradling, o Gastell St. Donets, yn hysbysu fod Dr. Aubrey yn bwriadau dyfod i sir Frycheiniog ar ymweliad, a'i fod yn bwriadu cael llawenydd gyda'i gyfeillion, ac yn deisyf cael carw ganddo erbyn hyny. ("O'r llys yn Nonesuch y 30ain o Orphenaf, 1584.") Ac y mae yntau ei hun yn anfon llythyr at Syr Edward yn gofyn yr un anrheg i'w fab, Edward Aubrey, erbyn y Sesiwn, gan ei fod yn sirydd; dyddiedig, Gorph. 1af, 1591. Bu farw Dr. Aubrey Gorph. 23ain, 1595, a chladdwyd ef yn eglwys St. Paul. (Wood's Fasti; Stradling's Correspondence.)
AUBREY RICHARD, yr hwn oedd o farn
undodaidd, a ddewiswyd gan y gynulleidfa, neu
o leiaf ryw nifer o bersonau yn y gynulleidfa a
gyferfydd i addoli yn addoldy Heol-fawr,
Abertawy, i fod yn gynorthwywri Mr. Richard
Howells; yr hwn a fu yn gwasanaethu
y gynulleidfa hono hyd nes iddo fethu gan
henaint a methiant. Gan nad oedd y ddau
yn cydweled am drefn iechydwriaeth, ymadawodd Mr. Howells, ac ymunodd fel aelod â'r
Annibynwyr Seisnig, yn Heol-castell, Abertawy.
AUBREY, WILLIAM, A THOMAS, a JOHN, oeddynt frodorion o blwyf Llanfyrnach, yn sir Frycheiniog, ac yn geraint i'r Dr.
W. Aubrey. Bu y cyntaf yn ganghellwr
Tyddewi, yn 1514, a'r ail wedi hyny. Yr
oedd y trydydd o'r un teulu, ond yn byw yn
East Percy, yn sir Wilts, ac a gynhorthwyodd
Dugdale yn nghasglu ei "Monasticon." Yr
oedd hefyd yn un o aelodau cyntaf y Royal
Society, ac a gyhoeddodd amrywiol weithiau,
yn mhlith y rhai yr oedd "Natural History
of Surrey." Bu farw yn 1700. (Lewis's Topographical Dictionary.) Darfu i un arall,
o'r un teulu, a'r un enw, gyhoeddi llyfr a
elwir "Miscellanies upon Day, Fatality,
Omens, Dreams, Knockings, Corpes Candles
in Wales, &c. By John Aubrey. 1721."
AUBREY, WILLIAM, LL.D., ydoedd un
o hynafiaid y teulu o'r cyfenw hwn, a ddaeth i
Forganwg, gan ymsefydlu trwy briodas yn
Llantryddyd. Mab y Dr. Aubrey hwn oedd
y cyntaf a gafodd hawl yno. Disgynyddion
oeddynt oddiwrth Sant Aubrey, o waed brenhinol Ffrainc, a ddaeth i Loegr gyda Gwilym
y Gorchfygwr, yn 1066. Mab i hwnw oedd
Syr Bernard Aubrey, a gynorthwyodd Bernard de Newmarch i ddarostwng y Cymry;
a chafodd diroedd Abercynfig a Slough, fel ei
ran o'r ysbail. Yr oedd y Dr. Aubrey hwn
yn broffeswr
y gyfraith yn Rhydychain, yn
un o wyr Cyngor Terfynau Cymru, ac yn
feistr yr ymofyniadau i'r Frenines Elizabeth.
Burkes's Peerage and Baronetcy.)
B
BACH, mab Carwel, oedd benaeth, yr hwn a enciliodd i Ogledd Cymru yn y seithfed ganrif, a chyflwynodd derfyn ei oes i grefydd. Dywedir mai efe oedd sylfaenydd Eglwys Fach, yn sir Dinbych, ar lanau y Conwy; ac yn ol traddodiad y gymydogaeth, yr oedd clochdy yr eglwys yn ffurfio rhan o'i dy. Dywedir hefyd iddo ladd bwystfil oedd yn gwneud mawr niwaid yno, wrth yr afon Carog, yn agos i'r eglwys. Y mae crug yn aros eto ar y fan a elwir Bedd Carog.
BAGLAN, mab Dingad ab Nudd Hael, oedd sant yn byw yn y chweched ganrif. Ei fam oedd Tefrian, merch Llewddyn. Bu Baglan byw yn Coedalun. Efe a'i frodyr, Gwytherin, Tegwyn, Tefriog, a'i chwaer Eleri, a unasant a Choleg Ynys Enlli, tuag O.C. 520. (Bonedd y Saint.)
BADDY, THOMAS, oedd enedigol o Ogledd Cymru, ond nid ydym yn gwybod o ba
ran o'r gogledd ydoedd. Yr oedd yn ysgolhaig
rhagorol, wedi ei addysgu, fel y tybir, dan ofal
y Parch. Samuel Jones, Brynllywarch; efe a
ymsefydlodd fel gweinidog ar yr eglwys yn
Dinbych, tua'r flwyddyn 1693; a pharhaodd
yn y weinidogaeth hyd ei farwolaeth, yn 1729.
Yr oedd ei gynulleidfa yn fechan o rif, ond yn
barchus iawn. Ymddengys ei fod yn bregethwr
talentog, yn foneddigaidd o ymddygiad, ac yn
berchen ar lawer o dda y byd hwn. Yr oedd
yn uwch o ran ei sefyllfa yn y byd na'r rhan
amlaf o'i frodyr yn y weinidogaeth. Dywedir
ei fod yn achlysurol yn gwisgo yspardynau
arian am ei sodlau, yr hyn a barai dramgwyddiadau
a gofid mawr i rai o'i gyfeillion, am ei fod yn
hyn yn myned yn rhy debyg i wyr mawr yr
oes hono. Pan hysbyswyd ef o hyny, dywedodd fod yn ddrwg iawn ganddo eu bod yn
rhoddi yn eu calonau i'w blino yr hyn a roddai
efe am sodlau ei draed. Y mae y Dr. Charles
Owen yn ei ddarlunio fel " gweinidog diwyd,
a thra gostyngedig o ysbryd.' Efe a wasanaethodd ei genhedlaeth trwy ysgrifenu a chyfieithu amryw lyfrau da, megys "Hymnau Sacramentaidd," 1703. "Cyfieithad o Dolittle
ar Swper yr Arglwydd," 1703. "Cyfieithad
o Wadsworth ar Hunanymwadiad," 1713.
"Cyfieithiad Cynghaneddol o Ganiad Solomon,
gyda Nodiadau Eglurhaol," 1725. "Cyfieithad o Wagedd Mebyd ac Ieuenctyd, gan Dr. D.
Williams," 1727.
BAGLAN, mab Ithel Hael, tywysog o
Armorica. Preswyliai y rhan flaenaf o'r
chweched ganrif; ac ymddengys ei enw yn
rhes y seintiau Cymreig, ond nis gellir sicrhau
gan ba un o'r ddau sant o'r enw hwn y cafodd
yr eglwysi Llanfaglan, yn sir Gaernarvon, a
Baglan, yn Morganwg, eu sylfeini, efallai, un
gan bob un o honynt.
BAKER, (DAVID,) a anwyd yn Abergavenny, yn 1575. Yr oedd ei dad yn wr o
feddianau, ac yn oruchwyliwr i arglwydd
Abergavenny; a'i fam oedd chwaer i'r Dr.
David Lewis, barnwr y môr-lys; ar ol yr hwn
y cafodd ei enw. Derbyniodd ei addysg yn
Christ's Hospital, yn Llundain. Symudodd
oddiyno i Broadgate Hall, Rhydychain, yn
1590. Yr oedd yn mwriad ei dad i'w ddwyn
i fyny yn offeiriad, ond gan fod rhyw rwystrau
ar y ffordd, anfonwyd ef i'r Middle Temple cyn
iddo gymeryd un gradd, lle yr ymroddodd
gyda diwydrwydd mawr i astudio y gyfraith.
hwn blinid ef yn fawr gan
Atheistiaidd; ond yn mhen amser wedi hyny,
cafodd waredigaeth hollol oddiwrthynt; ac
hyd derfyn ei oes, ymroddodd i fywyd
crefyddol. Yr oedd yn awdwr amryw lyfrau
ar dduwinyddiaeth ymarferol; rhoddir rhes o
honynt gan Wood yn hanes ei fywyd ef; ond
nid ymddengys i'r un o honynt gael eu hargraffu. Yr oedd hefyd yn gyfreithiwr cyffredin rhagorol, ac yn hynafiaethydd da.
Yr oedd yn gyfarwydd neillduol yn hynafiaethau yr eglwys Frytanaidd. Ysgrifenodd ei holl weithiau braidd yn Lladin; a
chyfieithodd weithiau amryw awdwyr o'r
Lladin i'r Saesneg; ond bu farw yn Llundain
yn 1641.
BANGOR, (HUGH,) oedd fardd, yr hwn
a flodeuai, yn ol y Cambrian Biography,
rhwng y blynyddoedd 1560 a 1600.
BARNES, EDWARD, ydoedd frodor o
Lanelwy, ac yr oedd yn cael ei ystyried yn
fardd yn ei ddydd. Y mae rhai o'i gyfansoddiadau mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1765,
o'r enw "Cyfaill i'r Cymro," o gasgliad William
Hope, o Dre' Fostyn. Ymddengys iddo ymgysylltu a'r Methodistiaid, a dangos ddifrifoldeb ei sel grefyddol i lesau ei gydwladwyr,
trwy gyfieithu a chyhoeddi 1. "Llythyr o gyngor
difrifol oddiwrth weinidog yr efengyl at wr
mewn cyflwr o fethiant ac afiechyd. gan y
Parch. Mr. De Covey, 1784." 2. "Myfyrdodau
Hervey, y rhan gyntaf, gyfieithad Iorwerth
Barnes, 1785." 3. "Coron gogoniant tragywyddol." "Pregeth y Parch. T. Priestley, ar
farwolaeth arglwyddes Selina, iarlles Huntington, a gyfieithwyd gan Edward Barnes."
Yr oedd yn byw y rhan fwyaf llafurus o'i oes yn
sir Drefaldwyn, ac yn cymeryd y blaen gyda'r
symudiad Methodistiaidd, gan gymeryd y pregethwyr teithiol a'r cyfarfodydd i'w dy.
BARNES, THOMAS, a drowyd allan o
Magor, sir Fynwy. Cafodd ei anfon o eglwys
Allhallows, yn Llundain, i bregethu yr efengyl
yn Nghymru. Ar ol ei fwriad allan, efe a
ddaeth yn weinidog yr eglwys gynulleidfaol
oedd wedi ei ffurfio yn Llanfaches, yn 1689.
