Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Rhagair

Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Cynnwys


RHAGAIR

DICHON mai Goronwy Owen oedd bardd gorau ei ddydd ym Mhrydain.

Yn 1723 y'i ganwyd ef, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Ynys Môn, ac am ran gyntaf ei oes helbulus drifftio tua Llundain y bu. Canys yno yr oedd calon y byd yn curo; yno yr oedd y cewri llenyddol—Pope, Dryden, Addison, John Dennis ac Ambrose Phllips. Yno hefyd yr oedd Richard Morris (un o Forrisiaid Môn) a Chymdeithas y Cymmrodorion. Nid prifddinas Lloegr oedd Llundain, ond prifddinas pedair gwlad.

Felly, ar ôl ei daflu o guradiaeth Llanfair Mathafarn Eithaf (oherwydd dymuno o Esgob Bangor ei rhoddi i ryw young clergyman of very great fortune), ac ar ôl iddo fod yn gurad yng Nghroesoswallt, lle y priododd; yn Uppington, ger Amwythig, lle y cyfansoddodd gywydd "Y Farn Fawr"; ac yn Walton, Lerpwl, lle y cyfansoddodd " Y Maen Gwerthfawr"; fe'i gwelwn ef tua 1755 yn gurad Northolt, gerllaw Llundain, a'i gariad at Fôn, oedd gynt mor angerddol, wedi oeri (gwell ganddo, meddai, na mynd yn ôl i Fôn fyddai byw ymysg" cythreuliaid Ceredigion, gyda Llywelyn [Morris] ").

Er bod rhyddiaith Goronwy Owen, yn ei lythyrau, ymhlith rhyddiaith orau'r Gymraeg (ac yn nhraddodiad Elis Wynne), fel bardd y mae'n enwog. Yr oedd wedi ei drwytho yn nhraddodiad llenyddol Cymru, a thra fu ef byw ym Mhrydain ni pheidiodd ag erfyn ar ei gyfeillion am lyfrau a gramadegau Cymraeg.

Yr oedd wedi ei drwytho hefyd yn y clasuron Groeg a Lladin. Gwelir ôl ei ddiwylliant clasurol yn ei ddewis o bynciau.

O wŷr ei oes, ymddengys mai Dennis a ddylanwadodd fwyaf arno. Un o osodiadau mawr Dennis oedd mai "yr un ydoedd amcan gwir grefydd a barddoniaeth." Yr oedd Goronwy yn fardd ac yn ofFeiriad, a diau y teimlai nad oedd neb cymhwysach nag ef i ddehongli i'w gydwladwyr yng Nghymru syniadau a thueddiadau'r oes. Dywed Mr. Saunders Lewis y rhedai meddwl y genhedlaeth honno at Ddydd y Farn; cyfansoddodd Goronwy, yntau, gywydd "Y Farn Fawr."

Efallai mai'r "Maen Gwerthfawr" ydyw cywydd gorau Goronwy Owen. Yr ymchwil am ddedwyddyd—ymchwil anochel dynol-ryw a gwir bwnc pob Ilenyddiaeth—ydyw ei thestun, a phrin y ceir ei hefelydd o ran yr angerdd, y gwibio o le i le, a bywyd y darlun sydd ynddi.

Y mae "Y Gwahodd" ac "Unig Ferch y Bardd" yn nodedig iawn am y mwynder a'r tynerwch sydd ynddynt, ac am berffeithrwydd eu ffurf; a'r cywydd "Hiraeth" am ei angerdd.

Bu rhaid i Oronwy ymadael â Llundain yn 1757; hwyliodd am America, i gymryd swydd mewn coleg yn Williamsburgh, Virginia. Canodd yn iach am byth i wlad ei eni, ac ymddengys iddo— feistr mawr barddoniaeth Gymraeg—ganu'n iach i'w awen hefyd, a throi ei gefn ar ei iaith. Daeth ei oes drallodus i ben yn 1769, yn New Brunswick—"alltud blin mewn anghynefin ddinas"—a chladdwyd ei weddillion ar lechwedd ymhlith y fforestydd yno.

Ond ymhell cyn ei farw ef yr oedd dawn a dull pennill a chân y werin a'r dafarn—y ddawn a'r dull a gasâi Goronwy â chas perfFaith—wedi eu troi yn gerbydau "clir anfarwol fflam" Williams Pantycelyn, a'r drws wedi ei agor ar wlad newydd barddoniaeth rydd Gymraeg.

—————————————

LLYFRAU AC ERTHYGLAU.

Llythyrau'r Morrisiaid: J. H. Davies.

Barddoniaeth a Llythyrau Goronwy Owen. (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1895).

A School of Welsh Augustans: Saunders Lewis. (Hughes a'i Fab, 1924).

Cywyddau Goronwy Owen: W. J. Gruffydd. (Southall, 1907).

Erthygl y Parch. Dr. Hartwell Jones yn Y Ford Gron, Ebrill, 1931.

Erthyglau Mr. T. Shankland yn Y Beirniad, 1914—16.