Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Aerddrem
← Aerdeyrn | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Afaon ab Taliesin → |
AERDDREM. Bedo Aerddrem, neu Aurdrem, oedd fardd o gryn enwogrwydd, a brodor, meddir, o Lanfor yn Meirionydd. Blodeuai o 1480 hyd 1510. Gwelir ar glawr y Greal fod un ar ddeg o'i gywyddau ar gof a chadw mewn llawysgrif. Naw o honynt "I ferch," a dwy dan yr enw "Canu duwiol." Dechreua un "Canu duwiol" fel hyn:
"Y gwr a wnaeth gaerau nef,'
a'r llall,
"Pwy'n gadarn ddyddfarn a ddaw?
Claddwydd ef, meddynt, yn Llanfor.