Geiriau Cydgan Gysygredig (Mynyddog)

Doed holl drigolion daear lawr
I ateb llef y nef yn awr,
Nes byddo tân eu moliant hwy
Yn eirias mwy i’r Iesu mawr.


Dyma’r un oddefodd bwysau
Holl bechodau dynol ryw,
Ac o’i fodd oddefodd loesau
Miniog gledd dialedd Duw;
Ac a ddrylliodd deyrnas angau
Pan y daeth o’i fedd yn fyw.