Gwaith Alun/Gadael Rhiw

I—— Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

At Gyfaill


GADAEL RHIW

Gofid dwys a wasga 'nghalon,
Adael Rhiw a'i glannau gleision,
Dolau hardd lle chwardda'r meillion,
A chysuron fyrdd
Gadael mangre englyn,
Diliau mel, a'r delyn;
Gadael cân gynhenid lân,
Eu cael a'u gadael gwedyn;
Gadael man na sangodd achwyn;
Ond er gadael ceinciau'i gorllwyn,—
Yng ngauaf oes fe saif Trefaldwyn,
Ar fy nghof yn wyrdd.

Trwm, rhy drwn, rhoi ymadawiad
A bro na welir cuwch ar lygad,
Na diffyg ar ei haul na'i lleuad,
I ddylu blodau fyrdd;
Troi i sych Rhydychen,
O Bowys, hen bau Awen,
Lletty hedd, a bwrdd y wledd,
Lle'r adsain bryn â chrechwen
Gadael llon athrawon gwiwfwyn
Och! ni wn pa fodd i gychwyn. &c.

Try yr ymadawiad ysol,
Nwyf i loesau anfelusol,
Ond pa'm beiaf rhagluninethol
Anorffennol ffyrdd
Dyma law 'madawiad,
A'r llall mi sychaf lygad;
Mae'r fen gerllaw, i'm cludo draw,—
Ofer—ofer siarad;
Yn iach bob dengar gwm a chlogwyn,—
Yn iach, yn iach, gyfeillion addfwyn. &c.

Nodiadau

golygu