Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Afan Ferddig
← Afaon ab Taliesin | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Afan Buallt → |
AFAN FERDDIG. Bardd Cadwallon ab Cadfan brenin y Cymry yn y seithfed ganrif. Nid oes dim o'i waith ar gof a chadw. Nid oedd bardd wrth ei alwad i ryfela, ac ni feiddiai neb ddynoethi arf angeuol yn ei wyddfod yn ol Barddas; am hyny noda y Trioedd.— Tri Gwaywruddion Beirdd Ynys Prydain;—Tristfardd, bardd Urien Rheged; Dygynelw, bardd Owain ab Urien; ac Afan Ferddig, bardd Cadwallawn ab Cadfan; a meib o feirdd y tri hyn, ac nis gellid a'u dehorai," neu a'u hataliai. Yr oedd y tri yna wedi rhuddo eu gwaywffyn mewn gwaed fel nad oeddynt yn feirdd gorsedd heddwch.