Gwaith Ceiriog/Rhagymadrodd

Gwaith Ceiriog Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Cynhwysiad

Rhagymadrodd

Ar un o lethrau'r Berwyn y ganwyd ac y magwyd Ceiriog. Gadawodd ei gartref anghysbell a mynyddig pan yn fachgen; a'i hiraeth am fynyddoedd a bugeiliaid bro ei febyd, tra ym mŵg a thwrw Manceinion, roddodd fod i'w gân pan ar ei thlysaf ac ar ei thyneraf.

Mab Richard a Phoebe Hughes, Pen y Bryn, Llanarmon Dyffryn Ceiriog, oedd John Ceiriog Hughes. Ganwyd ef Medi 25ain, 1832. Aeth i'r ysgol yn Nant y Glog, ger y llan. Yn lle aros gartref ym Mhen y Bryn i amaethu ac i fugeila wedi gadael yr ysgol, trodd tua Chroesoswallt yn 1848, i swyddfa argraffydd. Oddiyno, yn 1849, aeth i Fanceinion; ac yno y bu nes y daeth ei enw yn adnabyddus trwy Gymru. Deffrowyd ei awen gan gapel, a chyfarfod llenyddol, a chwmni rhai, fel Idris Vychan, oedd yn rhoddi pris ar draddodiadau ac alawon Cymru.

Yn 1858 yr oedd yn adrodd rhannau o'i gân fuddugol,—"Myfanwy Fychan,"—yn Eisteddfod Llangollen, am y mynydd a'i gartref. Yn 1860 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Hwyr;" daeth hwn ar unwaith yn un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Yn 1861 priododd un o rianod gwlad Ceiriog. Yn 1862 cyhoeddwyd ei "Oriau'r Bore," lle mae ei awen ar ei thlysaf ac ar ei grymusaf. O hynny hyd ddiwedd ei oes, daliodd i ganu. Y mae dros chwe chant o'i ganeuon wedi dod a llawenydd i galon miloedd o Gymry, ac ambell un ddeigryn i lawer llygad.

Yn 1865, daeth Ceiriog yn orsaf feistr i Lanidloes. Aeth oddiyno i Dowyn yn 1870, oddiyno i Drefeglwys yn 1871, ac oddiyno i Gaersws yn yr un flwyddyn. Yno y bu farw, Ebrill 23ain, 1887. Treuliodd ei febyd, felly, yn Nyffryn Ceiriog, rhan ganol ei oes ym Manceinion, a'r rhan olaf ym mlaen Dyffryn yr Hafren.

Trwy'r blynyddoedd yr oedd tri pheth yn agos iawn at ei galon,-llenyddiaeth Cymru, yr Eisteddfod, ac addysg Cymru. Yr oedd yn hoff o Ddafydd ab Gwilym; yr oedd ganddo gariad greddfol at y naturiol a'r cain. Yr oedd ei fryd ar ddiwygio'r Eisteddfod, ac ar ei gwneyd yn allu cenedlaethol. Hiraethai am ddadblygiad cyfundrefn addysg, ac ymfalchïai yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Un o wir feibion y mynyddoedd oedd.


Wrth drefnu'r gyfrol hon, ceisiais ddewis darnau perffeithiaf Ceiriog, gan adael allan bopeth lle na welir y bardd ar ei oreu. Y canlyniad ydyw hyn,—dewiswn, er fy ngwaethaf, y dwys a'r tyner yn ei awen, ac nid y digrif. I'r dwys y rhoddodd Ceiriog fwyaf o'i enaid, ac ymarllwysiad teimlad ei oriau pruddaf yw ei ganeuon goreu.

Dymunwn ddiolch yn gynnes i'r Mri. Hughes am gyhoeddi y gyfrol hon imi. Y mae ganddynt hwy hawl ar y rhan fwyaf o lawer o'r caneuon sydd yn y gyfrol. Ni buaswn yn gofyn iddynt gyhoeddi y pigion hyn, oni buasai fy mod yn gwybod y codir awydd ymysg llawer i brynu y ddwy gyfrol brydferth gyhoeddwyd yn ystod bywyd Ceiriog, a than ei ofal, ganddynt hwy.

Ceiriog, yn ddiameu, yw bardd telynegol mwyaf Cymru. Y mae ei naturioldeb syml a'i gydymdemlad dwys wedi rhoi swyn anfarwol i'w gân. Nid oes telyn yn yr un bywyd na chyffyrdda Ceiriog â rhai o'i thannau. Tra aber yn rhedeg yn loew dros raian mân, a thra bo gwrid mwyn yn hanner gyfaddef serch, ca'r galon ddynol fwynhad a nerth o ganeuon Ceiriog.

"Alun Mabon" yw ei gampwaith. Y mae miwsig hen alawon yn yr odlau; y mae bywyd y bugail yma yn ei bryder a'i fwynder. Ynddo darlunia Ceiriog ei fywyd ei hun, a bywyd pob mynyddwr.

"Ond bugeiliaid ereill sydd ar yr hen fynyddoedd hyn." Nid teulu Ceiriog sydd yn byw ym Mhen y Bryn yn awr. Ym mynwent Llanwnog, ger Caersws, ymysg y bryniau hanesiol mud, y rhoddwyd y prydydd i huno. Ar groes ei fedd y mae ysgrif syml, ac englyn o'i waith ei hun,—

ER
COF AM
JOHN CEIRIOG HUGHES,
A ANWYD MEDI 25,
1832, A FU FARW EBRILL 23,
1887.

Carodd eiriau cerddorol,—carodd feirdd,
Carodd fyw'n naturiol;
Carodd gerdd yn angerddol,
Dyma 'i fedd,—a dim lol.

OWEN M. EDWARDS.

Rhydychen,

Mawrth 1, 1902.