Geiriau Cyntaf Erin

O Dan y Siwt Geiriau Cyntaf Erin

gan Robin Llwyd ab Owain

Isaac Jones, Abergele
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Mehefin / Gorffennaf 1997 a eilwaith ym Mehefin 1998.

Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr. Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.

(Enillodd yr englyn hwn Dlws W D Williams, englyn gorau'r flwyddyn. Ni siaradodd Erin air tan ei bod yn dair mlwydd oed, ond wedyn ...)



Uwch tawelwch y teulu - y torrodd
Taran ei pharablu;
Efo iaith pob ddoe a fu
Llefarodd ein holl fory.