Yr oedd llawer, os nad y rhan amlaf o aelodau
yr eglwys hono yn byw yn mhlwyf Magor, a'r
plwyfydd nesaf; ac efe a barhaodd yn y sefyllfa hono hyd ei farwolaeth yn 1703. Ar farwolaeth Dr. Owen, cafodd alwad i ddychwelyd
i Lundain, yn ganlynydd iddo; ond efe a ddewisai aros gyda'i ddeadell erlidiedig yn y wlad.
Cafodd ei gynal yn gysurus yn ei flynyddoedd
adfeiliedig, o Ystorfa y Bwrdd Cynulleidfaol.
Y boneddwyr a'r offeiriaid a'i parchent ef yn
fawr am wrthod deisebu y brenin Iago yn erbyn prawf. Yr oedd yn meddu ar gryn lawer
o synwyr, diniweidrwydd, a hunanymwadiad.
BASSETT, CRISTOPHER, y gwr parchus hwn a hanai o un o hen deuluoedd mwyaf urddasol Morganwg, fel y gwelir oddiwrth achres o deulu y Bassetts, a gyhoeddwyd yn y flwyddyn 1846. Daeth gwreiddiau y teulu drosodd o Normandy, gyda Gwilym y Gorchfygwr. Dau frawd oeddynt, sef Allan a Thirstane Bassett; ac y mae amryw o brif bendefigion Lloegr yn olrhain eu hachau i'r naill neu y llall o'r brodyr hyn hyn. Daeth John, un o feibion ieuangaf Thirstane Bassett, drosodd i Gymru gyda Robert Fitzhamon, câr i Gwilym
y Goresgynydd, pan gymerodd yr arglwyddi
Normanaidd hyny feddiant o'r rhanau brasaf o
Forganwg; a'i hiliogaeth a ymgymysgasant
trwy briodasau â hen deuluoedd Cymreig mwyaf pendefigaidd y Deheubarth. Gwrthddrych y
cofiant hwn oedd fab i Cristopher Bassett,
Ysw., ac Alice ei wraig, o Aberddawen, yn
mhlwyf Penmarc, sir Forganwg. Efe a anwyd,
debygid, tua'r flwyddyn 1753; a phan ydoedd
yn dra ieuanc efe a anfonwyd i ysgol enwog
oedd yn y Bontfaen, dan yr athraw dysgedig,
Mr. Thomas Williams; ac efe a dreuliodd amryw flynyddoedd yno, ac nid yn ofer; canys
yr ydym yn deall iddo gynyddu mewn dysgeidiaeth yn gyflym yn y tymor y bu yno; fel
y rhoddai ei athraw air uchel iawn iddo fel
ysgolor rhagorol; ac ar yr un pryd, yr oedd
ei addfwynder a'i hynawsedd arbenig, yn
enill iddo lawer o serchogrwydd a pharch
pawb a'i hadwaenent. Wedi iddo ymadael o'r
ysgol uchod, ei dad, er ei brofi, a ofynodd iddo,
pa un ai myned i Rydychain, neu fyw ar ei
dir ei hun yn y wlad a ddewisai efe? I'r hyn
yr atebodd yn rhwydd a dibetrus, gan ddywedyd, "Yr ydwyf yn gobeithio y caf dreulio fy
mywyd yn y gwaith o ddywedyd y gwir dros
Dduw wrth fy nghydgreaduriaid, er gogoniant
i Iesu Grist, a thragywyddol ddaioni i ddynion." Parodd yr atebiad yma i'w dad bender-
fynu ei ddwyn i fyny i'r weinidogaeth; ac felly
efe a'i hanfonodd ef i Goleg yr Iesu, i Rydychain, lle yr arosodd nes graddio yn A.C. Ar
ei alwad i fod yn gurad i'r efengylwr enwog Mr.
William Romaine, yn St. Ann's, Blackfriars,
efe a dderbyniodd urddau eglwysig gan esgob
Llundain; ac efe a fu yn gwasanaethu yn y
fan hon dros rai blynyddoedd, gyda llawer o
ffyddlondeb a llwyddiant. Yn y cyfamser efe
a etholwyd yn ddarlithydd i'r eglwys a elwir
St. Ethelburga, lle y tynodd y darlithydd ieuanc sylw mawr, wrth bregethu yr Iesu a'r adgyfodiad i'r bobl. Efe a gafodd dwymyn drom
iawn tra yr ydoedd yn y brif ddinas; ac ofnid
ar y pryd y buasai ei fywyd yn syrthio yn
ysglyfaeth iddi; ac yn wir, er iddo gael adferiad ar y pryd, gadawodd y clefyd hwn ei
effeithiau ar ei gyfansoddiad tra fu efe byw;
ac wrth ei weled yn parhau mor llesg, barnodd
ei rieni nad oedd awyr Llundain yn cytuno ag
ef, a dymunasant arno ddychwelyd i'w wlad
ei hun; ac erbyn ei ddyfodiad yno, agorodd yr
Arglwydd ddrws cyfleus iddo i bregethu yr
efengyl i'w gydwladwyr yn St. Fagan, gerllaw
Caerdydd, lle bu yn llafurio gyda gwresogrwydd a gwroldeb mawr dros rai blynyddoedd;
a chafwyd ffrwyth lawer o'i lafur yn yr ardal
hon a'i hamgylchoedd. Fe'n hysbysir mai yn
y flwyddyn 1778 y daeth y dyn ieuanc duwiol
hwn i wasanaethu plwyf St. Fagan; a chan
ei fod yn dra phleidiol i'r Methodistiaid, efe a
gymerodd dy dan ardreth, gan un o'r enw
Bartholomew Howell. Ty oedd hwn lle yr
arferai ieuenctyd y pentref gyfarfod ynddo i
ganu a dawnsio; ond wedi i Mr. Bassett ei
gymeryd, fe'i defnyddid i ddyben llwyr wahanol; canys cynhelid ynddo bob moddion o
ras, ac ynddo y parhaodd Methodistiaid St.
Fagan i gynal eu cyfarfodydd crefyddol, hyd
oni chawsant yr addoldy sydd at eu gwasanaeth yn awr, yr hwn a adeiladwyd yn y flwydd.
yn 1837.
Gofalai Mr. Bassett gymaint am yr
achos Methodistiaidd yn yr ystafell grybwylledig ag am ei guradaeth; ie yn wir, un achos
yr ystyrid hwynt ganddo ef, sef achos y Cyfryngwr, ac achos eneidiau dynion ;-achos y
teimlai efe rwymau i wneuthur rhywbeth erddo yn mhob gwedd a fyddai arno. Trwy ei
ddylanwad efe a lwyddai i gael y brodyr mwy.
af cyhoeddus yn eu tro i ddyfod i St. Fagan.
Yn mhen ysbaid efe a symudodd o St. Fagan
i'w blwyf genedigol, lle y dangosodd drachefn
trwy ras Duw, gwas i bwy ydoedd, gan
draethu y gwirionedd yn ddifloengni a didderbyn wyneb; a Duw yn rhoddi seliau
lluosog ac amlwg i'w weinidogaeth. Ond
wedi peth amser, efe a roddes guradaeth y
plwyf hwn i fyny, ac a ymgymerodd â gwasanaethu yr eglwys oedd yn Mhorthcerri, ar
fin y môr, ac yn agos i dy ei dad.
Nid
oedd hyn namyn ychydig iawn cyn diwedd
ei oes; ac yn y lle yma yr addfedodd y
dwysen lawn hon. Efe a fu yn dra bendithiol yn llaw yr Arglwydd dros y tymor byr y
bu efe yn llafurio yn Mhorthcerri, a chaed
arwyddion amlwg fod llaweroedd yn yr ardal
hono "wedi eu galw i fod yn saint" trwyddo
ef. Meddai ei dad selliau teg, o ran uchder ei
dras ei hunan, a'r hoffder a'r parch a broffesai
llawer o fawrion y wlad tuag ato, i ddysgwyl dyrchafiad i'w fab yn yr eglwys, trwy
roddi rhai o'r llanau mawrion a'r bywioliaethau breision iddo. Ond pa bryd bynag y
deuai yr adeg i brofi cywirdeb eu proffes,
hwy a dynent yn ol ag esgus dylawd Ffelix,
"Pan gaffwyf amser cyfaddas, myfi a ddanfonaf am danat." Ac er y gallasent, o ran
cyfleusdra, lawer gwaith roddi y fath ddyrchafiad iddo, ni allasent lai nag amlygu yr
elyniaeth sydd yn nghalon y dyn anianol at
y gwirionedd, er ei ddyferu dros wefusau
Athrau yn y Celfyddydau; yr hyn debygid,
wrth ymddygiad llawer, sydd yn llawer gwell
a mwy cysegredig na genau halogedig lleyg—Felly cafodd Bassett ei siomi lawer
gwaith yn addewidion dynion; ond er hyny, nis
gadewid ef fel Ephraim gynt, i ymborthi
ar wynt; ond efe a ddysgwyd gan Dduw i
fod yn ddoethach; a thorodd hyny lawer ar
rym ei brofedigaeth; ac efe a welodd fod y
gwir yn fawr o hono ei hunan, ac y llwyddai.
Gwelodd mai yr un ydyw ysbryd yr efengyl
yn awr ag oedd gynt, ac nad rhaid iddi wrth
gefnogaeth gwyr mawr i'w dal i fyny yn yr
oes yma, mwy na phan oedd pysgodwyr
Galilea yn pregethu iachawdwriaeth i ddynion yn unig yn enw un a groeshoeliwyd ac a
farwolaethwyd gan fawrion y byd fel drwg
weithredwr, ond a arddelwyd gan Dduw,
Act. ii. 36; iii. 15; iv. 9, 10, 11; a xiii. 27,
28, 29, 30. Yr unig ffordd i weled gogoniant yr efengyl ydyw y modd yr ydym yn
gweled yr haul, sef yn ei oleuni ei hun; ac
yn y goleuni hwn y barnodd Bassett ar y
mater; ac am hyny, er pob anmharch, daliai
ei ffordd yn ddiarwadal, gan wybod nid o'r byd hwn yr oedd teyrnas ei Arglwydd, ac
mai ynfydrwydd oedd i'r gwas ddysgwy!
gwell triniaeth na'i arglwydd; ac efe a gafodd
achos i ganu felly yn fynych—
"Ni fyn y ddaear ddim o honwyf;
Mi af bellach tua'r nef.
Yno mae ngharenydd goreu,
Yno'm dinas i a'm tref.
