Gwaith Alun/A Pha Le Mae?
← Englyn i Ofyddes | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Eisteddfod y Trallwm → |
"A PHA LE Y MAE." Job xiv. 10.
"PA le y mae! ow gwae! ai gwir?
Nad yn ei dir, o dan y dail
A eiliai gynt drwy helyg îr?—
Nid uwch ei fîr—gan d'wchu ei fail;—
Ni wela wych olygfa'r waen,
Ni swnia'i droed yn nawnsiau'r dref,
Gwych yw'r olygfa fel o'r blaen,
A dawnsia myrdd, ond ple mae ef?
Ei ddiddan Elia ddyddiau'n ol
Dywysai i'r ddol ar hwyrol hynt;
Wrth ochrau'r llyn o'r dyffryn dardd
A gwaelod gardd fe'i gwelwyd gynt;
Is gwê o fill ni wasga'r fun,
(Ei ardd a wnaeth fel gerddi nef
Ag urdd o ros). Mae'r gerddi'r un,
Ac Elia'r un—P le gwelir ef?
Fel nablau'r côr rhoe'i gerddor gân,
O'i deithi glân, nid aeth yn gloff;
Rhaiadrau, llynnau, gwyrthiau gant,
Oddeutu ei nant sydd eto'n hoff
O'i dŷ—mur hwn nid yw mor hardd;
Adwyau geir ar hyd ei gae,
A gwywa'n rhês eginau'r ardd,
Ymhola mill—Y mh'le mae ef?
Mae beddfan newydd yn y Llan,
Yr aelwyd ddengys gadair wag;
Ac wrth y bedd, a'r wedd yn wan
Doluriau serch rhyw ferch a fâg;
A'r ddol, lle bu yn gadu'r gwynt,
Ni wela'i lun, ni chlywa'i lef,
Bonllefau rhai a garai gynt,
Pa le maent hwy? Pa le mae ef?