Golwg ar ei Gariad
gan Gutun Owain
- Y ddyn â'r santaidd anwyd,
- o Dduw! hudolesaidd wyd.
- Mae gennyd, tau ysbryd da,
- oes, iaith y gŵr o Sithia.
- Delw ddoeth hudolaidd iawn,
- dillynes a dwyll uniawn.
- Dy ddrem gellweirgar arab
- loywddu fwyn a laddai fab.
- Mi a nodais amneidiau
- a wnaud im, ai un ai dau:
- nodi golwg anwadal,
- nodi twyll amneidiau tâl.
- Darllain yr ael fain, f'annwyl,
- a'i selu gaf Sul a gŵyl;
- euraid ysgrifen arab,
- awgrym merch i garu mab.
- Dy weled yn dywedyd
- ydd wyf fi fal y ddau fud.
- Ni wŵl annoeth eleni
- synhwyrau'n amneidiau ni.
- Dywed air mwyn â'th wyneb
- o'th galon im, ni'th glyw neb.
- Ti a wyddost, wyt addwyn,
- ddywedyd ar y mynud mwyn;
- ef a ŵyr y galon fau
- dy feddwl ar dy foddau.
- Llygaid a ddywaid i ddoeth
- synnwyr lle nis cais annoeth -
- lleddfon dröedyddion drych,
- lladron a fyn lle i edrych.
- Myfi a ŵyr ysbïo
- ar y drem bob cyfryw dro.
- Edrych arnad, cyd gwadaf,
- dan gêl yng ngŵydd dyn a gaf:
- un edrychiad pechadur
- ar nef cyn goddef ei gur;
- golwg Dafydd ap Gwilym
- o gwr ael ar Ddyddgu rym;
- golwg mab ar ddirgeloed,
- golwg gwalch ar geiliog coed;
- golwg lleidr dan ei 'neidrwydd
- ar dlysau siopau yw'r swydd;
- golwg hygar garcharor
- ar ddydd drwy gysylltau'r ddôr.
- 'Y nyn, er na chawn ennyd
- un gair o 'mddiddan i gyd,
- ni a gawn drwy flaenau gwŷdd
- roi golwg ar ei gilydd.
- Mynud a ddywaid mwynair
- heb wybod rhag athrod gair.
- Oes dyn islaw yr awyr,
- (nac oes!) onid mi, a'i gŵyr?
- Un ddichell ac un gellwair
- ydym 'i, myn Duw a Mair,
- un awenydd, un weniaith,
- un fwynder ar ofer iaith.
- Un a Thri ein gweddiau
- yn un dyn a'n gwnêl ni'n dau!