Llosged tân yn ulw'r ddaear,
Eto canaf fi fy nghainc,
Tra bo Mhrynwr mawr anwylaf
Draw yn eiriol ar y fainc."
Efe a deithiodd lawer yn ei oes fer i bregethu Crist wedi ei groeshoelio; am ba achos ei gelwid gan ei frodyr Eglwysig yn Fethodist, ac yr ymddygid ato yn dra angharedig gan ambell un o frodyr Doeg. Clywais wr cyfrifol o Ddyffryn Clwyd yn dywedyd iddo glywed yr hen bobl yn darlunio ei ymweliad A'r wlad hono ar un achlysur yn nghwmni un o hen weinidogion enwog y Deheudir, Jones, Llangan, efallai. Ar ddiwedd yr oedfa, yr oedd y bobl mewn mwynhad rhyfeddol—yn neidio ac yn moli Duw; ac yn eu mysg yr oedd yr offeiriad ieuanc, a'i wallt melyn wedi ei blethu megys cynffon laes ar ei gefn, yn ol arfer bonedd uchel-waed yr oes hono, yn mwynhau yn helaeth o'r unrhyw ysbryd gorfoleddus, gan ganu y penill hwnw:—
"Yn y rhyfel mi arosaf,
Yn y rhyfel mae fy lle;
Boed fy ngenau wrth y ddaear,
Boed fy llygaid tua'r ne';
Doed y goncwest pryd y delo,
Dysgwyl wrth fy Nuw a wnaf;
Nes o'r diwedd wel'd yn trengu'r
Pechod ydoedd bron a'm lladd.".
Fel yr oedd efe ar un achlysur yn pregethu yn Nghapel Crai, swydd Frycheiniog, yn haf 1783, ar Sabbath tra gwresog, a'r dyrfa yn lluosog iawn, teimlai ei nerth yn pallu yn dra annysgwyliadwy, a rhyw boen dyeithrol yn ymafael oddeutu ei ysgyfaint. Gan y gwres a'r lluosogrwydd dynion, efe a chwysodd yn ddirfawr wrth lefaru; ac y mae yn debyg iddo fod yn rhy esgeulus o hono ei hun ar ol yr oedfa, fel y cafodd anwyd trwm; o effeithiau yr hwn ni chafodd efe ymwared tra bu ar y ddaear. Efe a ymwelodd â'r lle hwnw unwaith ar ol y tro hwn, a dychwelai o'r daith hono yn dra llesg ac anhwylus. Cyrhaeddodd y noswaith gyntaf i dy gwr boneddig oedd yn gyfaill hoff iawn ganddo, ac yno y lletyodd. Y boneddwr sylwai fod ei beswch yn argoeli fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad; er hyny gobeithiai yr arbedid ef flynyddoedd law. er eto. Ond yn mhen ychydig ddyddiau ar ol iddo gyrhaedd adref, torodd gwythien o'i fewn, a phoerodd lawer iawn o waed; yr hyn oedd yn ei wanhau yn gyflym; a chyda hyny, yr oedd ei beswch yn parhau yn drwm iawn. Ei riaint hoff a gymerasant hyn yn argoel o berygl am fywyd eu serchus fab; ac yn ddiymdroi hwy a ymgynghorasant a meddyg deallus o'r Bontfaen, sef Mr. Bates, yr hwn a ymroddodd i ymweled ag ef, a gweini arno dros ysbaid o amser, gyda gofal a thiriondeb neillduol. Wrth weled fod ei glefyd yn tueddu at y darfodedigaeth, cynghorai y meddyg ar iddo gael ei symud dros ychydig amser i gymydogaeth y ffynonau brwd, gerllaw Caerodor; ac daith tuag yno, teimlai ei natur yn ymadnewyddu, fel y barnodd yn gryf iawn y byddai y daith hon yn foddion ei adferiad; a chryfhaodd ei dyb yn hynu wedi iddo aros yno rai dyddiau; ond ei gyfeillion mwyaf craffus a sylwent fod ei anadl yn byrhau, a'i aelodau yn gwanhau. Yn y cyfamser, yr oedd ei enaid yn mwynhau llawer o gymundeb a Duw; ac yr oedd yn amlwg ei fod ef yn addiedu i'r wlad well." Fel hyn yr adroddai yr hybarch D. Jones, Llangan, am ei brofiad yn yr adeg yma:—"Trodd ein hymddiddan un diwrnod yn dra neillduol ar bethau yn y wlad uwchlaw yr haul. Cefais le i farnu yn nghwrs ein cydymddiddan, nad gwr dyeithr oedd efe yn y wlad hono; ond ei fod yn dra chynefin mewn llawer rhan o honi; a'i fod yn cael rhyw hyfrydwch mawr wrth dderbyn newyddion rhagorol oddiyno yn fynych, Ioan xvi. 14. Dywedai lawer iawn wrthyf am iaith y wlad; a gwelais yn eglur fod ganddo sicrach gafael ar Arglwydd y wlad hono nag oedd gan yr hen gonsumsion arno ef. Ag wyneb siriol dywedai wrthyf fel y canlyn ar un amser:—Gwn ar brydiau beth yw mwynhau tawelwch sylweddol yn ngwyneb fy holl drueni!" "Efe a arosodd dros ysbaid ar yr adeg hon yn nhy ei chwaer yn Redcliffe- street, Caerodor; a thra yno, efe a ddechreuodd boeri gwaed drachefn; a dywedai wrth ei chwaer un diwrnod, "Yr ydwyf yn gweled yn awr nas gallaf bregethu byth mwyach; ond os myn Duw i mi wellau i ryw fesur, byddaf yn foddlawn i gadw drws yn ei dy ef." Ar adeg arall, dywedai wrth ei dad, "O fy nhad! pa fath amgyffred tlawd sydd genym am y nef!" Dymunai yn fynych ar i'w chwaer ddarllen y drydedd Salm wedi y ganfed iddo; ond pan y darllenai dros y bumed adnod, efe a ddywedai, "Ymataliwch, dyna ddigon, digon, digon!" Rai dyddiau cyn ei farwolaeth, dywedai y geiriau hyny wrth ei dad gyda rhyw ddwysder neillduol:" Diolch i Dduw am dengwaith a thriugain seithwaith," Math. xviii. 22. Ar ddiwrnod arall, gofynai i'w dad, "A glywsoch chwi am ryw un erioed a gollwyd wrth draed yr Arglwydd Iesu?" Ei dad a atebai yn ddibetrus, "Na ddo, erioed." "O'r goreu," ebe yntau, yua yr arosaf, a deued a ddelo o honwyf." Collodd ei leferydd rai oriau cyn marw; ac yn nghylch un o'r gloch prydnawn Sabbath, yr wythfed o Chwefror, yn y flwyddyn 1784, cafodd ei symud o fyd o bechod a thrueni, i fyd y purdeo a'r dedwyddwch, yn yr unfed flwyddyn ar ddeg ar hugain o'i oed. Dygwyd ei gorff dros y mor i dy ei dad yn Aberddawen, a chladdwyd ef yn mynwent St. Athan, yn medd ei chwaer, Miss Alice Bassett, yr hon a fuasai farw yn mlodau ei hoedran, ychydig flynyddoedd o'i flaen ef, gan adael coffadwriaeth beraroglaidd ar ei hol. Pregethodd y Parch. D. Jones, Llangan, ar Math. xviii:22, y Sabbath ar ol ei gladdedigaeth; a Ioan ab Gwilym, neu John Williams, Morganwg, yr hwn oedd yn un o'r gwrandawyr, a ganodd ar ei ffordd adref:—
"Y deg a thriugain saith o weithiau,
Dyma rif na dderfydd byth;
Maddeu'r hwyr a maddeu'r bore,
Madden beiau rif y gwlith;
Dwr a gwaed yw'r afon yma,
Ddaeth o ol y wayw ffon;
Hi dorodd allan ar Galfaria,
Par tra paro'r ddaear hon."
BAXTER, WILLIAM, oedd ysgrifenydd ieithyddol enwog, a nai ac etifedd yr anghydffurfiwr a'r duwinydd enwog Richard Baxter. Ganwyd ef yn Llanllugan (ty tad ei fam), sir Drefaldwyn, yn 1650, o rieni parchus, er nad oedd eu hamgylchiadau ond isel. Esgeuluswyd ei addysg foreuol yn fawr; a phan aeth gyntaf i'r ysgol, yn Harrow, y pryd hwnw yn ddeunaw mlwydd oed, nid oedd yn gwybod llythyren mewn llyfr, ac nid oedd yn deall gair o un iaith ond Cymraeg, fel y tystiai efe ei hun. Modd bynag, efe a brynodd ac a ddefnyddiodd ei amser mor dda, fel y daeth yn wr o wybodaeth fawr a helaeth. Ei athrylith a'i harweiniai yn benaf i astudio ieithyddiaeth a hynafiaethau. Ar y cyfryw destunau yr ysgrifenodd amryw lyfrau; y cyntaf a gyhoeddodd oedd yn 1679, sef ieithadur a alwai, "De Analogia, seu Ante Latinæ Linguæ Comentarialus." 12 plyg; Llundain. Cynwysa hwn lawer o syniadau neillduol a gwreiddiol o'i eiddo ei hun. Yn 1695, ymddangosodd ei argraffiad newydd a diwygiedig o Anacreon, gyda nodiadau. Yr hwn a ail argraffwyd yn 1710, gydag ychwanegiadau a diwygiadau helaeth. Yn 1701, cyhoeddodd argraffiad o Horace; yr hwn a ail argraffwyd drachefn, gydag ychwanegiadau, yn 1725. Yn 1719, ymddangosodd ei Eiriadur cywrain a dysgedig o hynafiaethau Prydeinig, dan yr enw "Glossarium Antiquitatum Britanicarum, sive syllabus Etymologicus Antiquitatum veteris Britanniæ atquæ Hiberniæ temporibus Romanorum." Ei waith nesaf oedd Eirlyfr o hynafiaethau Rhufeinaidd; yr hwn, modd bynag, na chyhoeddwyd hyd ar ol ei farwolaeth, yn 1726, gan y Parch. Moses Williams, dan yr enw, "Reliquise Baxterianæ, sive Willielmi Baxteri opera postuma." Cafodd hwn ei ail argraffu yn 1731, gyda'r enw newydd o "Glossarium Antiquitatum Romanarum." Nid yw yn cyraedd yn mhellach na'r llythyren A; ac y mae'r rhan fwyaf o'i benodau yn draethodau hirion a dysgedig. Yr oedd efe yn feirniadydd galluog yn y Gymraeg, Gwyddelaeg, ieithoedd y gogledd a'r dwyrain, yn gystal Lladin a'r Groeg. Parhai i ohebu a'r dynion dysgedicaf yn ei oes, yn neillduol a'i gydwladwr, Edward Llwyd; ac y mae rhai o'i lythyrau wedi eu cyhoeddi ar ddiwedd y "Glossarium Antiquitatum Romanarum." Yr oedd Baxter yn rhwym y rhan fwyaf o'i oes mewn dysgu ieuenctyd. Yr oedd yn cadw bwrdd-ysgol am rai blynyddau yn Totenham, yn Middlesex. Oddiyno, dewiswyd ef i fod yn feistr Ysgol y Sidan Weithwyr, yn Llundain. Yno y parhaodd dros ugain mlynedd, a rhoddodd ei ofal i fyny ychydig cyn ei farwolaeth; yr hyn a gymerodd le yn Mai, 1723, yn 73 mlwydd oed. Gadawodd deulu o ddau fab a thair merch.
