Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Amaethon
← Amabon Glochydd | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Ambrosius, (Aurelius) → |
AMAETHON, ab Don, a brawd i'r lledrithiwr enwog Gwydion ab Don. Dywed yr hen ramantau Cymreig ddarfod iddo ddwyn iwrch a chenaw gast o Annwn, yr hyn a achlysurodd y frwydr a elwid Câd Goddeu (Battle of the Trees), a dyma un o dair ofergad Ynys Prydain. Ceir cân gyfriniol iawn o waith Taliesin ar y frwydr hon yn y Myf. Arch. t. d. 30.