Gwaith Alun/Bywyd yn Aberiw

Maes Garmon Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Ifor Ceri


ABERIW
AT MR. E. PARRY

Berriew, Chwef. 10, 1824.

ANWYL GYFAILL,

Mae ymdeithydd yn myned heibio i Lerpwl, a rhesymol i mi achub y cyfleustra i ysgrifenu at un a brofodd ei gyfeiligarwch drwy amryfal dirionderau. Chwi a welwch wrth ddyddiad y llythyr fy mod yn mhell o fangre fy mam. Daethum yma y 30ain o'r mis diweddaf, a chefais Mr. Richards a'r holl deulu yn foneddigaidd, tirion, a charedig. Mae yma dri o wyr ieuainc yn cael eu parotoi i'r Brif Ysgol,—ni welais dri erioed mor wahanol eu hansawdd a'u tymherau i'w gilydd; ond trefnodd y Rhagluniaeth y cefais fy mwrw arni o'r bru, a'r hon a drefnodd fy ngherddediad hyd yma, iddynt fy nerbyn gyfeillgarwch agos yr wythnos gyntaf o'm hainfodiad yn eu plith. Fel hyn, y mae'r coelbren wedi syrthio i mi mewn lle hyfryd o ran teulu i gyfaneddu yn eu plith, ac am gyfeillgarwch sydd fel olew i olwynion fy natur, gallaf ddywedyd "dyma etifeddiaeth deg." Pe byddai lle yn y byd a barai i mi anghofio yr aelwyd y dysgais ymgropian hyd-ddi gyntaf—y llanerchau a fuont olygfeydd fy chwareuyddiaethau plentynaidd,—neu i laesu fy hiraeth am gyfeillion lliosog a hawddgar,—ac yn bennaf oll am fy nhirionaf dad a mam, dyma'r fan debycaf oll. Ond nid hawdd datod rhwymau a gydiwyd gan serch, ac a gysegrwyd gan ffyddlondeb. Felly rhaid addef yr hyn y byddai yn ffolineb ei wadu—fod fy meddwl yn ehedfan yn fynych ar adenydd dychymyg o lannau Hafren i ochrau Alun, Clwyd, Dyfrdwy, a Mersey, lle y profais gyfeillgarwch oedd yn fêl i'm genau ac yn iechyd i'm hesgyrn. Os gwelwch chwi neb o'r hen fechgyn a ymffrostiant fod eu henwau y'nghoflyfr Gwalia,—dywedwch fy mod yn cofio atynt ac yn dymuno yn dda iddynt.

Am danaf fi, er yn rhy isel mewn sefyllfa i allu gorchymyn, ac yn rhy wael mewn dawn i allu teilyngu sylw, eto fy ymdrech pennaf hyd angeu (ni'm cyhuddir o ymffrost wrth wnenthur y broffes) fy ymdrech, yn nesaf i foddloni fy Nghreawdwr, a meithrin cydwybod dawel, a fydd trefnu fy ngherddediad fel na wnelo fy ngwlad wrido o'm harddel.

Nodiadau

golygu