Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arianrod ferch Don
← Arianrod ferch Beli | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Arianwen → |
ARIANROD, ferch Don, a elwir yn y Trioedd yn un o "Dair Gwenrian Ynys Prydain;" y ddwy eraill oeddynt Gwen ferch Cywryd, a Creiriog ferch Ceridwen. Fel ei brodyr, Gilfaethwy a Gwydion ab Don, sonir llawer am dani yn y rhamantau ffugiol Cymreig, yn enwedig yn Mabinogi Math ab Mathonwy; gwel Guest's Mabinogion, a Cymru Fu, tu dal. 157. Caer arianrod, yn ol y Dr. W. O. Pughe, oedd yr hen enw Cymreig ar y twr sér a adwaenir gan ddysgedigion wrth yr enw Corona Borealis. Y mae Davies yn Mythology of the Druids yn eglur ddangos mai Arianod oedd yn cynrychioli yr Enfys yn hen gyfundrefn ser—dduwiaeth ein hynafiaid.