Gorhoffedd (Hywel ab Owain Gwynedd)
- Tonn wennorewyn a oelwych bet,
- gwytua Ruuawn Bebyr, ben teyrnet.
- Caraf trachas Lloegyr, lleudir goglet hediw,
- ac yn amgant y Lliw lliwas callet.
- Caraf am rotes rybuched met,
- myn y dyhaet my meith gwyrysset.
- Carafy theilu ae thew anhet yndi
- ac wrth uot y ri rwyfaw dyhet.
- Carafy morua ae mynytet
- ae chaer ger y choed ae chein diret
- a dolyt y dwfyr aw dyfrynnet
- ae gwylein gwynnyon ae gwymp wraget.
- Carafy milwyr ae aeirch hywet
- ae chaoed ae chedyrn ae chyuannet.
- Carafy meyssyt ae man ueillyon arnaw,
- myn yd gauas faw fyryf oruolet.
- Carafy brooet berint hywert
- ae difeith mawrueith ae marannet.
- Wy a un mab Duw, mawr a ryuet,
- mor yw eilon mygyr meint y reuet.
- Gwneithum a gwth gweith ardderchet
- y rwg glyw Powys a glwys Wynet;
- ac yar welw gann, gynnif rysset,
- gorpwyf ellygdawd o alltudet.
- Ny dalyaf diheu yny del ympleit,
- breutwyd ae dywied a Duw ae met.
- Tonn wenn orewyn a orlwych bet.
- Tonn wenn orewyn, wychyr wrth dreuyt,
- gyfliw ac aryen awr yd gynnyt.
- Carafy morua y Meiryonnyt,
- men ym bu ureich wenn yn abennyt.
- Carafy eaws ar wyryaws wyr
- yg kymer deu dyfyr, dyffrynt iolyt.
- Arglwyt nef a llawr, gwar Gwyndodyt,
- mor bell o Geri Gaer Lliwelyt.
- Esgnneis ar uelyn o Uaelyenyt
- hyd ynhir Reged rwg nos ymy a dyt.
- Gorpwyfy kyn bwyf bet butei newyt,
- tir Tegygyl, teccaf yn y eluyt.
- Ked bwyfy karyadawc kerted Ouyt
- gobwylle uy Nuwy uy nihenyt.
- Tonn wenn orewyn, wychyr wrth dreuyt,
- Kyurchaf yr dewin Gwertheuin,
- gwerthuawr wrth y uod yn urenhin.
- Kyssylltu canu kysseiun,
- kert uolyant ual y cant Mertin;
- yr gwraget ae met uy martrin,
- mor hir hwyr wetawc ynt am rin.
- Pennhaf oll yny gollewin
- O byrth Kaer hyd Borth Ysgewin.
- Un ywr vun a uyt kysseuin uolyant
- Gwenlliant lliw hafin;
- eil ywr llall or pall pell uy min
- y wrthi y am orthorch eurin.
- Gweiruyl dec uy rec uy ny geueis,
- ny gauas neb om llin;
- yr uy llat y a llaffneu deuuin
- rym gwalaethy gwreic brawduaeth brenhin.
- A Glladus wetus, wyl uebin uab wreic,
- gouyneic y gwerin,
- Achenaf ucheneid gyfrin.
- Mi ae mawl a melyn eithin.
- Moch gwelwyf am nwyf yn etein y wrthaw
- ac ym llaw uy llain;
- Lleucu glaer uy chwaer yn chwerthin,
- ac ny chwart y gwr hi rac gortin.
- Gortin mawr am dawr am daerawd
- a hiraeth y ssywaeth y ssy nawd
- am Nest dec, debic afallulawd,
- am berw eur, beruet uymhechawd.
- Am Enerys wyry ny warawd ym hoen;
- ny orpo hi diweirdawd;
- am Hunyt ddefnyt hyd dytbrawd,
- am Hawis uy newis deuawd.
- Keueisy vun dunn diwyrnawd;
- keueisy dwy, handid mwy eu molawd;
- keueisy deir a pheddir a phawd;
- keueisy bymp o rei gwymp eu gwyngnawd;
- keueisy chwech heb odech pechawd;
- gwen glaer uch gwengaer yt ym daerhawd;
- keueisy sseith ac ef gweith gordygnawd;
- keueisy wyth yn hal pwyth peth or wawd yr geint;
- ys da deint rac tauaed.