Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870/Arthfael Hen
← Arthen | Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru 1870 gan Isaac Foulkes |
Arthur → |
ARTHEN ydoedd bedwerydd mab Brychan Brycheiniog, a dywedir yn Llawysgrif Thomas Truman fod unwaith Eglwys wedi cael ei chyflwyno iddo yn Ngwaenllwg, Mynwy, ac i'r unrhyw gael ei dinystrio gan y Saeson Paganaidd. Dywed yr un cofnodydd yn mhellach i Arthen gael ei ferthyru gan yr unrhyw giwaid yn Ngheredigion, ac mai yn Rhiwarthen gerllaw Aberystwyth y cymerth hyny le. Eraill a soniant iddo gael ei gladdu yn Ynys Manaw, cnd teifl y Cadeirdraw Rees awgrym cyfeiriadol at Ynys Fôn, ac y mae yno hyd y dydd hwn le a elwir Trefarthen, ar fin Afon Menai. Eraill a haerant mai yn Merthyr Cyflefyr y merthyrwyd ef: a bod y lle hwnw yn Ngheredigion. Mae lle o'r enw Cefnarthen yn agos i Lanymddyfri.