Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Alaw (Dafydd)
← Alan Forgan | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Alawn → |
ALAW (DAFYDD). Brodor o lan afon Alaw yn Mon, a bardd cywrain ac awenyddol. Bu farw tua 1540. Mae cofrestr o 12 o'i gywyddau ar glawr y Greal. Mae tri o honynt i Risiart ab Rhydderch o'r Myfyrian. Daethai y gwr hwnw i'w etifeddiaeth 1525. I ofyn cymod Risiart ab Rhydderch y mae dau o'r cywyddau. Tebygol iddo lwyddo yn ei amcan, canys mae yr olaf yn dechreu fel hyn:—
"Af y fory i Fyfyrian ".