Griffith Ellis Bootle, Cymru Cyf 23, 1902
← | Griffith Ellis Bootle, Cymru Cyf 23, 1902 gan Owen Morgan Edwards |
→ |
Y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle.
(Erthygl o Cymru Cyfrol 23, 1902 tud 164 i 166 Cylchgronau Cymru—Llyfrgell Genedlaethol Cymru[1])
UN o feibion glân Meirionnydd ydyw y Parch. Griffith Ellis, M.A. Fe'i ganwyd yn Aberllefeni, ym mhlwyf Tal y Llyn. Ei rieni oedd Griffith a Marged Ellis. Teulu hynod oeddynt o ran eu duwioldeb. Barn eu hardalwyr am danynt oedd mai Israeliaid didwyll oeddynt. Yr oedd Marged Ellis, yn ôl pob tystiolaeth, yn debyg iawn i Mary Lewis y sonnir am dani yn "Rhys Lewis." Fe anwyd dau o feibion i Grinith a Marged Ellis, ond bu farw y cyntaf-anedig pan yn ddwy flwydd a hanner oed. Ar ôl ei farwolaeth ef y ganwyd Griffith Ellis. Erbyn hyn efe oedd yr unig blentyn, a hawdd yw credu ddarfod i farwolaeth y cyntaf beri i'w rieni ddyblu eu hanwyldeb at yr ail. Felly y bu, yr oedd fel cannwyll eu llygaid. Estynasant iddo bob mantais oedd yn ddichonadwy iddynt hwy wneyd y pryd hynny. Yr oedd y ddau wedi dymuno, yn wir wedi penderfynu hyd eithaf eu gallu, dwyn y mab i fyny yn ofn yr Arglwydd, ac os yn bosibl yn weinidog yr efengyl. Cawsant eu dymuniad yn y naill a'r llall.
Yr ysgol ddyddiol gyntaf yr aeth iddi ydoedd yr un a gynhelid yng nghapel y Methodistiaid yn agos i'w gartref; nid oedd yr un arall i'w chael ar y pryd. Yr oeddynt yn hwylio i adeiladu yr Ysgol Frytanaidd honno rhwng Aberllefeni a Chorris, ac er nad oedd Griffith Ellis ond pump oed, y mae ganddo gof am yr amgylchiad. Yr oedd yn bresennol pan oedd- ŷnt yn gosod ei charreg sylfaen. Byddwn yn dychymygu ei weled yn sefyll ar ei phen, gan ddweyd,¬-‘"Trwy dy osod ti i lawr y dyrchefir fi." Dychymyg yw hyn wrth gwrs; ond daeth yn ffaith serch hynny. Wedi gorffen ei hadeiladu symud- odd Griffith Ellis o ysgol y capel i'r ysgol newydd. Ysgol ydoedd hon a wnaeth les dirfawr yn yr ardaloedd hynny. Yr athrawon y bu Griffith Ellis o danynt foreu ei oes oedd Thomas Nicholas, Thomas Williams, a'r Parch. Ebenezer Jones, Y mae ganddo le mawr yn ei serchiadau i'r oll o honynt.
Yn yr adeg foreuol hon y mae yn colli ei dad. Colled fawr ydoedd hon iddo ef a'i fam. Ond, yn ôl arfer Rhagluniaeth fawr y nef, fe wnaed y golled i fyny. Ond nid heb adael argraff ddofn ar feddwl Griffith bach. Nid oes dadl na ddisgynnodd ar y bachgen fantell yr hen broffwyd, a pharhaodd i'w gwisgo hyd heddyw, a diameu na ddiosga efe mohoni hyd nes y byddo yn cael ei wisgo â Chyfiawnder Crist."
