Gwaith Alun/Eisteddfod Caerwys
← Llwydd Groeg | Gwaith Alun gan John Blackwell (Alun) |
Dafydd Ionawr → |
HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Hawddamor bob gradd yma,—orwych feirdd,
Rhowch fyrddau 'ni wledda;
Lluman arfoli Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt—a 'sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,—
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi—â'n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a'i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.