BAYLY, LEWIS, D.D., a anwyd yn nhref
Caerfyrddin, a derbyniodd ei addysg golegawl
yn Ngholeg Exeter, Rhydychain. Yn y flwyddyn 1611, ymddengys ei enw yn nghofnodau
Rhydychain fel gweinidog Evesham, yn
Nghaerwrangon, caplan i'r tywysog Henry, a
gweinidog eglwys St. Mathew, yn Friday-
street, Llundain. Yr oedd ei enwogrwydd fel
pregethwr yn fawr. Cafodd ei wneud yn
gaplan i'r brenin Iago I., yr hwn a'i dyrchafodd i esgobaeth Bangor ar farwolaeth yr esgob
Rowlands. Cysegrwyd ef yn Lambeth, ar yr
8fed o Ragfyr, 1616. Ar y 15fed o Orphenaf,
1621, traddodwyd ef i garchar Fleet; ond nid
yw y cyhuddiad i'w erbyn yn hysbys, er y
meddylir mai rhywbeth gyda golwg ar briodas
Henry ag Infanta, o Ysbaen, ydoedd. Modd
bynag, cafodd ei ryddhau yn fuan. Efe a ysgrifenodd draethawd rhagorol, a elwid, "Ymarfer o Dduwioldeb, yn cyfarwyddo y Cristion pa fodd i rodio er rhyngu bodd Duw."
Am boblogrwydd y traethawd hwn, gall y
darllenydd farnu wrth y nifer fawr o argraffiadau yr aeth trwyddynt. Yr oedd yr un yn
1734 y 59 argraffiad. Cyfieithwyd yr argraffiad cyntaf 12 plyg i'r Gymraeg, dan yr enw
"Ymarfer o Dduwioldeb," yr hwn a argraffwyd
yn Llundain, yn 1630; ac argraffwyd eto amryw
weithiau wedi hyny, yn 8 a 12 plyg. Cyfieithwyd hefyd i'r Ffrancaeg, yn 1633. Yr oedd ei
glod mor fawr, fel yr achwynai John d'Espagne, ysgrifenydd a phregethwr Ffrengig yn
nghapel y Somerset House, yn 1656, fod y cyffredinolrwydd o'r bobl gyffredin yn edrych
arno o gyfartal awdurdod a'r Beibl. Efe a fu
farw Hydref 23, 1631, a chladdwyd ef yn ei
eglwys gadeiriol, yn Mangor. (Wood's Ath.
Oxon Biog. Brut.)
BAYLY, THOMAS, D.D., oedd fab ieuangaf Dr. Lewis Bayly, esgob Bangor, ac
addysgwyd ef yn Nghaergrawnt. Ar ol cymeryd
ei raddio yn y Celfau, y brenin yn 1638 a gyflwynodd iddo is-ddeoniaeth Wells. Yn 1644,
efe, yn nghyd ag ereill a enciliasant i Rydychain; ac yn Awst yr un flwyddyn, graddiwyd
ef yn A.C.; ac yn fuan wedi hyny graddiwyd
ef yn D.D. Yn 1646 cawn ef gyda iarll Caerwrangon yn Nghastell Ragland; yr hwn a
amddiffynai y boneddwr dros y brenin yn erbyn
byddin y Senedd. Wedi hyny aeth i Ffrainc,
a gwledydd ereill; ac ar ol marwolaeth y brenin dychwelodd i Loegr. Cyhoeddodd amryw
lyfrau; yn mysg ereill cyhoeddodd un yn cynwys ymosodiad chwerw ar y llywodraeth, yr
hyn a barodd iddo gael ei daflu i garchar Newgate. Pan yn y carchar cyhoeddodd lyfr arall;
ac mor fuan ag y cafodd ei gyhoeddi, diangodd
o'r carchar a ffodd i Holland, lle cyhoeddai ei
hun yn Babydd, ac y daeth yn amddiffynydd
selog o'r grefydd Babaidd. Wedi hyny sefydlodd yn Douay, lle y cyhoeddodd waith a
alwai, "Terfyn dadleuaeth rhwng y grefydd
Babaidd a Phrotestanaidd," yr hwn a argraffwyd yn 1654. Oddiyno enciliodd i Itali, lle y bu farw mewn cyfyngder mawr, yn y flwyddyn
1659. (Wood's Ath. Oxon.)
BEAUFORT, EDWARD SOMERSET, ail ardalydd Worcester; ydoedd fab hynaf Henry Somerset, pumed iarll Beaufort, a'r ardalydd cyntaf. Efe a briododd Elizabeth, merch i Syr William Dormer, N.G., ac yn ail, Margaret, merch i iarll Thomond. Ymlynodd y boneddig hwn, fel ei dad, wrth y deyrniaeth yn selog, yn amser y rhyfel gwladol; ac efe a benodwyd gan Siarl I. yn arglwydd-raglaw Gogledd Cymru, ac a gyferchid gan ei fawrhydi fel iarll Morganwg, hyd nes y llwyddodd i gael ei urddau etifeddol. Cyhuddid Siarl frenin o anfon yr arglwydd hwn (crefydd yr hwn, medd arglwydd Clarendon, oedd o'r fath hono o Babyddiaeth ag oedd gasaf gan y bobl, gan ei bod y fwyaf Jesuitaidd) i gytuno a'r Pabyddion Gwyddelig a gwrthryfelgar, a dwyn corff mawr o honynt drosodd i wasanaeth y brenin. A chwynai y bobl, a gwadai y brenin yr iarll fel ei wasanaethwr. Bu y mater mewn dadl yn hir, a thaerid fod gan y brenin law ddirgel yn y cyfan. Gadawodd ei arglwyddiaeth waith llenyddol ar ei ol, "A Centuary of the names and scantlings of such inventions as at present I can call to mind to have tried and perfected, which, my former notes being lost, I have at the instance of a powerful friend, endeavoured now, in the year 1665, to set these down in such a way as may sufficiently instruct me to put any of them practice." A argraffwyd gyntaf yn 1663, yr hwn waith a ddarlunia nerth a chymhwysder ager-beiriant. Bu farw Ebrill 3, 1657, (Burk's General and Heraldic Dictionary.)
BEAUFORT, HENRY SOMERSET ydoedd bumed iarll Beaufort, a mab i Edward, y pedwerydd iarll o Ragland, yn sir Fynwy. Efe a alwyd i senedd gyntaf Iago I. Cymerodd ran neillduol yn mhlaid Siarl I., ac amddiffynodd ei gastell yn Ragland gyda byddin o 800 o wyr, o'r flwyddyn 1642 i 1646, heb godi treth ar y wlad. Ond bu orfod iddo ei roddi i fyny o'r diwedd i Syr Thomas Fairfax. Hwn oedd y castell diweddaf yn y deyrnas a barhaodd i herio y gwerinwyr. Wedi ei ddidoi, efe a ddinystriwyd, a thorwyd y coed yn y parc, y rhai a werthwyd gan bwyllgor yr atafaeliad, yr hyn a fernid yn golled i'r meddianwr, hyd i werth £100,000. Cyfodwyd yr iarll hwn i'r urddas o ardalydd Worcester, Tach. 2, 1642. Ei wraig oedd Ann, unig ferch i John, arglwydd Russell. Bu farw yn 1646. (Burk's Genealogical and Heraldic Dictionary.)
BEDO AB HYWEL BACH, bardd, yr hwn a flodeuodd yn y rhan flaenaf o'r eilfed ganrif ar bumtheg.
BEDO AEDDRAN, bardd o gryn enwogrwydd, yr hwn a flodeuodd rhwng 1480 a 1510.
Y mae llawer o'i ganiadau ar gael mewn ysgrifen. Ymddangosodd enwau a llinell gyntaf
amryw o honynt ar amlen Misolyn Cymreig a elwid y Greal, a gyhoeddwyd yn Llundain, yn
y flwyddyn 1806.
BEDO HAFESP, bardd, genedigol fel y bernir, o sir Drefaldwyn. Gadawodd rai caniadau, a ysgrifenodd yn yr unfed ganrif ar bumtheg.
BEDO PHILIP BACH, bardd, a flodeuodd oddeutu y flwyddyn 1480. Y mae amryw ddarnau o'i waith yn y rhan amlaf o'r casgliadau ysgrifenedig. Ymddangosodd enwau a llinell gyntaf naw o honynt yn y Greal.
BEDWAS, sant, yr hwn fel y tybir, a roddodd ei enw i eglwys Bedwas, yn sir Fynwy;
er mai Baroc a ystyrir fel y sant tadogaethol.
Yn ol y proffeswr Rees, yr oedd efe yn fab i
Helig ab Glanawg.
BEDWINI, a nodir yn y Trioedd, (Myv.Arch. ii. 68,) fel arch esgob Celliwig, yn Nghornwal, yr hyn, yn nghyd a Chaerlleon-ar-Wysg, a Chaer Rhianedd, yn y gogledd, a ffurfient dair archesgobaeth Prydain yn amser Arthur. Cofnodir dywediad iddo yntau hefyd yn Englynion y Clywed:—
"A glywaisti a gant Bedwini,
Oedd esgob doniawg diffri?
Rhagrithia dy air cyn noi dodi."
