Gwaith Dafydd ap Gwilym/Marwnad Gruffydd Gryg

Yr Ysbryd Gwaith Dafydd ap Gwilym

gan Owen Morgan Edwards

Y Drych

MARWNAD GRUFFYDD GRYG.

Bu ymryson rhwng Dafydd ab Gwilym a Gruffydd Gryg.
Nid oedd yn anghoeth, fel ymryson Dafydd ab Edmwnd a
Guto'r Glyn ychydig wedyn, ond yr oedd yn chwerw. Cyn
hyn yr oedd Rhys Meigen, meddir, wedi syrthio yn farw gan
fin awen angeuol Dafydd.
Ebe Gruffydd Gryg:—

"LLEW ydwyf cryf, llo ydwyt,
Cyw'r eryr wyf, cyw'r iar wyt;
Adewr ydwyf, a diriaid,
A rhwysg bonheddig yn rhaid;
A cherdd bêr sydd gennyf,
A Chryg y'm galwant, a chryf;
Ac ni'm dawr, newyddfawr nwyf,
Byth yn ol beth a wnelwyf;
Athrawaf, heb ethrowyn,
A min fy nghledd dannedd dyn;
Medra bwyll, a mydr o ben,
'Mogel! nid wyf Rys Meigen."


Dywedodd rhywun wrth Gruffydd fod Dafydd wedi marw,
ac yn huno yn Ystrad Fflur. Agalarodd Gruffydd yn ddwys
am dano, gan ddewis ei ogan ef o flaen mawl ereill. Dywedodd
rhywun wrth Dafydd fod Gruffyth Gryg yn huno yn Llan
Faes. A chanodd Dafydd iddo fel hyn,—

TRIST oedd ddwyn, trais cynhwynawl,
Tlws o'n mysg, Taliesin mawl;
Trwst eres, nid trais di-arw,
Trwm oer fel y try y marw.

Treiwyd gwawd, nid rhaid gwadu,
Tros fyd gwladeiddia trais fu;
Tros fy ngran ledchwelan lif
Try deigr am wr tra digrif,
Gruffydd, hyawdl ei awdlef,
Gryg ddoeth, myn y Grog oedd ef.

Oes deg am ei ostegion,
Ys gwir mawl, eos gwyr Mon,
Lluniwr pob deall uniawn,
A llyfr cyfraith yr iaith iawn;
Egwyddor y rhai gwiw-ddoeth.
A ffynnon cerdd, a phen coeth;
A chyweirgorn ddiorn dda,
A'i chyweirdant, Och! wyr-da.
Pwy a gân ar ei lân lyfr,
Prydydd goleuddydd liw lyfr;
Měl oedd o'i ben awen-gerdd,
Primas ac urddas y gerdd.
Ni chair son gair o gariad,
Na chân, gan ochain a nad,
Er pan aeth, alaeth olud,
Dan ei fedd i dewi 'n fud;
Ni chwardd udfardd o adfyd,
Ni bu ddigrifwch o'r byd;
Nid byw edo glân a ganai,
Nid balch ceiliog mwyalch Mai;
Ni chynnydd mewn serch annog,
Ni chân na hedydd, na chôg,
Na llinos yn agos inni,
Nag irddail yn y gerddi,
Na bronfraith, ddwbl-iaith ddyblyg,
Ni bydd wedi Gruffydd Grug;
Na choedydd, dolydd, na dail,
Na cherddi, -yn iach ir-ddail!
Tost o chwedl, gan ddyn edlaes,
Rhoi yng nghôr llawn fynor Llan Faes
Gymain, -dioer, gem a'i deurudd,—
O gerdd ag a roed i gudd.

Pwy gân, i ddyn lân o liw,
Gywydd dan hoew-wydd heddyw;

Nag anghlod mwy, nag englyn,
I eiddig, chwerw-ddig ddyn?
Rhoed serchawgrwydd egwyddor
Mewn cist yng ngwaelod côr;
Cist o dderw, cystudd irad,
A gudd gwalch y gerdd falch fad;
O gerdd sain, gywir ddi-sal,
Ni chaid un gistiaid gystal;
O gerdd, euraid gerddwriaeth,
Doe'r ym i gyd yn derm gaeth;
Llywiwr iawn-gamp llarian-gerdd,
Llyna gist yn llawn o gerdd!

Och, hael-grair Fair, uchel Grist,
Na bai a agorai ei gist!
O charai ddyn, wych eirian,
Gan dant glywed moliant glân,
Gweddw y barnaf gerdd dafawd,
Ac weithian gwan ydyw'n gwawd;
E aeth y brydyddiaeth deg
Mal ar wystl, mul yw'r osdeg;
Gwawd graffaf, gwedy Gruffydd
Waeth-waeth, heb Ofyddiaeth fydd.

Edn glwys ei baradwyslef,
Aderyn yw o dir nel";
O'r nef y daeth, goeth gethlydd,
brydu gwawd i bryd gwŷdd;
Awenfardd awen winfaeth,
I'r Nef, gwiw oedd ef, ydd aeth.


Nodiadau

golygu