Gwaith Ann Griffiths/Llythyr 4

Llythyr 3 Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Llythyr 5

GAREDIG FRAWD,— Bu dda iawn genyf lawer gwaith anfon fy helynt attoch. Cefais lawer o bleser a bendith wrth ddarllain eich llythyrau, yr hyn sydd annogaeth gref iawn i'm fod yn daer arnoch nad attalioch eich llaw.

Anwyl frawd, mae'r rhyfel mor boeth yn awr ac erioed—gelynion oddifewn—gelynion oddiallan. Ond o'r cwbl, pechod y meddwl sydd yn gwasgu drymaf arnaf. Neillduol dda genyf feddwl am y gair hwnnw heddyw,—"Ac at Iesu, cyfryngwr y Testament Newydd, a gwaed y taenelliad." Rhyw beth newydd o garu athrawiaeth y glanhau. Y gair hwnw ar fy meddwl, "A gwaed Iesu Grist, ei Fab Ef, sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Ni bu erioed fwy o hiraeth arnaf am fod yn bur. Y gair hwnw ar fy meddwl,—"Y tŷ, pan adeiladwyd, a adeiladwyd o gerig wedi eu cwbl naddu." Byddaf yn meddwl weithiau nad oes arnaf eisiau newid fy ngwisg byth, ond chwant bod yn lân yn fy ngwisg. Byddai'n iawn genif gael aros mwy yn y cysegr, fel y soninsoch yn helaeth a gwerthfawr. Yr wyf yn disgwyl yn aml ryw dywydd blin i'm cyfarfod, er nas gwn pa beth. Gair hwnw heno ar fy meddwl,—" Trwy hyn y glanheir anwiredd Jacob," &c. Am help i aros gyda Duw, pa beth bynag a'm cyfarfyddo. A diolch byth am fod y ffwrnes a'r ffynnon mor agos i'w gilydd.

Nid dim neillduol yn chwaneg ar fy meddwl yn bresenol, ond cofiwch am danaf yn aml, a brysiwch anfon attaf.

Wyf, eich anheilwng chwaer, yn caru eich llwyddiant mewn corph ac yspryd.

ANN THOMAS, Dolwar.