Rhai Geiriau Gwaith Alun

gan John Blackwell (Alun)

Angau


"IDDO EF."
Dat. i. 5.

'Does testun gwiw i'm cân
Ond cariad f' Arglwydd glân
A'i farwol glwy;
Griddfanau Calfari,
Ac angau Iesu cu,
Yw nghân a mywyd i,
Hosanna mwy.

Paham bu i ddeddf y net
Ymaflyd ynddo EF,
A rhoi iddo glwy?
Fe roddwyd yn y drefn,
Fy meiau ar ei gefn;
Pwy na roi floedd drachefn—
Hosanna mwy.

Ergydiwyd ato EF,
Gan uffern, byd, a nef,
Eu saethau hwy:
Arhodd ei fwa'n gry',
Nes maeddu uffern ddu,
A phrynu mywyd i,
Hosanna mwy.

Caniadau'r nefol gôr,
Sydd oll i'm Harglwydd Iôr
A'i ddwyfol glwy;

Y frwydr wedi troi,
Ellyllon wedi ffoi,—
Sy’n gwneyd i'r dyrfa roi
Hosanna mwy.

O faint ei gariad EF!
Nis gall holl ddoniau'r nef,
Ei dreiddio drwy:
Mae hyn i mi'n beth syn,
I ruddfan pen y bryn
Droi'n gân i mi fel hyn,
Hosanna mwy.

Pan ddelo'r plant ynghŷd,
O bedair rhan y byd,
I'w mangre hwy;
Tan obaith yn ddilyth,
Cael telyn yn eu plith,
I ganu heb gwyno byth,
Hosanna mwy.

Tra bwyf ar riwiau serth,
Preswylydd mawr y berth,
Rho'th gwmni trwy;
Mae cofio am y loes
Dan arw gur y groes,
Yn rhyw feluso f'oes,
Hosanna mwy.

Na ddigied neb o'r plant,
Am imi ganu ar dant
O'u telyn hwy:
Myfyrio'r tywydd du
Fu ar ein Iesu cu,
A droes fy nghân mor hy',
Hosanna mwy.

Nodiadau golygu