Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Ael-Haiarn
← Aeddan Foeddog | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Aelrhiw → |
AEL-HAIARN. Mab ydoedd i Hygarfael ab Cyndrwyn o Lystyn Gwenan yn Nghaereinion, a brodyr iddo ydoedd Cynhaiarn a Llwchaiarn. Efe a wnaeth eglwys Llanaelhaiarn wrth yr Eifl yn Arfon, a Chegidfa yn Maldwyn. Yr oedd yn ei flodau yn y chweched cant, a'i wylmabsant a gedwid ar Wyl yr Holl Saint.