Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Y Farn Fawr

Unig Ferch Y Bardd Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Hiraeth


Y Farn Fawr.

DOD im dy nawdd, a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau f'armerth, o'm nerthyd,
Yw DYDD BARN a diwedd byd:
Dyddwaith, paham na'n diddawr?
Galwad i'r ymweliad mawr!

Mab Mair a gair yn gwiriaw
Y dydd, ebrwydded y daw,
A'i Saint cytûn yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw'n agoriad in,
Gair Duw, a gorau dewin;
Pand gwirair y gair a gaf,
Iach rad, a pham na chredaf?
Y dydd, diogel y daw,
Boed addas y byd iddaw;

Diwrnod anwybod i ni,
A glanaf lu goleuni:
Nid oes, f'Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid ef a'i Dad.
Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron dison y daw.
Gwae'r diofal ysmala!
Gwynfyd i'r diwyd a'r da!
Daw angylion, lwysion lu,
Llyrn naws, â lluman Iesu.
Llen o'r ffurfafen a fydd,
Mal cynfas, mil a'i cenfydd,
Ac ar y llen wybrennog,
E rydd Grist arwydd ei grog.

Yno'r Glyw, Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg nef!
Dyrcha'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd y gwynt;
A'i angylion gwynion gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr nerthol, a dolef,
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch llif moryd,
Uwch dyfroedd aberoedd byd.

Gosteg a roir, ac Ust! draw,
Dwrf rhaeadr, darfu rhuaw;
Angel a gân, hoywlan lef,
Felyslais, nefawl oslef;
Wrth ei fant, groywber gantawr,
Gesyd ei gorn, mmgorn mawr,
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn ffraeth o saerníaeth nef.


Dychleim, o nerth ei gerth gân,
Byd refedd, a'i bedryfan;
Pob cnawd, o'i heng, a drenga,
Y byd yn ddybryd ydd â;
Gloes oerddu'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!
Pob creiglethr crog a ogwymp,
Pob gallt a gorallt a gwymp:
Ail i'r âr ael Eryri,
Cyfartal hoewal â hi.

Gorddyar, bâr, a berw-ias
Yn ebyr, ym myr, ym mas.
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu fôr fwy—
Ni fu ddyhf yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.

Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan lewyg gwyn haul awyr;
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poelíoes cryf pan las Crist.

Y wenlloer, yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych:
Syrth nifer y sêr, arw sôn!
Drwy'r wagwybr, draw i'r eigion;
Hyll ffyrnbyrth holl uffernbwll,
Syrthiant drwy'r pant draw i'r pwll;
Bydd hadl y wal ddiadlam
Y rhawg, a chwyddawg a cham;
Cryn y gethern uffernawl,

A chryn, a dychryn y diawl;
Cydfydd y Fall a'i gallawr,
Câr lechu'n y fagddu fawr.

Dy fyn a enfyn Dofydd,
Bloedd erchyll rhingyll a'i rhydd:
Dowch, y pydron ddynionach,
Ynghyd, feirw y byd, fawr a bach
Dowch i'r farn a roir arnoch,
A dedwydd beunydd y boch."

Cyfyd fal ŷd o fol âr,
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don.
Try allan ddynion tri-llu —
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un onaddun yn ôl.
Y dorf ar gyrch, dirfawr gad!
A'n union gar bron Ynad.
Mab Mair ar gadair a gaid,
Iawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd, welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw i'w ddwy law ddau lyfr—
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir llith
O'r ddeulyfr, amryw ddwylith,
Un llith o fendith i fad,
I'r diles air deoliad.


Duw gwyn i le da y gyr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog bradog eu bron,
Braw tostaf; ba raid tystion?
Da na hedd Duw ni haeddant,
Dilon yrr, delwi a wnant.

Y cyflon a dry Iôn draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dyhir, hyrddir hwy
I le is ei law aswy:
Ysgwyd y nef tra llefair
Iesu fad, a saif ei air:
"Hwt, gwydlawn felltigeidlu
I ufFern ddofn a'i fFwrn ddu,
Lle ddiawL a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen, a phoen na phaid;
Ni chewch ddiben o'ch penyd,
Diffaith a fu'ch gwaith i gyd;
Ewch (ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg), o lân olwg nef,
At wyllon y tywyllwg,
I oddef fyth i ddu fwg."

O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da'n ehelaeth a wnaethant,
Dieuog wŷr, da a gânt.
Llefair yn wâr y câr cu,
(Gwâr naws, y gwir Oen Iesu)—
"Dowch i hedd, a da'ch haddef,
Ddilysiant anwylblant Nef,

Lle mae nefol orfoledd,
Na ddirnad ond mad a'i medd:
Man hyfryd yw mewn hoywfraint,
Ac amlder y sêr o saint,
Llu dien yn llawenu,
Hefelydd ni fydd, ni fu:
O'm traserch, darfûm trosoch
Ddwyn clwyf fel lle bwyf y boch,
Mewn ffawd didor, a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen."


Gan y diafl ydd â'r aflan,
A dieifl a'u teifl yn y tân.

Try'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gad gain â gydag ef,
I ganu mawl didawl da,
(Oes hoenus), a Hosanna.
Boed im gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl Iesu!
Crist fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen! — a nef i minnau.

Uppington (1752?)