Gwaith Dafydd ap Gwilym/Colli'r Haf
← Yr Haf | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Cân Bronfraith → |
- COLLI'R HAF[1]
YR haf, bendefig rhyfalch,
Ple'r aethost? Ti fuost falch;
Per oeddyd, y byd a'i barn,
Pennaig coed, fal paun cadarn;
Plethwr, ir-gauwr gwiail,
Peiriad hard yn peri dail;
Pefr farchog glan a llannerch,
Per drwsiwr llwyn er mwyn merch.
Gwnai fwyalch hygar-falch gerdd,
A glyn-goed yn llawn glan-gerdd ;
A hoew-dôn gainc ebediad
I'th ddydd yn y gwŷdd a gaid,
Yr eos ar ir wiail,
Rhion, prydyddion y dail;
Deryn oedd ym min dŵr nant
Yn dysgu beirdd a descant;
Mwyna gerdd ym min gwerddon,
Ymysg llu'n gwau miwsig llon;
A merch i'm hannerch ym Mai,
Dyn dlosdeg dan dy lasdai;
Bun wen, ag awen ar gof,
A'r enaid yn daer ynnof.
Weithian o'n gwlad yr aethost,
A daeth bâr hyd daear dost;
Mae pob llwyn ar dwyn a dôl,
Ys dyddiau, yn gystuddiol;
Nid oes gelfan min llannerch
Im i gynnal oed â merch,
Na llatai ddifai ddwyfol
A gaf fi mewn deri dôl.
Gauaf sy'n lladd y gwiail,
A dug o goedydd y dail,
A'i chwithig wynt yn chwythu,
A'i ruad arth, a'i rew du,
Mawr ei sain yn darmain dig,
Ffei arnaw, Iddew ffyrnig.
Ni ddaw gwen yn hawdd i goed,
Ni fyn nythgell o fewn noethgoed;
Ein parlwr glas cwmpasawg
Aeth yn fwth rhy rwth yrhawg;
Y llennyrch lle'dd oedd llonydd,
Wers oer, yn luddfawr y sydd;
Nid oes babell mewn celli,
Na man fel bu gynt i mi;
Na merch wen dan fedwen fawr,
Na dani gael oed unawr.
Yr haf hynaws, rhwyf hinon,
O'm serch am danad mae'm son;
Dychwel yn ol i'r dolydd,
Yn drum draw er gwisgaw gwŷdd;
Rho ddail, a gwiail, ar goed,
A'th degwch i berth dew-goed,
A doldir yn llawn deildai,
A thrydar mân adar Mai;
I'th irlas bais a'th erlawnt,
Yn llawen rhull, yn llawn rhawnt,
Rho im oed, dydd, a gwŷdd gallt,
Yn gaer i'm dyn deg eurwallt,
A'th glod achlân a ganaf,
Can hawddfyd hyfryd i'r haf.