Gorhoffedd (Gwalchmai ap Meilyr)
- Moch dwyreawc huan, haf dyfestin,
- maws llafar adar, mygar hear hin;
- mi ytwyf eur ddetyf, diofyn yn rin,
- mi ytwyf llew, rac llu lluch vyg gortin.
- Gorwylyeis nos yn achadw fin,
- gorloes rydyeu dyfreu dyfyr dygen ureitin,
- gorlas gwellt didrif, dwyfyr neud yessin,
- gwylein yn gware ar wely lliant,
- lleithyryon en plauwr, pleidyei etrin.
- Pellynnic vyg khof yg kynteuin,
- yn ethrip caru Kaerwys vebin.
- Pell o Uon uein yduyti, dwythwal werin,
- essmwyth yssyt ynn asserw gyfrin.
- Yt endeweis eneu yn echyssur gwir
- ar lleueryt lles Ywein, hael hual dilin:
- dychysgogan Lloegyr rac uy llain.
- Llachar uyg cleteu, lluch yt adrwy glew,
- llewychedig eur ar uyg kylchwy;
- kyn uu westlawc dyuyr, dyt neud gawy,
- cathyl oar adar awdyl ossymwy.
- Goruynnhic uym pwyll ym pell amgant hetiw
- wrth athreityaw tir tu Efyrnwy.
- Gorwyn blaen auall blodeu uagwy,
- balch acen coed, bryd pawb parth yd garwy.
- Caraf Gaerwys vun venediw deithi,
- cas gennyf genthi y gynhelwy.
- Genilles am llif, ked am llatwy; ar eir
- y muner nyd mawr ymi vy gofwy.
- Gwynn y uyd padiw Duw ragwy
- rieinged rwych wyry wared lywy.
- Llachar vyg cletyf, lluch y annwyd yg cad;
- llewychedig eur ar uy ysgwyd.
- Lliaws am golwch nym gwelsant yr moed;
- o rianet Gwent gwylld ym krybwylleid.
- Gweleis rac Ywein Eigyl eu hatoed
- ac o du Ribyll rebyt yg greid.
- Gwalchmei ym gelwir, gelyn y Saesson,
- ar lef gwledic Mon gweint yn plymmwyd.
- Ac yr bot llywy lliw eiry ar goed,
- pan vu aer rac caer kyuoryeis waed.
- Gwaedreit uyg cletyf a godrut yg cad;
- yg kyuranc a Lloegyr llawr nyd ymgut.
- Gweleis o aruod aeruab Gruffut
- riallyoet trwch, tebed ossut;
- gweith Aber Teiui, terrwyngad Ywein,
- gwynnderyn Prydein, priodawr ut,
- gorisymet glyw oe glywed yno,
- rac gorwyr Yago gwyar drablut.
- Gwalchmei ym gelwir, gal Edwin ac Eigyl,
- ac y gynnhwryf llu hud wyf llofrut.
- Ac ysymy dystyon am testun ganthut
- o essillyt Kynan koelig dadhanut;
- ac yr bot am denneirch o du balchure Ureityn
- nyd athechaf drin drwy ym gythrut.
- Carafy eos Uei uoerhun lut
- a golygon hwyr hirwyn y grut.
- Caraf eilon mygyr meith arnadut,
- eilywed asserw a seirch kystus…
- Lluch uyg cletyf, uyg keinyaw ny llwyt;
- ny llutyaf ym llaw llat, nys gweyr.
- Gweleis angert ri rac kreic Gwytyr,
- pan amwyth ut Mon, maws oe dymyr.
- Gweleis yn Rutlan ruthyr flam rac Ywein
- a chalanet rein a rut uehyr.
- Gweleis yn ymo yn amrygur,
- tewi gannyw a wyr o anystyr;
- torred Caer Vyrtin yg gwrtrin gwyr,
- gortyar y dreis Emreis erye.
- Dychludet teyrnet teyrnged itaw,
- gweldic Aberfraw a gwald Ynyr.
- Endeweisy eaws am rhyiraeth yr gwyl,
- gweilgig porfor, pwyllad uyuyr;
- pell nead hunawc gwenn, gogwn pa hyr.
- Pan deurictrawd blawd blaen euellgyr
- bod ewynawc tonn tu Porth Wygyr.
- Bid sswyssawc serchawc bannawc breuyr;
- breutwydyaw yr bun balchliw aryen dos
- ys odidawc nos, neu ym hepkyr…
- Dymhunis tonn wyrt wrth Aberfraw,
- dychyrch tir termud, dychlut anaw,
- diessic yd gan ednan arnaw.
- Argoed nwy asswe asserw yndaw,
- eil wytle didrif, didwryf gyuyaw,
- adawd ym gwrthawd gwrthred hotyaw.
- Angertawl vy march ymaes Caeaw
- ar lles ner Kynan kynwetyawn faw,
- arglodic Gwendyd gwynn assy met pawb,
- Prydein allwedawr, oll yn eityaw.
- Endeweisy eryr ar y ginyaw dyuyn,
- dyreith Gwynet gwyar itaw.
- Pan amwyth Ywein eur a threui Dinbych,
- dyt yn ystrad aessawr dreulyaw,
- dybrysseis ynneu yn aroloet y Eigyl.
- Dyurydet yn Lloegyr rac llywbyr vy llaw,
- derllytid uyn detyfuyn dewissaw
- yg Gadellig uro Dyssiliaw.
- Dymhunis tonn wyrt wrth Aber Deu,
- dchyrch glan glafwyn glwys yfrydeu,
- diessic yd gan ednan eneu;
- adawd yn gwrthrawd gwrthred gereu.
- Adwen gwellt didrif pan dyf dieu,
- adwen balch caen coed cadyr y ulodeu,
- adwen yueisy vet ae venestri o sur
- yn llys Ywein hir hywr didideu.
- Dym gwallouyed y win oe wenn adaf ut,
- yn Arounic caer ger Hiryell beu.
- Derllessid ym llaw llad ym goteu
- yg gweith Maes Carnet can ureyreu.
- Dy hepkyr alaf elyf donyeu,
- dychlud clod Brydein bedrydaneu,
- dygwystlir itaw o Din Alclut goglet,
- Dreic yw yn dyhet, drawen yn deheu.
- Aduwyn kynteuin kein hindyt,
- araf erif haf hyfryd dedwyt;
- aduwyn dydaw dyuyr, dychwart gwyrt wrth echwyt
- Oguanw a Chegin a Chlawedawc drydyt.
- Dymhunis tonn mor ymerweryt,
- o Aber Menai mynych dyllyt;
- dy goglat gwenyc gwynn Gygreawdyr Vynyt,
- morua rianet Maelgwn nebyt.
- Neu dreitysy tra Lliw Lleudinyawn dreuyt,
- neu dremurth eurawc caer Arferyt.
- Ac wrtyf kyuerchyt o dernet Pyrdein
- Pa vronn heilin haelaf y ssyt,
- A minheu ym kyhut heb gewilyt
- Ef ytoet Ywein hir hywystyl bedyt.
- Ac amdawd o wun nenwawl defnyt
- a dyfnwys a mi meith gerennyt,
- ac ymdaerawd y dreul o dra newyt,
- ac amrant hirwrwm a grut hirwlyt;
- ac yn llys afneued ym eitunir,
- hynoeth oeth dybytaf o dybwyf ryf;
- ac os Duw o Nef neu ym kynnyt,
- keinoud gan lywy ymy lawr ym hunyt.