Gwaith Ceiriog/Y fodrwy briodasol

Wrth weld yr haul yn machlud Gwaith Ceiriog

gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog)

O weddi daer

Y FODRWY BRIODASOL

Cymer hi Annie, o cymer hi heno,
Mae'th fys gyda'th galon yn crynnu gan fraw;
Dy fodrwy di ydyw, ni waeth it heb grïo
Os nad wyt yn meddwl am wrthod fy llaw.
Cyn mynd at yr allor y foru gad imi,
A'th fys ei chysegru wrth fynd hyd y ddôl—
Wel dyna hi'n gymhwys, da gwyddwn O Annie,
Na wnaet ti byth dynnu'th addewid yn ol.

Cymer hi Annie,'does arni ddim cerfiad,
Na gemau cywreinion i'w gweled yn awr;
Ond ceisiwn roi arni berl Rhinwedd, fy nghariad,
Mae engyl ar hwnnw yn edrych i lawr.
Mae gennym ni gariad a leinw'n holl fywyd,
Yn hwnnw'r ymffurfia y maen o fawr werth;
Yn hwnnw mae cyfoeth, bywoliaeth ac hawddfyd,
Yn hwnnw, fy nghariad, mae mawredd a nerth.

Cymer hi Annie, a'r nefoedd ro inni
O fewn ein haur-fodrwy fan fechan i fyw,
Yn bur ac yn ddedwydd—yn unig boed ynddi,
Heblaw ti a minnau, blant bychain a Duw.
Mae'r bydoedd yn grynion a'r haul a'u goreura,
Gan wneuthur pob planed a lleufer yn llon;
Ond nid oes breswylfod rhwng daear a gwynfa,
Ddedwyddach, berffeithiach, a chrynach na hon.

Cymer hi, Annie, yn arwydd cyfamod,—
Dwy enfys fach ydyw a'u deuben ynglŷn;
Y gyntaf yn amod mai fi fydd dy briod,
A'r ail un yn amod mai ti fydd fy mun.

Mae'n gyfan, mae'n brydferth, heb gymorth y gemau,
Arwyddnod perffeithiach y ddaear ni fedd;
Does dim eill ei thorri ond pladur lem angau,
Na dim eill ei rhydu ond lleithder y bedd.

Cymer hi, cymer hi, ofer yw rhwystro,
Dyferwlaw'r amrantau rhag tywallt i lawr;
Mae'n storm gyda minnau, gad imi tra dalio,
Roi'm pen ar dy ysgwydd—rwy'n well Annie'n awr.
Mae'th ddeigryn fy nghariad, a'm deigryn bach innau,
Yn uno fel gwlithos neu fân arian-byw—
Ond moes imi'r fodrwy, ti cei hi'n y boreu
Yng ngwyddfod yr allor, y Beibl, a Duw.