Pan nad oedd eto ond un ar ddeg oed y mae yn gadael yr Ysgol Frytanaidd i fyned i weithio i'r chwarel. Bu yno am naw mlynedd. Ysgol dda iawn fu y chwarel iddo. Nid yn unig fe ddysgodd sut i hollti a thrin y llechi, ond dysgodd beth oedd anghenion y gweithwyr - dyma un o hanfodion gweinidog yr efengyl ac arweiniwr cenedl. Parod iawn ydym i gydnabod mamau Cymru am roddi meib- ion i'n harwain, ond yr ydym ni am roddi cydnabyddiaeth gref i hen chwareli a mwngloddiau Cymru hefyd. Y dynion goreu a fagodd Cymru yw y rhai hynny y daeth eu chwys i gysylltiad â llwch glo a llechi yr hen ddaear. Diolch i Dduw am y rhai hyn yn ogystal ag am famau duwiol Cymru. Yr ydym yn argyhoeddedig ein meddwl parthed ein gwrthrych, na fuase efe inni heddyw yr hyn ydyw oni buasai am naw mlynedd athrofaol yr hen chwarel. Amhosibl, bron, fuasai iddo wneyd cymaint dros addysg Cymru oni buasai iddo sylweddoli gwerth cyfundrefn addysg ei hunan pan yn y chwarel. Tra yno hefyd y daeth yr ysbryd pregethwrol i mewn iddo. Ar ddiwedd tymor addysgawl y chwarel, pan yn bedair ar bymtheg oed, y mae yn dechreu pregethu, a hynny ar gais neillduol yr hen flaenor duwiol Rowland Evans. Dyna y gŵr a gymerodd ei ofal gan ei arwain o flaen yr eglwys i dderbyn ei llais, yr hyn a roddwyd heb un eithriad. Yn 1863 mae ei achos ef ac achos y Parch. John Roberts (Bryniau Khassia yn awr), yn dod o flaen y Cyfarfod Misol. Derbyniwyd y ddau. A dyma ddechreuad y cyfeillgarwch rhwng Griffith Ellis a John Roberts, y rhai oeddynt fel Jonathan a Dafydd gynt. Yn 1865 aeth Mr. Ellis i'r Bala; bu yno am bedair blynedd. Ar ddiwedd ei efrydiaeth yno cawn iddo gael ei benodi yn athraw cynorthwyol, yr hyn ar unwaith oedd yn brawf o'i allu fel dysgawdwr.
Yn 1871 mae yn symud i Brifathrofa Rhydychen, ac nid ychydig o gefnogaeth a roddodd y Dr. Lewis Edwards iddo yn y symudiad hwn. Ymunodd â choleg goreu ac enwocaf Rhydychen, sef Coleg Balliol. Yno daeth i gyffyrddiad â dau o ŵyr hynotaf yr oes, sef Benjamin Jowett, pennaeth y Coleg, a T. H. Green, yr athronydd. Cofiai Jowett am Mr. Ellis, gydag edmygedd a pharch, hyd ddiwedd ei oes. Derbyniodd Mr. Ellis garedigrwydd nid bychan oddiar law Mr. Green hefyd, a bu yntau yn ddisgybl ffyddlon iddo. Haiarn a hoga haiarn, felly gwr wyneb ei gyfaill." Nid oes angen dweyd yn y fan hon i Mr. Ellis ddod allan yn llwyddiannus o'r athrofa hon eto. Cafodd anrhydedd nas gall neb ei dwyn hi oddiarno.
Yn 1873 y daeth i Bootle i gymeryd gofal yr eglwys yn Stanley Road. Yn 1875—a hynny yng Nghymdeithasfa y Bala, yr ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd ei fam yno, yn llygad-dyst o'r amgylchiad—y diwrnod hwnnw y llanwyd phiol ei dymuniadau hyd at yr ymylon, gweled ei hunig fab yn cael ei ordeinio yn weinidog i Iesu Grist. Ac nid peth bychan i galon mam weddw oedd edrych ar y weledigaeth fawr hon, nid rhyfedd fuasai i'w chalon hi lamu o lawenydd. Llawen yn wir ydoedd ei meddwl am yr unig dro iddi fod yn y Bala.
Daeth y gweinidog ieuanc yn fuan iawn yn un o ŵyr mwyaf blaenllaw a defnyddiol ei gyfundeb. Rhwng 1885 a 1887 bu yn ysgrifennydd y Gymanfa. Yn 1900 yr oedd yn Llywydd y Gymanfa, pryd y dangosodd fesur helaeth iawn o ddoethineb, amynedd, a gallu. Efe draddododd y gyntaf o Ddarlithiau Davies yn y Bala, gan gymeryd "Syched am Dduw" yn destun.
Wrth wasanaethu ei enwad a'i genedl, nid yw mewn un modd yn esgeuluso ei eglwys ei hun. Credwn na ddigia yr un o'r chwiorydd eglwysi yn y dref yma am i mi ddweyd fod eglwys Stanley Road mor flaenllaw a'r un, os nad yn fwy blaenllaw, mewn popeth perthynol i eglwys,- yn ei threfnusrwydd, yn ei chasgliadau, yn ei Hysgol Sul, Cyrddau Dirwestol, yr Ym- drech Grefyddol, &c. Am y gwaith cenhadol gall ddweyd yn hawdd, Nid wyf fi yn ôl i eglwysi eraill." Y mae yn ffaith hefyd i'r eglwys hon esgor ar dair o eglwysi eraill, y rhai y sydd heddyw yn anrhydedd i'r Cyfundeb, sef eglwysi Walton Park, Waterloo, a Peel Road, er pan ddaeth Mr. Ellis i Stanley Road.
