Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Anarawd

Amwn Ddu Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870

gan Isaac Foulkes

Andras ap Rhys Dremrudd

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Anarawd ap Rhodri
ar Wicipedia

ANARAWD oedd fab hynaf Rhodri Mawr, yr hwn oedd dywysog teyrnasol holl Gymru, yr hon, ar ei farwolaeth yn y flwyddyn 876, a ddosranodd rhwng ei dri mab. Y rhan a gafodd Anarawd oedd Gwynedd neu Ogledd Cymru; cafodd Cadell y Deheubarth, neu Ddeheudir Cymru, a chafodd Merfyn, Powys. Bu yn anmheuaeth yn hir, pa un ai Cadell ai Anarawd oedd y mab hynaf. Geilw Dr. Owen Pughe, Cadell yn hynaf, yn ei Cambrian Biography; felly hefyd y gwna Price yn ei Hanes Cymru, tu dal. 392, ond yn tu dal. 397, gelwir Anarawd yr hynaf, Darfu i'r ddadl hon achlysuro i Vaughan o Hengwrt, yr hynafiaethydd enwog, i gyfansoddi traethawd, o dan yr enw, "British Antiquities revived," yr hwn a argraffwyd yn Rhydychain, 1662, yn 4 plyg, ac ailargraffiad yn y Bala yn 1834, yn 4 plyg. Ymddengys y profir yn llawn yn hwn mai Anarawd oedd yr hynaf, a'i fod yn meddu blaenoriaeth awdurdod ar ei frodyr. Pa fodd bynag, nid coron ysgafn a fu yr eiddo ef, gan ei fod mewn rhyfeloedd gwastadol â'r Sacsoniaid Yn y flwyddyn 880, yr ymladdodd efe frwydr Cymryd, ger tref Aberconwy, yn sir Gaernarfon, ac y gorchfygodd y Sacsoniaid gyda lladdfa fawr, a dialodd farwolaeth ei dad, yr hwn a laddwyd yn Môn. Gelwir y frwydr hon, mewn hanesion Cymreig, "Dial Rhodri." Y mae ei deyrnasiad yn hynod hefyd am ymfudiaeth y Brutaniaid Gogleddol yn y flwyddyn 890, y rhai, oblegyd eu gwasgu gan eu gelynion, a adawsant Strathclwyd, ac a dderbyniwyd yn lletygar gan Anarawd, yr hwn a roddodd iddynt diroedd yn siroedd Dinbych a Fflint, ar yr amod fod iddynt yru ymaith y Sacsoniaid a gymerasant feddiant o honynt, yr hyn a gwblhawyd yn foddhaol. Yn y flwyddyn 892, aeth Anarawd i mewn i diriogaethau ei frawd yn y Deheubarth, y rhai a ddistrywiodd trwy dân a'r cleddyf. Yn y flwyddyn 900, bu farw Cadell, yr hwn cyn hyny a ddygodd Bowys dan ei lywodraeth, ac felly daeth Anarawd yn dywysog teyrnasol holl Gymru, a theyrnasodd hyd ei farwolaeth yn y flwyddyn 913, pan y gadawodd ar ei ol dri mab, Idwal Foel, Elis, a Meurig. Y mae Cadell, Anarawd, a Merfyn, yn cael eu henwi yn y Trioedd, fel y "Tri Heiyrn taleithiawg" Ynys Prydain.

Nodiadau

golygu