Gwaith Ann Griffiths/Llythyr 2
← Llythyr 1 | Gwaith Ann Griffiths gan Ann Griffiths |
Llythyr 3 → |
[Arall oddiwrth yr unrhyw.]
GAREDIG FRAWD YN YR ARGLWYDD,—
Cefais gyfle i anfon hyn o leiniau attoch, i'ch gwneud yn adnabyddus fy mod wedi derbyn eich llythyrau yn garedig, gan obeithio y bydd i'r pethau pwysfawr a sydd ynddynt gael lle yn fy meddwl.
Y mae'n dda genif glywed eich helynt chwithau mewn perthynas i'ch cyflwr. Gwerthfawr yw cyfaill a lŷn, fel y dywedasoch.
Daliodd gair ar fy meddwl, fe allai y byddai yn fuddiol imi ei grybwyll, ar y mater, —"Simon, mab Jonna, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn?" Meddyliais fod angen i fund heibio i frodyr a grasusau, a charu y Rhoddwr uwchlaw y rhodd.
Gair arall a ddaliodd ar fy meddwl,"Pryn y gwir, ac na werth." Fe ddaeth i fy meddwl fy mod yn fodlon i roddi yr hyn oll ar a feddwn—fy na a fy nrwg—am y Mab, mewn undeb priodasol. Fy meddwl yw fod pob gair segur, a phob ysgafnder ysbryd, a phob ymddygiad ar sydd yn ymddangos yn groes i sancteiddrwydd efengylaidd, yn cwbl wadu nad adwaenom Iesu Grist. Ond yn wyneb ein mawr drieni, mor werthfawr yw meddwi am y gair hwnw,—"Yr Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr."
'Rwyf yn llonni wrth feddwl fod rhyddid i bechadur son cimmaint am Iesu Grist wrth orsedd gras,—y nefoedd yn gwenu ac uffern yn crynu. Mawrhawn ein braint ein bod wedi adnabod dim o effeithiau y cyfamamod tragywyddol wedi ei liniaethu fry. Oh am gael aros dau ddiferion y cysegr hyd yr hwyr, a chydnabod mae gwerth gwaed ydynt. Hyn a fo yn dropio pechaduriaid i'r llwch. Oh am fod wrth draed ein Duw da tra bo'm yn y byd. Yn mhellach, mi gaf anfon ychydig o helynt yr Asostiat yn y Bont. Yn y cyffredin yn lled wlithog, ac yn lled ddeffrous ar y rhan fwyaf o'r eglwys yn bresenol. Fy meddwl yw nad yw hi ddim yn ddieithr i'r gwin sydd yn cael ei ranu mhlith y disgyblion yma ar eu taith.
Os dywedaf am fy helynt fy hun, mi a ddymunaf ddweud yn dda am Dduw, am fy nghofio i yn wyneb llawer o amheuon. Ni welais i erioed gimmaint o achos i lefain am y Graig ar bob tywydd. Ac os marw, os byw, hyn yw fy ngwaedd,—Oh am fy nghael ynddo Ef, heb ddim o'm cyfiawnder fy hun, yr hwn sydd o'r ddeddf." Clywais cyffelybiaeth am shopwr yn mynd i Gaer i brynu gwerth dau cant o bynau o guwds—cael bill parsel—hwnnw yn crogi yn y shiop—henwau a maintioli'r eiddo arno—ac i ryw wr ddyfod i mewn a gofyn am werth corono un ohonynt. Yntau yn atteb ni feddai werth ceiniog ohono. Er y gall llawer ymddangos yn grand mewn proffes, eito yn wyneb profedigaeth gofynwch,—Pa le y mae eu ffydd hwynt? Rhoddwyd bloedd—Blant bach, llefwch am i'r wagen ddyfod adran—y mae yn dromlwythog; sef gweinidion y Gair.
Bellach, terfynaf, a hyn oddiwrth un ac y sydd yn chwenychu dymuno llwyddiant fforddolion Seion.
—————————
Wedi ychydig emynnau o waith J. Hughes daw yr emyn hwn.
HYMN AR EIRIOLAETH CRIST.
BERERIN llesg gan rym y 'stormydd,
Cwyd dy olwg, gwel yn awr
Yr Oen yn gweini'r swydd gyfryngol
Mewn gwisgoedd lleision hyd y llawr;
Gwregys auraidd o ffyddlondeb,
Wrth ei odrau clychau'n llawn
O swn maddeuant i bechadur,
Ar gyfri yr anfeidrol iawn.
Ar ol emyn tri phennill, troir dalen arall, a cheir yr emynnau hyn.
HYMN 6.
MAE swn y clychau'n chwarau
Wrth odrau Iesu mawr,
Ac arogl y pomgranadau
I'w clywed ar y llawr;
Maddeuant i bechadur
Yn effeithio i fwynhad,
Er mwyn yr aberth difai
A lwyr foddlonai'r Tad.
HYMN 7.
GWELAI yn sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych o fy mryd,
Er mai o ran 'rwyf yn adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthddrychau'r byd;
Henffych foreu,
Y caf ei weled fel y mae.
HYMN 8.
COFIA ddilyn y medelwyr,
Yn mhlith'r ysgybau treilia dy oes,
Pan fo Mynydd Seinai'n danllyd,
Gwlych dy damaid wrth y groes;
Gwel ddirgelwch mawr duwioldeb,
Cafwyd allor wrth dy droed,
Duw a dyndod arno yn dyodde,
Llef am ole i ganu ei glod.