BEDWYR, un o ryfelwyr gwrolaf Arthur, ydoedd fab Bedrawg, yn ol y Trioedd, neu Bedrawd, fel y mae yn cael ei ysgrifenu yn Mabinogi Geraint ab Erbin, neu Pedrod, yn ol y Brut. Yr oedd yn dal y swydd o bentrulliad yn llys y brenin hwnw. Yr oedd yn un o'r ddau farchog a ddewisodd Arthur i fyned gydag ef i fynydd St. Michael, yn Normandy, i ddial marwolaeth Helen, nith i Hywel ab Emyr Llydaw, yr hon a gafodd ei chario ymaith a'i lladd gan gawr o faintioli anferth; a phan oedd Arthur wedi gorchfygu Ffrainc, derbyniodd Bedwyr oddiwrtho ef iarllaeth Normandy. Efe mewn canlyniad a lywyddai fyddin yn y frwydr enwog lle y gorchfygodd Arthur y Rhufeiniaid, dan Lucius, yu nyffryn y Seine, ac yno y lladdwyd ef trwy gael ei drywanu a gwaywffon, gan Baochus, brenin Media, yr hwn yn fuan wedi hyny a gymerwyd yn garcharor, ac a offrymwyd ar gorff Bedwyr. Claddwyd ef yn Bayeux, dinas a adeiladodd efe ei hun, fel prif ddinas iarllyddiaeth Normandy. Dyma'r hanes a roddir i ni gan y Brut Cymreig. Nodir lle ei feddrod hefyd yn Englynion y Beddau, y rhai a dybir yn wrthwyneb i'r hanes a roddir yn y Brut:—
"Bedd mab Osfran yn Nghamlan,
Wedi llawer cyflafan,
Bedd Bedwyr yn ngallt Tryfan."
BELI, mab Benlli Gawr, rhyfelwr nodedig yn Ngogledd Cymru tua diwedd y bumed ganrif. Gwneir cyfeiriad at ei feddrod yn Englynion y Beddau, y rhai a dybir eu bod yn Llanarmon yn Ial, sir Dinbych:—
Pieu y bedd yn y maes mawr,
Balch ei law ar ei lafnawr,
Bedd Beli fab Benlli Gawr."
BELI, brenin Prydain, oedd fab hynaf
Dyfnwal Moelmud, ar farwolaeth yr hwn y
cymerodd ymrysonfa greulon le rhyngddo ef
a'i frawd Bran, yr hyn a dawelwyd ar ol llawer
o derfysg, trwy gynghorion doeth y pendefigion; a chytunwyd ar i'r deyrnas gael ei rhanu
rhwng y brodyr; Beli i gael Deau Prydain, a
Bran yr oll i'r Gogledd o'r Humber, yn ddarostyngedig i awdurdod oruchel Beli. Gorphwysasant felly am bum mlynedd, pan y ceisfodd Bran ferch brenin y Llychlyn mewn priodas, fel y byddai iddo gael cymorth yn erbyn ei frawd. Ar hyny Beli a groesodd yr Humber, a chymerodd feddiant o'i ddinasoedd a'i gestyll; ac hefyd a orchfygodd y galluoedd tramor oedd Bran wedi ddwyn gydag ef. Yr oedd Beli yn awr yn frenin holl Brydain. Efe a osododd amgylchiadau ei deyrnas mewn trefn; ac yn fwy neillduol talodd sylw i ffurfiad ffyrdd yn groes i'r wlad; y rhai wedi eu gorphen a orchymynodd eu cadw yn gysegredig; a chyfranodd arnynt y rhagorfraint o noddfa. Ar ol rhai blynyddoedd o orphwysiad, cafodd eilwaith gwrdd a'i frawd, yr hwn oedd wedi dwyn drosodd gorff cryf o filwyr o Gal. Ond pan ar fyned i'r frwydr, gwnaed cytundeb, yr hwn a effeithiwyd trwy eu mam. Y flwyddyn ganlynol, y ddau frawd a oresgynasant Gal, a gorchfygasant bawb a'u gwrthwynebasant. Oddiyno aethant i Rufain, wedi darostwng yr holl wledydd a ymyrent. Y Rhufeiniaid oeddynt falch i'w prynu ymaith & swm fawr o arian, ac addewid o deyrnged flynyddol, gan roddi 24 o wystl-ddynion er cyflawni y cytundeb. O Rufain aethant i'r Almaen; ond yn cael ar Iddeall fod y Rhufeiniaid yn anfon cymorth i'r Almaeniaid, dychwelasant i Rufain; ac ar ol gwarchae cymerasant y ddinas; ac arosodd Bran fel ymerawdwr Rhufain. Dychwelodd Beli i Frydain, yr hon a lywodraethodd mewn heddwch am y gweddill o'i oes. Efe a adeiladodd Gaerlleon-ar-Wysg, ac hefyd borth ardderchog yn Llundain, a elwir oddiwrtho ef, "Porth Beli;" uwch ben yr hwn yr adeiladodd efe dwr uchel; a phan fu farw, ei gorff a losgwyd, a'r lludw a roddwyd mewn llestr aur, o wneuthuriad cywrain, yr hwn a osodwyd ar ben y pinacl. Y fath yw sylwedd yr hanes a roddir yn y Brut Cymreig, argraffedig yn yr ail gyfrol o'r Myvyrian Archaiology.
BELI MAWR, mab Manogan; ar farwolaeth ei dad, efe a'i canlynodd i'r llywodraeth Brydeinig, yn ol y Brut, yr hyn a fwynhaodd am ddeugain mlynedd, ac a ddylynwyd gan ei fab Lludd. Cofnodir ef yn y Trioedd (Myv. Arch. ii. 59) fel wedi diddymu un o dri aflonyddiadau ynys Prydain; yr hyn oedd gynllwyn yn erbyn y llywodraeth, a rhyfel cartrefol. Efe oedd tad yr enwog Caswallon.
BELI mab Rhun ab Maelgwn Gwynedd, a ganlynodd ei dad i'r llywodraeth fel penllywydd Gogledd Cymru yn 586, a bu farw yn 599, pan ddylynwyd ef gan ei fab Iago.
BELYN, mab Cynfelyn, a gofnodir yn y Trioedd fel arweinydd y tri Gosgordd addwyn ynys Prydain. Gelwid hwy felly am eu bod yn dwyn arfau ar eu traul eu hunain, heb geisio tal na gwobr oddiwrth y llywodraeth. Belyn a'i alluoedd a wasanaethasant yn myddinoedd Caradawg ab Bran. Caradawg oedd enwog mewn hanesiaeth. (Myv. Arch. ii. 8, 69.)
BELYN,o Leyn, a gofnodir yn y Trioedd (Myv. Arch ii. 16, 62) fel penaeth un o'r tri Teuluoedd hueilogion ynys Prydain." Gelwid hwy felly oddiwrth rwymiad o honynt eu hunain yn nghyd â llyfetheiriau eu ceffylau, i gynhorthwyo ymosodiad Edwin ar Fryn Cenau, a elwid wedi hyny Bryn Edwin, yn Rhos, tua'r flwyddyn 620. Y ddau lwyth ereill oedd Caswallon Law Hir, a Rhiwallon ab Urien. Fel gwobr am eu gwrolder, caniateid i'r llwythau hyn wisgo rhwymau aur; ac yr oedd ganddynt awdurdod goruchel yn eu tiriogaethau eu hunain, yn ddarostyngedig yn unig i raith gwlad a chenedl.
BENLLI GAWR, neu y Galluog, oedd arglwydd ar randir helaeth, yn ffurfio rhanau o siroedd presenol Flint a Dinbych. Yr oedd yn byw oddeutu canol y bumed ganrif. Y mae'r amgylchiad a ganlyn yn deilwng o gael ei nodi mewn cysylltiad ag ef:—Pan oedd y gweithwyr, ychydig amser yn ol, yn symud tomen o geryg, yn agos i'r Wyddgrug, yn sir Flint. daethant o hyd i lurig, neu frongengl aur Frytanaidd, mewn lle a elwir Bryn-yr- ellyllon; daethant hefyd o hyd i ysgerbwd. Yr oedd y benglog o faintiolaeth dirfawr, ac esgyrn y morddwydydd yn eiddo dyn o faintioli mawr iawn. Yn gorwedd ar ei fynwes yr oedd brongengl, ac oddeutu dau neu dri chant o gleiniau ambr ardderchog wedi eu boglymu arni, ac wedi ei chroesi a math o berthwe, gwneuthuredig o aur pur, mewn ymddangosiad rywbeth yn debyg i'r angylion a gafwyd ar yr hen fwa Sacsonaidd, a'r oll wedi eu seilio ar aur pur. Ei heithaf hyd yw tair troedfedd a saith modfedd, wedi ei gwneud, mae'n debyg, i fyned dan y breichiau, a chydgyfarfod ar gyfer canol y c. fn; a'i lled o'r tu blaen yw wyth modfedd. Pwysau y rhelyw dyddorgar hwn yw dwy wns ar bumtheg, a'i gwerth yw £60. Y mae yn awr yn y British Museum. Y Dr. Owen Pugh a wnaeth y sylwadau manylgraff a ganlyn ar y peth, ac ymddengys pob amgylchiad fel yn profi fod Benlli Gawr wedi ei gladdu yn y fan hono. Y mae yn debygol i'rdynsawd hwnw fodoli wedi i'r Rhufeiniaid adael ein gwlad. Pe amgen, buasai y corff wedi ei losgi; a phe buasai byw oddeutu y flwyddyn 600, neu wedi hyny, buasai wedi ei gladdu yn un o'n hen eglwysi. Yn ngwyneb yr amgylchiadau hyn, nis gallwn fod yn mhell o'n lle pan yn priodoli amser hanfodiad y person rhyfeddol hwnw i'r flwyddyn 500. Ond eto, pwy oedd efe? Pwy oedd yr uchelwr y buasai i'w ddalwyr, ar ei gladdedigaeth, daflu y fath grug bridda cheryg ar ei fedd, ac y buasai y fath deyrnged nodedig o barch gael ei rhoddi i'w goffadwriaeth? Neb, debygem, ond Benlli Gawr ei hun; yr hwn yr oedd ei gyfeillion o'i amgylch yn ei gladdedigaeth, ar grih y mynydd a elwir ar ei ol ef Moel Benlli; ac yn ngolwg ei breswylfod a elwid Wyddgrug, yn gystal ac yn ngolwg Dyffryn Clwyd, yr ochr arall. mae bedd Beli, mab y dyn galluog hwn, tuag wyth milltir oddiyno; oblegyd dywed Englynion Milwyr fod Beli yn gorwedd yn Llanarmon Iâl.
BENREN a gofnodir yn y Trioedd fel prif
fugail deadellau Caradog ab Bran a'i ganlynwyr, y rhai a gadwodd efe yn Corwenydd,
Deheudir Cymru. Nifer y gwartheg blithion yn y deadellau hyny oedd ugain mil ac un. (Myv. Arch. ii. 70.)
