Gwaith Ceiriog/Tuag adre
← Y Garreg Wen | Gwaith Ceiriog gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) |
Beibl fy mam → |
TUAG ADRE
O ddydd i ddydd mae melyn haul
Yn pasio yn ei gerbyd;
O nos i nos mae'r lleuad wen
Yn codi ac yn machlud?
O awr i awr mae'r ser yn troi
Ar draws yr eangderau;—
Yn wir, mae holl greadigaeth Duw
Yn teithio tuag adre.
Mae'r ffrydlif fach, ar ben y bryn,
Yn rhedeg megys crwydryn;
Ac afon fawr, y dolydd îs,
Yn rhedeg yn y dyffryn;
Mae'r gwynt yn crwydro yn y nef,
A symud mae'r cymylau;—
Ac O! mae holl greadigaeth Duw
Yn teithio tuag adre.
Mae gwynt Diwygiad ar ei daith,
A derw Cymru'n gildio,
Mae swn gorfoledd yn y dail,—
Mae swn canghenuau'n cracio;
O! Anadl, tyrd o'r pedwar gwynt,
A chymer y byd mewn hymnau,
Cân a moliant iddo Ef,
I byrth tragwyddol gartre.