Gwaith Ann Griffiths/Rhosyn Saron

Hymnau o waith A. G. Dolwar Gwaith Ann Griffiths

gan Ann Griffiths

Hymnau

Rhosyn Saron

Ar ol y rhai hyn, yn ysgriflyfr John Hughes, daw cofnodau am sasiynau Caernarfon a Llanidloes, ac yna yr emynnau sy'n dilyn.

Tua'r adeg yma y priododd Ruth Evans, morwyn Dolwar Fach, ym mhresenoldeb gwr a gwraig ieuanc Dolwar a chlochydd Llanfihangel. Dyma'r cofnod,—

The year 1805
Page 1

No. 2. John Hughes of this Parish, Bachelor, and Ruth Evans of this Parish, spinster.

Married in this Church by Banns this seventh day of May in the year one thousand eight hundred and five By me-Tho. Evans, Curate

This marriage was solemnised between us

John Hughes

The Mark X of Ruth Evans.

in the presence of

Thomas Griffiths,

Ann Griffiths,

Evan Williams.


RHYFEDDA fyth, briodas ferch

HYMNAU.

RHYFEDDA fyth, briodas ferch,
I bwy wyt yn wrthdrych serch;
O cenwch, waredigol hil,
Rhagori y mae fe ar ddeng mil.

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd

Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd
Wrthddrych teilwng o fy mryd,
Er mai o ran yr wy'n adnabod
Ei fod uwchlaw gwrthddrychau'r byd ;
Henffych foreu,
Y caf ei weled fel y mae.

Rhosyn Saron yw ei enw,
Gwyn a gwridog, teg o bryd,
Ar ddeng mil y mae'n rhagori,
O wrthddrychau pena'r byd ;
Ffrind pechadur,
Dyma ei beilat ar y môr.


Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr ?
Tystio 'r wyf nad yw ei cwmni
Yn cystadlu â Iesu mawr;
O am aros,
Yn ei gariad ddyddiau f'oes.

Ni ddichon byd a'i holl deganau

Ni ddichon byd a'i holl deganau
Foddloni fy serchiadau'n awr,
A enillwyd, a ehangwyd
Yn nydd nerth fy Arglwydd mawr ;
Ef, nid llai, a eill ei llenwi,
Er mor ddiamgyffred yw,
O am syllu ar ei berson,
Fel y mae fe'n ddyn a Duw.

O na chawn i dreilio'n nyddiau

O na chawn i dreilio'n nyddiau
Yn fywyd o dderchafu ei waed,
Llechu'n dawel dan ei gysgod,
Byw a marw wrth ei draed ;
Caru'r groes, a phara i'w chodi,
Am mai croes fy Mhriod yw,
Ymddifyru yn ei berson,
A'i addoli byth yn Dduw.

Mewn môr o ryfeddodau

Mewn môr o ryfeddodau
O am gael treilio f'oes
Ar dir pech ar .... aros,
A byw ar waed y groes;
A chael caethiwo'm meddwl
Oll i ufudd-dod Crist,
A chydymffurfio a'i gyfraith,
Bod drosto'n ffyddlon dyst.


Ni ddaeth i fwrdd cyfiawnder Duw

Ni ddaeth i fwrdd cyfiawnder Duw,
Wrth gofio pechod,
Ond cysgodau o'r sylwedd byw,
Oedd i ddyfod;
Y Jubili pan ddaeth i ben,
Y llen a rwygwyd,
A'r ddeddf yn Iesu ar y pren
A ddigonwyd.

Nac edryched neb i gloffi

Nac edryched neb i gloffi
Arnaf, am fy mod yn ddu;
Haul, a gwres ei belederau
Yn tywynu'n danbaid arnaf sy;
Mae a'm cuddia,
Cysgod lleni Solomon.

Pan gymerodd pechod aflan

Pan gymerodd pechod aflan,
Feddiant ar y cyntaf ddau,
Duw y cariad aeth dan rwymau,
Yn ei hanffod i gasau;
Eto'n caru ac yn achub
Yr un gwrthddrychau o'i ddwyfol lid,
Mewn ffordd gyfiawn, heb gyfnewid,
Ond perffaith Fod, yr un o hyd.

ANN GRIFFITHS.

Nodiadau

golygu