Gwaith Alun/At ei Rieni
← Telyn Cymru | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Cywydd y Gwahawdd → |
AT EI RIENI
Chwefror, 11fed, 1826.
ANWYL RIENI,
Yn lle esgus dros fod yn ddistaw cyhyd, rhoddaf i chwi hanes byr o'r modd yr ydwyf yn byw. Wrth ymdrechu dyfod i fyny gyda y rhai a gawsant bob mantais ysgolheigaidd ym moreu eu hoes, yr wyf yn gorfod bod yn ddiwyd iawn wrth fy llyfrau. Nid ydyw treiddio i mewn i ieithoedd ond gorchwyl sych a diffrwyth, ac i un yn fy sefyllfa i, o ran gwall cyfleusterau boreuol, y mae yn waith digon caled. Am y tro cyntaf yn fy mywyd, yr wyf yn cael fod "darllen llawer yn flinder i'r cnawd." Nid ydyw caethiwo fy hun i fyfyrdod wedi cael un effaith ddrwg ar fy iechyd eto. Aeth cyfaill i mi, a ddarllenasai lawer llai na mi, adref ddoe wedi ei nychu gan ormod o waith. Y mae fy nghorff yn gadarn wrth natur, ond yr wyf yn gorfod cerdded allan rywfaint bob dydd, er mwyn ei gadw mewn trefn.
Bu holiad cyffredin yn ddiweddar ar holl aelodau ein Coleg ni. Aethum drwyddo yn well nag yr oeddwn i na'm hathrawon yn disgwyl. O hyn i wyl Mihangel nesaf, rhaid imi fyned drwy ffwrn boethach nag a brofais eto,—cael fy holi ar gyhoedd o flaen yr holl Brif-ysgol, am fy ngwybodaeth o'r Lladin a'r Roeg, a Rhesymeg. Rhaid i mi hefyd ddysgu ysgrifeni Lladin mor rhwydd â Chymraeg. Yr wyf yn fynych yn crynu wrth feddwl am y frawdle, yn enwedig wrth weled cynnifer a gawsant eu dwyn i fyny yn yr ysgolion goreu o'u mebyd, yn colli'r dydd. Y mae fy mhwys yn bennaf ar y Rhagluniaeth oruchel a fu mor dyner tuag ataf hyd yn hyn. Y'mhellach, yr wyf yn ystyried mai fy nyledswydd ataf fy hun—at fy nghynalwyr—ac at y plwyfolion a gaf ryw dro, hwyrach, o dan fy ngofal—ydyw lloffa cymaint ag a allaf o wybodaeth am bob dysg a chelfyddyd. Gwelodd y caredig Mr. Clough a Mr. Phillips fy awyddfryd am bob hyfforddiad, a chymerasant fi gyda hwynt i wrando y darlithoedd a draddodir gan ein prif ddysgedigion ar y celfyddydau breiniol. Y diweddaf a glywais oedd yr enwog Ddoctor Buckland, areithydd ar natur y ddaear, ei chreigydd a'i meteloedd. Pan ddeuaf adref gallaf roddi i chwi rai newyddion am weithiau glo a phlwm. Hawdd i chwi weled fod y gofalon a'r gorchwylion hyn yn difa fy holl amser, ac nid hyn yw y cwbl. Wrth aneddu yn Nhrefaldwyn a Rhydychen, ffurfais gydnabyddiaeth â llawer o foneddigion,—rhai o honynt, o ran dysg a dawn, ym mhlith y gwyr enwocaf yn y deyrnas. Nid oes boreu braidd yn myned heibio nad wyf yn derbyn llythyr o ryw gwr neu gilydd i'r wlad. Nid oes gennyf, gyda chwareu teg, amser i ateb un o honynt; ac os bydd un gohebwr y gallaf hyderu ar ei gyfeillgarwch i beidio digio wrthyf, yr wyf yn gadael iddo aros nes elo fy helbul