Gwaith Ceiriog/Alun Mabon (12)

Alun Mabon (11) Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Alun Mabon (13)

XII

Wrth ddychwel tuag adref,
Mi glywais gwcw lon,
Oedd newydd groesi'r moroedd
I'r ynys fechan hon.

A chwcw gynta'r tymor
A ganai yn y coed,
'Run fath a'r gwcw gyntaf
A ganodd gyntarioed.

Mi drois yn ol i chwilio
Y glasgoed yn y llwyn,
I edrych rhwng y brigau,
Ple'r oedd y deryn mwyn.

Mi gerddais nes dychwelais
O dan fy medw bren;
Ac yno'r oedd y gwcw,
Yn canu wrth fy mhen.

O! diolch iti, gwcw,
Ein bod ni yma'n cwrdd—
Mi sychais i fy llygad,
A'r gwcw aeth i ffwrdd.