Geiriau'r Iesu (Pantycelyn)
Geiriau'r Iesu, William Williams, Pantycelyn
- O! Llefara, addfwyn Iesu
- Mae dy eiriau fel y gwin,
- Oll yn dwyn i mewn dangnefedd
- Ag sydd o anfeidrol rin;
- Mae holl leisiau'r grëadigaeth,
- Holl ddeniadau cnawd a byd,
- Wrth dy lais hyfrytaf tawel,
- Yn distewi a mynd yn fud.
- Ni all holl hyfrydwch natur,
- A'i melystra penna' i mas,
- Fyth gymharu â lleferydd
- Hyfryd pur maddeuol ras
- Gad im glywed sŵn dy eiriau,
- Awdurdodol eiriau'r nef,
- Oddi mewn yn creu hyfrydwch
- Nad oes mo'i gyffelyb ef.
- Dwed dy fod yn eiddo imi,
- Mewn llthrennau eglur clir;
- Tor amheuaeth sych, digysur,
- Tywyll, dyrys, cyn bo hir ;
- 'R wy'n hiraethu am gael clywed
- Un o eiriau pur y ne', :
- Nes bod ofon du a thristwch
- Yn tragwyddol golli eu lle.