Gorffen Crwydro
GORFFEN CRWYDRO
- CERAIST ti grwydro gwledydd pellennig,
- Y gwledydd sy mhell tros y don;
- Weithiau dychwelit i'th gartre mynyddig
- A'th galon yn ysgafn a llon.
- Gwelsom di ennyd cyn dychwel ohonot
- I'r rhyfel sy'n crynu y byd;
- Nodau y gwlatgar a'r beiddgar oedd ynot,
- Y nodau sy'n costio mor ddrud.
- Fe chwyth y corwynt tros fryniau Trawsfynydd
- O'th ôl fel yn athrïst ei gainc
- Tithau yng nghwmni'r fataliwn ddi-hysbydd
- Sy'n cysgu'n ddi-freuddwyd yn Ffrainc.