Gwaith Ceiriog/Ar hyd y Nos
← Codiad yr Hedydd | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Morfa Rhuddlan → |
AR HYD Y NOS
Alaw,—Ar hyd y Nos
Holl amrantau'r sêr ddywedant,
Ar hyd y nos,
Dyma'r ffordd i fro gogoniant,
Ar hyd y nos.
Goleu arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu'r nefoedd mewn tawelwch,
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos;
I oleuo 'i chwaer-ddaearen
Ar hyd y nos.
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd,
Rhown ein goleu gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos.