Gwaith Dafydd ap Gwilym/Cyngor Brawd Crefydd
← Cyngor Brawd Llwyd | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Morfudd a'r Delyn → |
- CYNGOR BRAWD CREFYDD[1]
GOSBWR y marwol bechawd,
Casbeth gennyf bregeth brawd.
Pobty y bara peinioel,
Pibl weddi, almari moel;
Gosgedd gryglus, gweddus gwiw,
Gwas baglog mewn gwisg bygliw;
Llwgr o bys y llygod,
Mair a glyw, nid mawr ei glod.
I bob dyn, dan ei ateb,
Y rhydd nawdd mwy na rhodd neb.
Suganai'r brawd i'm gwahardd
Mygr ddiwair, dan air, dyn hardd;
Doeda'r enfys oedran-foel
Wrthyf fi, yr hen arth foel,—
“Os bardd ydwyt i feinir,
Ysbys wawd mae'n ysbys wir;
Iawnach, heb gel, gan delyn
Moli Duw na mawlhau dyn,
Ar rinwedd y saith weddi
Pader teg, myn Pedr, i ti;
A phaid, er maint mawrfraint Mair,
A'th gywydd, iaith ddigywair.
Bydd yr un rhôl ag Iolo,
Defod hardd, hen fardd y fro,
A wisg y munudiau certh
Dew rawnbais du eirinberth;
Cais grys o'r maulus muloen,
Oer yw ei grefft ar dy groen;
Ac yn rhwydd, dros y flwyddyn,
Cynhydda'n gwaith da i ddyn."
Ffriw dig Sain Dominig fwyn,
Ffwyth mawr unllwyth meirin-llwyn;
Brân ar led yn ehedeg,
A'i bryd ar nef dangnef deg;
Tafod cloch bres yn crefu,
Taer y dysg y toryn du.
Y gwas gwâr yn gwarafun,
Cenaw'r fall, canu i'r fun!
Am warafun i'r fun fawl
O'r brawd du oer-bryd dwyfawl,
Ceiliog i'r doniog dangnef,
Calon oer i'r cul o'r nef.