Gwaith Ceiriog/Breuddwyd y Bardd

Serch Hudol Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Corn y Gad

BREUDDWYD Y BARDD

Nis gwn am un enghraifft o bennill ar y mesur hwn, ac nis gwn am neb sydd yn gallu yr hen alaw odidog heblaw y cyfaill Idris Vychan. Y mae seibiant yn y dôn ar ddiwedd y chweched llinell, a'r llinell olaf yn llwythog o ofid a siomedigaeth. Ymdrechais yn y geiriau gadw at gymeriad neilltuol y llinell olaf. Mae hi fel moeseb oddiwrth, neu eglurhad ar, y chwe llinell flaenorol.

Alaw,—Breuddwyd y Bardd

Eisteddai hen fardd yn ei gadair,
Yn wargrwm a'i wallt fel y gwlân;
A'i feddwl a hedodd i'r amser
Y gwelid ei blant wrth y tân.
Ei amrant a gauodd, ac yna breuddwydiodd
Yn weddw ac unig heb neb i’w wahardd-
Yng ngwynfyd ei galon breuddwydiodd y bardd.


Fe welodd ei hun yn priodi,
Genethig anwylaf y wlad;
Fe glywodd ei gyntaf anedig
Gan wenu 'n ei alw fe 'n "dad!"
Ni welodd ef gladdu ei briod a'i deulu,
Na deilen wywedig yn disgyn i'r ardd—
Na, breuddwyd ei febyd freuddwydiodd y bardd.

Fe glywai hen glychau Llanarmon,
Yn fachgen fe deimlodd ei hun,
Breuddwydiodd hen deimlad y galon,
Sef hiraeth am ddyfod yn ddyn.
Ni chofiodd ef helynt y dyddiau'r aeth trwyddynt,
Ond tybiodd fod popeth yn hyfryd a hardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.

Er na bu un linell mewn argraff
O waith y breuddwydiwr erioed;
Fe wel ef ei waith yn gyfrolau,
A dynion yn rhodio fel coed,
A bechgyn yn darllen cynhyrchion ei awen,
Fe wel anfarwoldeb trwy gwsg, ac fe chwardd—
Breuddwydion ei galon freuddwydiodd y bardd.