BEUNO, sant, mab Hywgi, neu Buwgi ab Gwynlliw Filwr, yn ol Bonedd y Saint, a Perfferen, merch Llewddyn Luyddog, o ddinas Eiddin, yn y Gogledd. Gwedi cymeryd i fyny arferion mynachaidd, efe a neillduodd i Glynog, sir Gaernarvon, lle yr adeiladodd eglwys, ac y sefydlodd goleg, neu fynachlog, yn y flwyddyn 616. Cadfan, brenin Gwynedd, oedd ei noddwr, yr hwn a roddes iddo lawer o dir. Ac wedi marw Cadfan, yn ol chwedl (legend) St. Beuno, yr hon a red fel y canlyn-Aeth Beuno i ymweled â Chadwallon, ei fab, yr hwn a'i dylynodd yn mreniniaeth Gwynedd, a deisyfodd Beuno gael y tir a addawsai Cadfan, o herwydd nad oedd ganddo yno le i addoli Duw, nac i breswylio ynddo. Yna y brenin a roddes i Beuno le yn Arfon a elwid Gwaredog; a Beuno a roddes i'r brenin deyrnwialen aur, yr hon a roddasai Cynan ab Brochwel iddo ef wrth farw, yr hon oedd yn werth tri ugain buwch; ac yno Beuno a adeiladodd eglwys, ac a ddechreuodd wneud mur o'i hamgylch; ac ar ddydd gwaith, pan oedd efe yn gwneud y mur hwn, a'i ddysgyblion gydag ef, canfuasant wraig, a baban yn ei chol, yn erfyn ar Beuno fendithio y plentyn. "Aros ychydig, wraig, (ebe Beuno) nes gorphen o honom y gwaith hwn." A'r plentyn a wylodd, ac ni chymerai ei ddiddanu! Yna Beuno a ofynodd i'r wraig, "Paham yr wylai y plentyn?" "Sant da (ebe y wraig) rheswm da paham. ""Beth yw y rheswm hwnw?" (ebe Beuno). "Beth, am fod y tir wyt ti yn feddianu, ac yn adeiladu arno, yn dreftadaeth y plentyn hwn!" Yna Beuno a archodd i'w ddysgyblion dynu eu llaw o'r gwaith tra y byddai efe yn bedyddio y plentyn, a pharotoi o honynt ei gerbyd iddo. "A nyni a awn gyda'r wraig hon a'i phlentyn i ymweled a'r brenin, yr hwn a roddes i mi y tir hwn." Yna Beuno a'i ddysgyblion a gychwynasant gyda'r wraig a'r plentyn, ac a ddaethant i Gaer-saint (Caernarvon), lle yr oedd y brenin. Yna llefarodd Beuno wrth y brenin, "Paham y rhoddaist i mi dir gwr arall?" "A phwy, (meddai y brenin) sydd ganddo hawl iddo?" Beuno a atebai-Y plentyn sydd yn nghol y wraig hon yw etifedd y tir. Dyro i'r plentyn ei dir; a dyro i mi dir arall yn ei le, neu dyro i mi yn ol yr anrheg a roddais i ti, sef y deyrnwialen." Ond y brenin balch a gorthrymus a atebodd. "Ni newidiaf y tir; ac am yr anrheg a roddaist i mi, myfi a'i rhoddais i arall." A Beuno a ddigiodd yn fawr, ac a ddywedodd wrth y brenin-"Mi a weddiaf ar Dduw na byddo genyt ti, yn mhen ychydig, ddim tir yn y byd!" Yna aeth Beuno ymaith, ac a'i gadawodd yn felldigedig. Yr oedd i'r brenin gefnder o'r enw Gwyddeint, yr hwn a aeth ar ol Beuno, ac a'i goddiweddodd ef yr ochr arall i afon Saint, lle yr oedd Beuno yn eistedd ar gareg wrth lan yr afon; ac efe a roddes i Dduw a Beuno, dros ei enaid ei hun, ac enaid Cadwallon, ei gefnder, dreflan Clynog Fawr am byth, heb na mael nac ardreth; ac a wnaeth hawl dda o honi; ac yno Beuno a wnaeth lawer o wyrthiau drwy gymorth Duw. Adroddir llawer o chwedlau am dano, y rhai nas gallwn roddi coel iddynt. Y mae cryn lawer o eglwysi wedi eu cysegru iddo yn Ngwynedd, a rhai yn sir Henffordd. Bu farw, yn ol Cressy, yn y flwyddyn O.C. 660, a chladdwyd ef yn ynys Enlli; a dydd ei wyl ef yw Ebrill yr 21ain.
BEVAN, MADAM, ei henw gwyryfol oedd Miss Bridget Vaughan, merch y Derllys, yn mhlwyf Merthyr, ger Caerfyrddin; wedi hyny, Madam Bevan, o Lacharn. Yr oedd hi o deulu parchus iawn, ac yn ferch landeg, synwyrol. Cafodd ei dwyn i ymofyn am grefydd, a meddwl yn ddwys am bethau byd arall, dan weinidogaeth y Parch. Gruffydd Jones, Llanddowror, pan yn pregethu yn Llanllwch, ger Caerfyrddin, lle yr arferai weinidogaethu yn achlysurol. Gwedi iddi briodi Arthur Bevan, Ysw., o Lacharn, byddai yn myned bob Sabbath naill ai i Landdowror, neu i Landilo Abercowyn, i wrando ar Mr. Jones, tua phedair milltir o ffordd; ac er nad heb wawd a gwaradwydd yn canlyn, eto glynodd wrth hyny tra bu efe byw; a bu cyfrinach neillduol dduwiol rhyngddynt dros lawer o flynyddoedd. Yr oedd y foneddiges gyfoethog hon yn dra haelionus, ac yn gymorth mawr i Mr. Jones tra y bu efe byw, i osod i fyny ysgolion elusenol drwy Gymru, fel yr oedd eu rhifedi y flwyddyn ddiweddaf o'i fywyd yn 215 o ysgolion, ac 8687 o ysgoleigion ynddynt. Cynaliwyd yr ysgolion, ar ol marwolaeth Mr. Jones, gan y wraig anrhydeddus hono, Mrs. Bevan, o Lacharn, tra y bu hi byw, sef yn nghylch ugain mlynedd; a phan y bu farw, yr oedd wedi gadael yn ei hewyllys at eu bytholrwydd yn Nghymru y swm o ddeng mil o bunau yn flynyddol. Bu tua chan mil o ysgolheigion ynddynt o farwolaeth Mr. Jones, yn 1761, hyd 1768. Trwy ymrafael y gymynweinyddes (Lady Stepney) ag ewyllys Madam Bevan, a gwaith etifeddion cyfreithlawn y foneddiges am flynyddau yn dadleu mewn llysoedd cyfraith yn erbyn ei hawl i'w rhoddi at yr ysgolion. Ataliwyd eu gweinyddiad am flynyddau; a thrwy hyny, y mae'r arian wedi mwyhau llawer. Rhoddwyd yr achos yn Llys yr Arglwydd Ganghellydd, ac yno yr arosodd hyd yn ddiweddar, pan benderfynodd yr arglwydd ganghellydd yr achos mewn dull sydd yn debygol o wneuthur yr arian yn gwbl ddifudd i'r Cymry, ac yn groes i'r dull y dygwyd yr ysgolion yn mlaen dan olygiad Mr. Jones a Madam Bevan. Y mae'r swm wedi cynyddu er ys deng mlynedd ar ugain yn ol, i yn nghylch £30,000. Y mae'r ysgolion wedi eu parhau hyd yn awr, eithr nid rhyw lawer o les y maent yn wneuthur yn yr oes hon i'n cydwladwyr, gan nad faint a wnaethant yr amser a aeth heibio.
BEVAN, THOMAS, y cenadwr i Madagascar, oedd enedigol o ardal Neuaddlwyd, yn sir Aberteifi, ac aelod o eglwys Neuaddlwyd. Tueddwyd ef i fyned allan yn genadwr i Madagascar. Ac yn Awst, 1817, cafodd ef â gwr ieuanc arall o'r ardal hono, o'r enw Dafydd Jones, eu hordeinio yn Neuaddlwyd, i'r dyben hyny. Hwynt hwy oedd y cenadon Protestanaidd cyntaf a diriasant yn Madagascar (bu yno genadau Pabaidd cyn hyny, y rhai ni wyddasunt). Hwy a adawsant Prydain yn niwedd y flwyddyn rag-grybwylledig, ac a gyraeddasant Mauritius yn Ebrill 1818; ac yn Awst, hwy a aethant drosodd i Madagascar, lle y cawsant dderbyniad croesawgar gan Fisatra, brenin Tamatave, yr hwn a ddanfonodd ei fab, yn nghyd â deg neu ddeuddeg o blant atynt i'r ysgol. Yr oedd gan y plant alluoedd yn mhell tu hwnt i'w dysgwyliad; gan fod pawb yn dyweyd mai yr un peth fyddai iddynt, geisio dysgu creaduriaid direswm a'u dysgu hwy. Ar ol iddynt gael y fath dderbyniad caredig, dychwelasant i Mauritius, i ymofyn eu gwragedd a'u plant; y Parch. D. Jones a ddychwelodd o Mauritius gyntaf; ond cyn dychweliad y Parch. T. Bevan yn ol i Tamatave, gofynodd i un o'r masnachwyr pa fodd yr oedd Mr. Jones a'i deulu, yntau a atebodd, "O, y mae ei wraig a'i blentyn wedi eu claddu, ac y mae yntau ei hun yn dra annhebyg i fyw." Pan glywodd efe hyny, efe a wylodd yn hidl oddiyno i artref ei barchus a'i ofidus frawd. A phan aeth efe i'w olwg, ymaflodd yn ei law, a dywedodd wrtho dan wylo, "Y mae fy ngwaith ar ben, ond chwi a fyddwch byw ac a lwyddwch: ymwrolwch, a chymerwch galon." Mr. Jones a ddywedai, "Tewch, myfi sydd glaf, a chwithau sydd iach." Mr. Bevan a ddywedodd, "Chwi a gewch weled mai gwir a ddywedais, ac fe ddaw un arall i lanw fy lle." Bu farw Mr. Bevan yn mhen y tridiau; wraig a'i blentyn a fuont feirw ar ei ol yn fuan. A chyn diwedd Ionawr, 1819, yr oedd pump o'r chwech cenadon a'u teuluoedd wedi marw, a'r chweched yn glaf.
