Claddedigaeth Morgan Hen Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Gofidiau Serch

MYFANWY.

(O "Myfanwy Fychan")

"Myfanwy!'rwy'n gweled dy rudd
Mewn meillion, mewn briall, a rhos;
Yng ngoleu dihalog y dydd,
A llygaid serenog y nos;
Pan gyfyd claer Wener ei phen
Yn loew rhwng awyr a lli,
Fe'i cerir gan ddaear a nen.
I f' enaid, Myfanwy, goleuach, O tecach wyt ti,
Mil lanach, mil mwynach i mi.

"Fe ddwedir fod beirddion y byd
Yn symud, yn byw ac yn bod,
Rhwng daear y doeth a Gwlad Hud,
Ar obaith anrhydedd a chlod;
Pe bâi anfarwoldeb yn awr
Yn cynnyg ei llawryf i mi,
Mi daflwn y lawryf i lawr—
Ddymunwn i moni, fe'i mathrwn os na chawn i di,—
Myfanwy, os na chawn i di.

"O! na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,
I suo i'th glust ar fy hynt,
A throelli dy wallt ar wahan;
Mae'r awel yn droiog a blin—
Un gynnes ac oer ydyw hi;
Ond hi sy'n cusanu dy fin.
O feinwen fy enaid, nid troiog fy serch atat ti,
Tragwyddol yw'm serch atat ti.


"Mewn derwen agenwyd gan follt
Draig-fellten wen-lachar ac erch;
Gosodaf fy mraich yn yr hollt
A chuddiaf beithynen o serch.
Ni'm gwelir gan nebun, ond gan
Y wenlloer—gwyn fyd na baet hi,
Er mwyn iti ganfod y fan.
Ond coelio mae'm calon, fod ysbryd eill sibrwd a thi—
Eill ddwedyd y cwbl i ti."


Petrusai Myfanwy pwy oedd a roisai'r beithynen yn gudd?
A dwedai,—"rhyw ffolyn o fardd,"—ond teimlodd ei gwaed yn ei grudd;
Disgynnodd ei llygaid drachefn ar "na bawn yn awel o wynt
Yn crwydro trwy ardd Dinas Brân,"—o churodd ei chalon yn gynt.
"Mi droellet fy ngwallt—O mi wnaet! wyt hynod garedig," medd hi,
"A phe bawn yn suo i'th glust, mi ddwedwn mai gwallgof wyt ti;
Mi hoffet gael cusan, mi wnaet! ond cymer di'n araf fy ffrynd,"—
Hi geisiai ymgellwair fel hyn,—ond O!'r oedd ei chalon yn mynd!
'R oedd wedi breuddwydio dair gwaith, heb feddwl doi'r breuddwyd i ben,
Fod un o g'lomenod ei thad, yn nythu yn agen y pren—
Heb gymar yn agen y pren.