Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth/Y Gofuned

Y Gwahodd Goronwy Owen - Detholiad o'i Farddoniaeth

gan Goronwy Owen

Unig Ferch Y Bardd


Y Gofuned

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,'
Dyma archiad im a erchwn,
Un rodd orwag ni ryddiriwn—o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorff anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes heb ry nac eisiau,
Ym Môn araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymhedrol, plwyf da 'i reolau,
Tŷ is goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res, a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin rywiog olau.

Gardd i minnau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion,
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.


Ac uwch fy mhen, ymysg canghennau,
Bêr baradwysaidd Iwysaidd leisiau
Ednaint meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar, lafar lefau.

Af thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cytgais â'r côr meinllais manllu — fy nghân
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.

Minnau, a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robin,
Gan dant Goronwy gywreinwyn,—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.

Deued i Sais yr hyn a geisio;
Dwfr hoff redwyllt, ofer a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso),—o chaf
Fôn im'; yn bennaf henwaf honno.

Ni wnaf f'arwyrain yn fawreiriog,
Gan goffâu tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud, myr, mynydd, dolydd deiliog,—trysor
Yr India dramor, oror eurog.

Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
Paris i'r Ffrancon, dirion dyrau;
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—sôn
Am wychder dynion; Môn i minnau.

Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.

1752.