Gwaith Alun/Dau Englyn Priodas

Cymdeithas Caer Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Genedigaeth Iorwerth II


DAU ENGLYN

Ar Briodas Mr. P. Williams â Miss Whitley, Broncoed.

 an Naf eiddunaf i'r ddau—bob undeb,
A bendith, a grasau,
I fyw'n hir, ac i fwynhau
Dedwyddwch hyd eu dyddiau.

Eirchion y gwaelion heb gelu,—pur rad
Parhaus fo'n defnynnu
Pob urddawl ollawl allu
Iddyn' ddel—medd Ioan Ddu.
Tach., 1812