Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arddun Benasgell
← Arawn | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Aregwedd Foeddawg → |
ARDDUN BENASGELL oedd un o ferched Pabo Post Prydain. Bu'n wraig i Frochwel Ysgythrog. Dywed y Cambrian Biography fod Eglwysi wedi cael eu cyflwyno iddi; ond ni ddywed yn mha le na pha rai oeddynt. Yr oedd yn chwaer i Dunawd yr hwn a fu'n cynadleddu hefog Awstin Fynach. Yr oedd yn ei blodau, yn ol eithaf tyb, yn ystod y rhan flaenaf o'r seithfed cant. Bernir fod Dôl Arddun gerllaw Castell Careinion wedi cael yr enw hwn oddiwrthi.