Dyn prysur iawn ydyw Mr. Ellis os bydd yn y dref, anhawdd iawn ei gael yn y tŷ. Yn y dydd bydd mewn rhyw bwyllgor neu gilydd lawr dre," neu yn ymweled â'r cleifion. Y nos, wel, ddarllennydd—os bydd arnat ti eisieu ei weled—y ffordd oreu iti ydyw ei gwneyd hi tua chapel Stanley Road, ac os gweli di oleu o'i fewn gelli benderfynu mai yno y bydd ef, ac ar ôl i'r moddion ddarfod, yn hytrach nag aros yn yr oerfel—dos i mewn, bydd Mr. Ellis i mewn yn y Cyfarfod Darllen ar ôl y Seiat neu'r Cwrdd Gweddi, neu ynte bydd yn setlo rhyw faterion eraill gyda rhai o'r bobl ieuainc, neu yn dysgu iaith y Testament Newydd iddynt. Os na fydd moddion yn y capel y noson honno, dos i'w dy, hwyrach y cei ef i mewn newydd gyrraedd, ar ol bod mewn rhyw bwyllgôr neillduol; hwyrach mai mynd at ei swpera hwnnw yn hir-bryd iddo. Er heb fwyd ers oriau, fe erys awr yn hwy gyda thi os bydd angen i wrando dy neges. Y mae Mr. Ellis yn llenor campus a diwyd, tystied ei Hanes Bywyd Mr. Gladstone," ei Hanes Victoria," ei "Hanes Methodistiaid Corris ac Aberllefeni," a llu o lyfrau ac erthyglau ereill.
Gweithiwr caled gyda'r achos dirwestol yw Mr. Ellis. Y mae yn llwyrymwrthodwr. Cawn iddo ymuno â'r Gobeithlu pan nad oedd y gymdeithas fendithiol honno ond tair oed. Y mae wedi pregethu, areithio, ac ysgrifennu llawer ar ddirwest. Cofus gennym pan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yma, yn 1881, gwnaed cais gan y tafarnwyr, fel arfer, i gael gwerthu diodydd meddwol o fewn y babell. "Na," ebai Mr. Ellis "ni ddeui di i halogi ein Heisteddfod." Gwnaed cynygiad o £ 25 o wobr gan berchennog chwareudy i Bwyllgor yr Eisteddfod; bu cryn ymdrechfa, ond fe'i gwrthodwyd, a gwn fod Mr. Ellis yn un o'r rhai mwyaf yn erbyn y naill a'r llall o'r anghysonderau hyn.
Nid oes yn Mr. Ellis ddim culni sectol na chenedlaethol. Cydweithia, cyd-bregetha â phawb a wnel ddaioni. "Ein gweinidog mwyaf cynrychioladol ac enwog, ebe'r Free Church Chronicle am dano.
Fel y nodwyd ar y dechreu,—fe anwyd Mr. Ellis yn 1844, felly yr oedd yn hogyn rhwng pymtheg ac un ar bymtheg oed yn Niwygiad 1859 ac 1860, a hawdd iawn rhoddi cyfrif am y llinell uniawn a gerddodd ar hyd y blynyddau pan gofiom am y rhieni duwiol, ac am y derbyn yn helaeth o Ddiwygiad 1859. Mae yn demtasiwn gref inni ddyfynnu rhan o'r llythyr a anfonodd at y Parch. Josiah Thomas, yr hwn a welir yn nechreu Cofiant Dr. Owen Thomas.
Yr oedd wyth neu ddeg o honom ni wedi cychwyn adref o gyfarfod pregethu a gynhaliwyd yn Nolgellau yn 1863, pryd y pregethwyd gan y Parchn. O. Thomas, Saunders, H. Rees, gyda'n gilydd ar ôl yr oedfa. Ac yr oeddym oll yn rhai wedi teimlo yn ddwys oddi wrth Ddiwygiad '59 a '60. Llanwesid ni yn yr oedfa gan ryw ddifrifwch oedd yn ofnadwy. Cychwynasom adref gyda'n gilydd oddiar yr Ystryd Fawr, ond wedi cyrraedd i'r Fron Serth, ychydig allan o'r dref, ymwahanasom oddiwrth ein gilydd, ac aethom adref bob un wrtho ei hun.
Nid oeddym yn gallu dweyd gair y naill wrth y llall, tra y buom gyda'n gilydd, ac yn fuan cerddasom, rhai yn gyflym rhai yn arafach, saith milldir, bob un wrtho ei hun." Er na fuodd Mr. Ellis yn yr un o gyfarfodydd y diwygiad a gynhelid yn Nolgellau, yr oedd un neu ddau eraill o Gorris wedi bod yno. Cyrhaeddodd y diwygiad i Gorris, a buan y daeth y bobl ieuanc i'w deimlo, ac yn eu mysg Mr. Ellis, ac y mae dylanwad y diwygiad hwnnw arno hyd yn awr.
Ni ddylwn anghofio y cymorth a roddir iddo gan ei briod,—merch Mr. John Williams, Moss Bank,—yr hon a briododd yn 1876. Y mae hi yn wir deilwng o'i theulu dylanwadol a hoff o wneyd daioni.
Nodiadau
golyguBu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.