BEVAN, HOPCYN, a anwyd Mai 4ydd, 1765, mewn lle a elwir Cilfwnwr, yn mhlwyf Llangyfelach, yn sir Forganwg. Ei dad oedd Rees, mab i un Thomas Bevan, o'r Ffynonlefrith, yn y plwyf uchod; a'i fam oedd Mary, merchi un Rees Thomas, Penysgallen, yn mwrdeisdref Casllwchwr, a'r hwn oedd yn uchelwr, ac un o fwrdeisiaid Casllwchwr. Dechreuai rhyw argraffiadau crefyddol ar ei feddwl pan yn blentyn tra ieuanc, fel y byddai yu wylo gan ofn marw yn annuwiol, yn ei wely y nos am oriau, pan nad oedd namyn o dair bum mlwydd oed; a'i rieni yn ceisio ei ddiddanu goreu y gallent. Cafodd well addysg na nemawr o blant Cymru yn ei oes, gan iddo gael ei gadw mewn ysgolion er pan oedd tua phum mlwydd oed, hyd onid oedd tuag un ar bumtheg oed, pan y bu raid iddo ymroddi i gynhorthwyo ei fam yn arolygiad y fferm, gan fod ei dad wedi marw rai blynyddau cyn hyny. Yn y flwyddyn 1785, efe a briododd Mary, merch ieuangaf William Penry, o'r Gellywrenfawr, plwyf Llangyfelach; ac yn fuan wedi hyny dwysai argraffiadau crefyddol ar ei feddwl, fel yr ymroddodd i deithio i wrando pa le bynag y caffai gyfleusdra. Yr oedd tua phum milltir o ffordd o'i gartref i'r Gopa Fach, y lle nesaf iddo ag yr oedd cyfeillach eglwysig gan y Trefnyddion Calfinaidd; ond yno yr aeth, a gwnaeth ei gartref yn mhlith yr ychydig bererinion oeddynt yno, lle y cafodd ei addysgu yn fanylach yn mhethau crefydd, ac y cafodd lawer o ymgeledd ysbrydol. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1792, ac yn 1811, pan neillduwyd brodyr gyntaf i gyflawn waith y weinidogaeth, yr oedd Hopcyn Bevan yr unig un yn sir Forganwg; a'r un flwyddyn, efe a anfonwyd yn genad dros gymdeithasfa y Deheudir i weini i'r achos crefyddol yn mysg y Cymry yn Llundain, ac yno y bu efe yn gwasanaethu gyda llawer o gymeradwyaeth, o ddechreu mis Tachwedd, 1811, hyd ganol Chwefror, 1812; ac ymddengys mai trwy ei anogaeth ef y tro hwn y penderfynodd y frawdoliaeth yn Llundain gael cymanfa flynyddol yno ar wyliau y Pasg. Efe a fu yn pregethu gyda diwydrwydd a chymeradwyaeth mawr yn mysg ei frodyr dros haner can mlynedd. Bu farw Rhagfyr 29, 1839, yn 75 oed. Am y deuddeg mlynedd diweddaf o'i oes, yr oedd ei iechyd wedi anmharu yn fawr iawn, fel y byddai yn analluog am fisoedd weithiau i wneud dim yn gyhoeddus gyda gwaith yr Arglwydd; ond gyda golwg ar ei brofiad personol y blynyddoedd hyn, efe a ddywedai:—"Da iawn i mi yn fy nghystudd presenol, fod yr Arglwydd Iesu wedi rhoddi ac amlygu ei hun dan yr enw a'r cymeriad o Fugail; y mae yn aml iawn yn felus ac yn hyfryd genyf fyfyrio arno yn ngweinyddiad ei swydd fel bugail; Bugail mawr y defaid, trwy waed y cyfamod tragywyddol.' 'Y bugail da, yr hwn a roddodd ei einioes dros y defaid.' Da genyf ddyweyd gyda'r Salmydd, Yr Arglwydd yw fy mugail. Pan y mae fy meddyliau yn crwydro, yr ydwyf yn aml yn gwaeddi, 'Cais dy was.' 'Dychwel fy enaid.' 'Par i mi orwedd yn y porfeydd gwelltog, a thywys fi gerllaw y dyfroedd tawel.' Bydded dy fod di gyda mi wrth rodio glyn cysgod angeu, fel nad ofnwyf niwaid; ond y caffwyf fynediad helaeth i mewn i dragywyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist."—Gorphenaf, 16, 1838. H. BEVAN.
BEVAN, WILLIAM, a anwyd y 3ydd o Dachwedd, 1825, yn nhy ei dadcu, Evan Rowlands, yn Nantyglo. Gwanaidd o gyfansoddiad ydoedd yn blentyn, ac nid llawer o nerth corfforol oedd ganddo wedi ei ddyfod yn ddyn. Yr oedd ynddo gryn awydd am lyfrau er pan ddysgodd ddarllen gyntaf, pan oedd tua saith neu wyth mlwydd oed. Cafodd bob cefnogaeth gan ei rieni yn mhob tuedd dda—mewn esiamplau, cynghorion, ysgolion dyddiol, manteision crefyddol, ac arian i brynu llyfrau, &c. Nid dyweyd fyddai ei rieni ef wrtho, fel llawer o rieni pan geisiai ychydig at brynu llyfrau, "Darllen y llyfrau sydd genyt, nid wyt yn eu cofio yn rhy dda, mi wn," neu fygwyth taflu ei lyfrau i'r tan, fel y gwna rhai disynwyr, ac wrth hyny yn lladd y duedd at lyfrau, ac yn dra mynych at bob peth da yn gyffredinol; a phan ddaw y bachgen i enill arian, a chan fod y duedd hono wedi ei lladd, caiff ei arian fyned i'r dafarn, neu feallai at bethau gwaeth na hyny. Byddai rhieni W. Bevan yn
ei wobrwyo am ddysgu ac adrodd penodau, &c. Ni byddai byth yn uethu enill ei wobr ond iddo roddi ei feddwl at hyny, a byddai yn dal y penodau hyny yn ei gof, nes oedd fel math o fynegeir byw. Pan yn bumtheg oed daeth at grefydd; bedyddiwyd ef gan Mr. S. Williams, gweinidog y Bedyddwyr yn Nantyglo; ac yn fuan wedi hyny anogwyd ef i draddodi darlithiau yn yr ysgol Sul, yr hyn a wnai yn Gymraeg neu yn Seisneg. Derbyniwyd ef i athrofa Pontypool, Ionawr 10fed, 1848. Nid oedd ei gyfansoddiad mor gryf ag oedd angenrheidiol wrth fyned i wynebu ar ei fyfyriaeth athrofaol, oblegyd yr oedd yn fyfyriwr mor ddwys; ond daliodd ei dir yn lled dda hyd onid aeth yr haf canlynol i gasglu at y coleg, yn nhref Penfro, lle y cafodd wely llaith. Efe a ddaeth adref wedi cael saeth farwol yn ei gyfansoddiad. Ymdrechwyd cael y meddygon goreu ato, ond bu y cyfan yn ofer. Darfod yr oedd er pob ymdrech i'w iachau. Yr oedd yn mynwes yr eglwysi cymydogaethol yn gystal a'r eglwys y perthynai iddi. Yr oedd pawb am iddo gael byw; ond rhoi fyny y babell bridd a wnaeth yr enaid i fyned i'r "ty nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd.'
BEYNON, WILLIAM, Llangynwyd, a gafodd ei eni yn y flwyddyn 1774, mewn lle, y mae yn debygol, yn sir Gaerfyrddin. Cafodd ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwys Annibynol yn Bethesda, Llangynwyd, sir Forganwg. Yr oedd fel dyn yn hawddgar a serchog, yn cael ei hoffi gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd o egwyddor onest a hollol ddiddichell; fel crefyddwr, yr oedd yn ffyddlon, gwresog, a phrofiadol; ac fel pregethwr, yr oedd yn hwylus a gwlithog, goleu a chymhwysiadol. Ond nid oedd William Beynon heb ei wendidau mwy na dynion ereill. Y mae gan bob dyn ei bechod, ei brif bechod, a'i "bechod parod i'w amgylchu." Y mae rhai pechodau yn hawddach denu dyn i'w cyflawni nag ereill; ac wedi teimlo galar dwys ar ol cyflawni pechod, a gwneuthur penderfyniad i'w wrthwynebu, eto, profedigaeth fechan a'i llithia lawer pryd i gol ei bechod anwyl. Bydded i ni efelychu W. Beynon gyda golwg ar ei rinweddau, ac ysgoi ei wendidau. Y mae wedi gadael gwlad y pechu, a dianc ar bob gelyn, ac wedi myned i'r wlad y dywedodd yr emynwr am dani:—
"Nid oes yno gofio beiau,
Dim ond llawn faddeuant rhad;
Poenau'r groes, a grym y cariad,
A rhinweddau maith y gwaed;
Darfu ofn, darfu ofn, &c.,
llawenydd yn ei le."
BEYNON, PARCH. BENJAMIN, oedd weinidog y Bedyddwyr yn Nghaerfyrddin a'r Penryncoch. Nid oes genym hanes pa le y ganwyd Mr. Beynon, na phwy oedd ei rieni. Yr oedd yn aelod o'r eglwys a ymgyferfydd i addoli Duw yn Nghapel Seion, Merthyr Tydfil, ac yn cyd-ddechreu pregethu a'r diweddar Barch. D. Jones, o Drefdraeth, sir Benfro. Yn y flwyddyn 1796, urddwyd ef yn weinidog ar yr eglwys sydd yn awr yn addoli yn y Tabernacl, Caerfyrddin. Adfywiodd yrachos yn fawr dan ei weinidogaeth ; llanwodd yr addoldy o wrandawyr, a derbyniwyd nifer
lawr o aelodau newyddion. Yr oedd yn weinidog neillduol o ymdrechgar, o gyrhaeddiadau mawrion, ac o ddoniau hynod o enillgar. Ond er pob peth, o herwydd rhyw amgylchiadau ni bu ei arosfa yma ynhir. Efe oedd y gweinidog sefydlog cyntaf yn Penrhiwgoch, a gofalodd am yr eglwys hono dros amryw flynyddau, a thystiai llawer nad oedd ei lafur yn ofer. Yr oedd yr achos yn flodeuog yn ei amser ef, fel y trowyd llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd. Bedyddiwyd lawer yn Llanon a Llandybie. Ond oblegyd rhyw amgylchiadau anghysurus, rhoddodd Mr. Beynon ei weinidogaeth i fyny, ymadawodd ar lle, ac aeth i Lundain, ac aelododd ei hun yn un or eglwysi Saesnig, le yr arosodd hyd ei farwolaeth
BIDWELL, MORRIS, a ddaeth yn berchen bywioliaeth eglwysig St. Mair, Abertawe, ar fwriad allan Morgan Hopkin am ryw anghymwysder. Yr oedd efe yn cymeradwyo y weithred a wnaed er lledaeniad yr efengyl; ond nis gellir penderfynu pa un a oedd yn Anghydffurfiwr ai peidio. Walker a ddywed iddo farw yn Abertawe, cyn yr Adferiad; ac achwynir arno gan y Crynwyr, fel wedi ymddwyn yn angharedig tuag rai e'u pregethwyr yn y flwyddyn 1658. Nid oes genym ddim yn ychwaneg i ddyweyd am dano.
