Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Albanactus

Alban Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Aled (Tudur)

ALBANACTUS, oedd un o dri mab Brutus, oddiwrth yr hwn y dywedir gan rai ysgrifenwyr y deilliodd yr enw Prydain ar yr Ynys hon. Dywed y traddodiad fod Brutus yn frenin dros yr holl Ynys, ac iddo gael o'i wraig Inogen dri mab, Locrin, Camber, ac Albanactus. I'r hynaf efe a roddodd y rhan ganol a'r oreu, a alwyd oddiwrtho yn Lloegria, neu Loegr, yn ol fel y geilw y Cymry hyd heddyw y wlad a elwir gan y Saeson, England. Cafodd yr ail fab Cambri, Gymru presenol; a'r ieuengaf, Albanactus, a gafodd yn rhan iddo yr holl wlad i'r gogledd o Humber.


ALED, a elwir hefyd Elfeth, ac ambell dro yn Eiluned. Gwel EILUNED.

Nodiadau

golygu