yn yr athrofa heibio. Fy mwriad yn myned dros yr holl bethau hyn ydyw, i ddangos i chwi a'm hanwyl gyfeillion, Mr. Thomas Jones ac Isaac, yr unig achos na ysgrifenais atoch oll lawer cyn hyn. Os gwelwch ddim yn yr hyn a ddywedais, yn mynegi yr anrhydedd anisgwyliadwy a ddaeth i'm rhan, gwybyddwch mai nid er mwyn cynhyrfu ymffrost ynoch yr adroddais ef; ond yn hytrach er eich annog i uno gyda mi mewn diolchgarwch i'r Duw a fu mor dirion wrthyf. Bydd yn dda genych glywed fy mod i ac oddeutu hanner dwsin o'm cyd-ysgolheigion wedi llwyddo i gael Cymdeithas Genadawl fechan yn ein hathrofa. Yr ydym hefyd yn ymgyfarfod yn ystafelloedd ein gilydd, yn olynol, ar nosau Sul, i ddarllen y Bibl a gweddio. Nos Sul diweddaf yr oeddynt oll yn fy ystafell i: a phan byddo dadwrdd cyfeddach yn taro ar ein clustiau o ystafelloedd eraill, gallwn ddweyd, "Rhoddaist fwy llawenydd yn ein calon nag yr amser yr amlhaodd eu bŷd a'u gwin hwynt."
Hyfryd iawn oedd genyf glywed am ymwared fy anwyl chwaer. Cofiwch fi ati yn garedig, at fy mrawd, yr holl blant, ac yn enwedig at y ferch ddieithr. Buasai dda genyf allu anfon anrheg iddi hi a'i mam, ond mae hynny yn bresenol o fy nghyrraedd. Gadewch iddo—mae'r galon yn llawn, os yw'r pwrs yn wag. Byddwch gystal a rhoddi y penhillion canlynol iddi yn lle Valentine
Henffych, ferch, i fyd o ofid,
Byd y dagrau, byd y groes
Agoraist lygad ar yr adfyd,
Ti gei flinder os cei oes.
Mae gwlad well tu draw i'r afon,—
Nes cael glan ar oror iach,
Rhag pob drwg, y Duw sy'n Sïon,
Fo'n dy noddi, Marged bach.
Mae'm dychymyg fel yn gwrando
P'un a glywaf mo dy sain,—
Gan holi'r awel sy'n mynd beibio,
A yw'th wyneb fel dy nain?
A oes eurwallt ar dy goryn?
A oes rhosyn ar dy rudd?
A pha dybiau sydd yn dirwyn
Drwy'th freuddwydion nos a dydd?
Pe bawn yna, anwyl faban,
Mi'th gofleidiwn gyda serch;
Ceit fy mendith am dy gusan,
Mi'th gyfrifwn fel fy merch
Ac os try Rhaglumaeth olwyn
Fyth i'm dwyn i dir fy ngwlad,
Ti gei weled y gall rhywun
Garu ei nithoedd megis tad.
Yr wyf yn gyrru — i Ruth: mae yn rhy fychan, ond y gwir yw hyn,—hyd wyl Mihangel nesaf byddaf yn llwm iawn o arian; wedi hynny, caf dderbyn swm ychwanegol yn y flwyddyn. Yna mi ofalaf am dalu eich rhent, eich tir pytatws, a phesgi'r mochyn. Rhoddwch ddillad da am Ruth . . . Unwaith eto, yr wyf yn eich tynghedu, na oddefwch eisiau dim. Gyda bendith, nid oes perygl na allaf ei dalu yn ol ar ei ganfed. Pa beth ydyw gwaith fy nhad? A ydyw'n esmwyth? Cofiwch fi yn garedig at deulu Broncoed, a rhoddwch fy serch at fy hen gyfeillion oll . . . Mae amser a phapur wedi pallu, y gloch yn taro pedwar yn y borau—a'r ganwyll yn llosgi i'r ganwyllbren—ni chaf ond dywedyd fy mod yn aros,
J. BLACKWELL