Gwaith Alun/Beddargraff
← Caroline | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Bugeilgerdd → |
CYFIEITHIAD O FEDD-ARGRAFF Seisnig
Ty llong gadd lan, lle'r oedd fy nghais,—
O'r tonnau treiddiais trwy;
Er dryllio'm hwyl gan lawer gwynt,
Na chlywir monynt mwy.
O gernau'r 'storm ces ddod yn rhydd,
Daeth angau'n llywydd llon,
A pharodd im' mewn gobaith glân,
Angori'n 'r hafan hon.