BLACKWELL, JOHN, bardd ac ysgrifenydd Cymreig rhagorol. Ganwyd ef yn y Wyddgrug, sir Callestr, yn y flwyddyn 1797. Ei rieni oeddynt mewn sefyllfa isel yn y byd; ac y mae efe yn un arall o'r niferi lluosog o engreifftiau sydd genym yn y Dywysogaeth, o bersonau a ddyrchafasant eu hunain trwy eu hymdrechion personol, o gyflwr o ddinodedd i sefyllfaoedd o hynodrwydd mewn llenyddiaeth. Cafodd ei osod i ddysgu galwedigaeth crydd, yr hon alwedigaeth a ddylynodd am lawer o flynyddau, yn ei dref enedigol. Amlygai awydd mawr am lyfrau er yn ieuanc, a defnyddiai bob cyfleusdra er diwyllio ei feddwl. Yn y flwyddyn 1823, arweiniodd ei alluoedd barddonol ef i gael ei ethol yn fardd i gymdeithas Gymreigyddol Ruthyn, oddiwrth yr hon y derbyniodd ei dlws arian cyntaf, am yr awdl oreu ar "Enedigaeth Edward II. yn Nghymru;" a gwobr arall am yr araith oreu ar "Ardderchogrwydd y Gymraeg." Yn mis Mai yr un flwyddyn, enillodd ddwy wobr, am draethawd a chan, mewn eisteddfod a gynaliwyd ya Nghaerwys; ac yn eisteddfod Wyddgrug, a gynaliwyd yr Hydref canlynol, efe a enillodd y wobr ar destun y gadair—am yr awdl oreu ar "Faes Garmon;" ac un arall am yr araith oreu ar "Undeb a Brawdgarwch." Yn Medi, 1824, enillodd y tlws a roddid yn wobr yn eisteddfod Powys, a gynaliwyd yn y Trallwm, am y traethawd goreu ar yr "Iaith Gymreig, ei hardderchogrwydd, y lles o'i meithrin, a'r moddion tebycaf i sicrhau ei pharhad a'i llwyddiant," yn nghyd a dwy neu dair o wobrwyon llai. Gan ei fod yn awyddus i dderbyn urddau santaidd, galluogwyd ef trwy haelionusrwydd ei gyfeillion ac edmygwyr ei
athrylith, i fynedi goleg yr Iesu, Rhydychain, yn Rhagfyr 1824, a chafodd ei raddio yn Wyryf y Celfau yn Mehefin 1828. Yn Hydref y flwyddyn hono, yn eisteddfod freiniol Dinbych, dyfarnwyd gwobr iddo am alar-gan ardderchog ar "Farwolaeth Esgob Heber." Yn 1829, urddwyd ef, a chafodd guradaeth Treffynon; ac yn fuan efe a hynododd ei hun yn fawr trwy ei weinidogaeth selog a llwyddianus. Yn ystod ei arosiad yno efe a ysgrifenodd lawer i golofnau y Gwyliedydd, cyhoeddiad misol a ddygid yn mlaen ar egwyddorion yr Eglwys Sefydiedig. Yn Awst 1832, gwobrwywyd ef & thlws yn eisteddfod Beaumaris. Nid arosodd ond pedair blynedd yn. Nhreffynon, oblegyd yr oedd ei gynheddfau a'i dalentau wedi ei ddwyn i sylw yr Arglwydd Ganghellydd Brougham, yr hwn a gyflwynodd iddo y fywiolaeth Gymreig gyntaf a ddaeth yn rhydd, yr hon a ddygwyddodd fod Manor Deifi, yn sir Benfro, i'r hwn le y symudodd yn 1833. Ar ei waith yn gadael Treffynon, anrhegwyd ef a llestri te arian ardderchog gan ei blwyfolion, yn dwyn cerfiad, cynwysedig o'r ymadroddion mwyaf serchiadol, yn amlygu eu cymeradwyaeth o'i ymddygiad dros ystod ei arosiad yn eu plith, yn y cyflawniad o'i ddyledswyddau gweinidogaethol. Yn fuan ar ol ei benodiad i Manor Deifi, deisyfwyd arno gan y gymdeithas er taenu gwybodaeth ddefnyddiol, i adolygu Cylchgrawn Cymreig, ar gynllun cyffelyb i'r Penny Magazine yn Saesneg; a'r rhifyn cyntaf, dan yr enw Cylchgrawn, a gyhoeddwyd yn Ionawr, 1834, yn argraff-swyddfa Llanymddyfri, gyda cherfiadau eglurhaol. Dechreuwyd ef yn benaf trwy ysbryd cyoedd D. R. a W. Rees, ei gyhoeddwyr, y rhai a gawsant addewid o wasanaeth y cerfiadau yn rhad, a sicrwydd pellach am £50 tuag at ba golliadau bynag allai gymeryd lle. Cafwyd ar ddeall modd bynag, ar ol hyny, mai eiddo personol oedd y cerfiadau, a chafodd y Meistriaid Rees dalu am danynt, mewn ychwanegiad at yr hyn a gollasant, dros £200 ar y deuddeg mis cyntaf o fodolaeth y cyhoeddiad, pan roddasant hwy ef i fyny i Mr. Evans, Caerfyrddin, yr hwn a'i cyhoeddodd am chwe mis yn hwy, yr hyn a barodd iddo gryn golled; ac yna efe a ddarfu. Yr oedd y Cylchgrawn yn un o'r cyhoeddiadau goreu a gyhoeddwyd yn y Gymraeg, yn cael ei ddwyn yn mlaen gan Mr. Blackwell gyda medrusrwydd mawr. Ei chwaeth yn dethol, a'i alluoedd yn cyfansoddi, a brofant yn gofgolofn barhaus o'i enwogrwydd llenyddol. Y dyn hynod hwn a fu farw Mai 19, 1840, yn 43 oed, a chladdwyd ef yn Manor Deifi. Ei ganiadau a'i draethodau, yn nghyd a hanes dyddorol o'i fywyd, a gyhoeddwyd dan olygiaeth alluog y Parch. Griffith Edwards, Minera, yn un gyfrol wyth plyg, dan yr enw "Ceinion Alun;" argraffedig yn Rhuthyn, yn y flwyddyn 1851.
BLAIDD RHUDD, penaeth rhandir y Gest, ger Penmorfa, yn sir Gaernarfon. Yr oedd yn byw tua diwedd y ddeuddegfed ganrif; ac yr oedd yn ben ar un o lwythau gwerinol Cymru; ac efe yw y cyff o'r hwn y mae llawer o foneddigion y diriogaeth yn olrhain eu hachyddiaeth. Y llwythau gwerinol ereill oeddynt Adda Fawr, Alo, Gwenwys, a Heilyn. (Cam. Biog.)
BLED, tywysog Cernyw, yr hwn oedd yn byw tua diwedd y chweched ganrif. Yr unig grybwylliad a wneir o hono ef sydd yn y Trioedd, yn ol vr hyn gwnaed rhodd o fintai fawr o anifeiliaid gan ei fab Einion i'r bardd Golyddan; yr hyn a achosodd un o'r tri budr Hafren. Y ddau ereill a achoswyd gan frwydr fawr a ymladdwyd rhwng y Cymry dan Cadwallon, â'r Sacsoniaid dan Edwin; yn yr hon y lladdwyd Iddon ab Ner gan Maelgwn Gwynedd. (Myv. Arch. ii. 16, 22.)
BLEDRI, esgob Llandaf, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 1023, ac i'r hwn y rhydd Caradog y cymeriad canlynol:—Yr ysgolhaig mwyaf yn mysg y Cymry, ac am hyny galwyd ef Bledri y Doeth. Yr oedd mor selog yn taenu dysgeidiaeth, fel y gorfododd yr offeiriaid yn eu gwahanol eglwysi i hyfforddi y bobl mewn llyfrau dysgedig, fel y byddai i bawb dderbyn gwybodaeth briodol am Dduw a dyn. Yn ol Llyfr Llandaf, bu farw yn 1022, yn y 39 flwyddyn o'i gysegriad. Yr unrhyw gofnodiad hefyd a'n cynyagaedda & phrawf o arferion anfoesgar a chreulon yr oes yn yr hon yr oedd yn byw. Mewn dadl â theulu Edwin mab Gwrid, tywysog Gwent, yr esgob a glwyfwyd yn enbyd; ac mewn canlyniad i hyny y tywysog a'i deulu a esgymunwyd, a holl diriogaeth Gwent a ymddifadwyd o bob cymundeb Cristionogol hyd oni wnaed cyflawn foddhad.
BLEDRI, mab Cadifor, arglwydd Gwydddigada, ac Elfed, yn sir Gaerfyrddin; a chladdwyd ef yn Llangadog, yn 1119. (Cam. Biog.)
BLEDDYN AB CYNFYN, ar ol marwolaeth Gruffydd ab Llywellyn, yn 1062, a deyrnasodd yn rhanog a Rhiwallon, ei frawd, yn Ngogledd Cymru, hyd pan fu farw hwnw, yn 1068. O'r pryd hwnw, Bleddyn a deyrnasai ei hunan hyd 1072, pan laddwyd ef mewn brwydr, gan Rhys ab Owain. Yr oedd cymeriad Bleddyn yn enwog yr amser yr oedd yn byw ynddo; cymerodd lawer o boen i amddiffyn cyfreithiau y wlad—adolygu rhai a diwygio ereill. Efe a adawodd ar ei ol lawer o feibion. Yn yr ach-lyfrau, yr oedd efe yn ben un o bum llwyth breninol Powys.
BLEDDYN DDU, bardd, a ymddangosodd oddeutu y flwyddyn 1090. Y mae dwy gân o'i eiddo wedi eu dyogelu mewn ysgrifen yn Llyfr Coch o Hergest, yn llyfrgell coleg yr Iesu Rhydychain, "I Dduw,—I Abad Aberconwy," col. 1249, 1284.
BLEDDYN LLWYD, bardd enwog a fu byw o 1230 i 1260, ond nid oes dim o'i weithiau wedi cyraedd ein hamser ni.
BLEDDYN FARDD, a flodeuodd rhwng 1250 a 1290, fel un o'r beirdd enwocaf. Yr oedd yn fardd i Llywelyn ab Gruffydd, tywysog brenhinol diweddaf Cymru. Y mae tri ar ddeg o ganiadau ganddo, yn cynwys awdlau a galarganau am y tywysog Llywelyn, a'i frodyr, Dafydd ac Owain, a phersonau enwog ereill, wedi eu dyogelu yn y gyfrol gyntaf o'r Myv. Arch.
BLEGWRYD FRENIN, yn y Brut
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.