Gwaith Ceiriog/Annie Lisle
← Claddasom di, Elen | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Y defnyn cyntaf o eira → |
ANNIE LISLE
(Lledgyfieithiad)
Ar fin yr afon araf yn y goedwig gain,
Fan mae'r dŵr yn gwneud arluniau gwiail melyn main,
Fan mae'r adar haf yn canu yn eu temlau dail,
Yma'r ydoedd am ryw adeg annedd Annie Lisle.
Cydgan:—
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
Mwyn, mwyn yw'r awel beraidd, gana fel y dêl,
Trwy ryw fyrdd o erddi gwyrddion, lifant laeth a mel,
Ond ar wely wedi marw gorwedd Annie Lisle,
Hi ni egyr ei du lygad, Angau'n dyn a'i deil.
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.
"Cwyd fi, fy mam anwylaf, gad i'm weld y plant,
Yn y brwyn a'r melyn helyg draw ar fin y nant;
Hust! mi glywaf fiwsig nefol, miwsig Iesu'r nef,
Mam anwylaf, mi anelaf at ei fynwes Ef."
Doed gwanwyn, sued dyfroedd,
Gwened hyfryd haul
Ar y dyffryn, ond nis deffry
Anwyl Annie Lisle.