Gwaith Ceiriog/Trwy wledydd dwyreiniol

Dychweliad yr hen filwr Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

Y Garreg Wen

TRWY WLEDYDD DWYREINIOL

(O "Owain Wyn.")

Gadewais fy mhraidd ar y mynydd,
A chefnais ar drumiau fy ngwlad,
Breuddwydiais am fyd o lawenydd
Tu allan i furiau fy nhad;
Yn ol i'r mynyddoedd dychwelais,
Ond dysgais, a'm dagrau yn lli,
Os bywyd y milwr arweiniais,
Mai'r cymoedd yw'r cartref i mi.

Trwy wledydd dwyreiniol tramwyais
Ond cofio gwyllt Walia oedd loes;
O wagedd ieuenctyd yr yfais
Nes chwerwais felusder fy oes;
Nid ofnaf lefaru fy nheimlad,—
Chwi wledydd goruchel eich bri,
Yn mhell byddoch byth o fy llygad,—
Mynyddau'r hen Ferwyn i mi.

Mae gobaith cael eto cyn angau
Ailddringo llechweddau fy mro,
I gasglu y praidd i'w corlannau
Hyd lwybrau cynefin i'm co;
Uwch bedd anrhydeddus y milwr
Mae enfys arddunol o fri;
Ond rhowch i mi farw'n fynyddwr,
A beddrod y bugail i mi.