Gwaith Dafydd ap Gwilym/Rhosyr
← Morfudd | Gwaith Dafydd ap Gwilym gan Owen Morgan Edwards |
Gwallt Morfudd → |
- RHOSYR
HAWDDAMAWR, meireinwawr maith
Tref Niwbwrch trwy iawn obaith!
A'i glwysdeg deml, a'i glasdyr
A'i gwin, a'i gwerin, a'i gwyr,
A'i chwrw, a'i medd, a'i chariad,
Ai dynion rhwydd, a'i da'n rhad.
Cornel ddiddos yw Rhosyr,
Coedgae i 'wareu i wyr:
Llwybrau henwyr, lle breiniawl,
Llu mawr o bob lle a'i mawl;
Lle diofer i glera,
Lle cywir dyn, lle ceir da;
Lle rhwydd beirdd, lle rhydd byrddau,
Lle im yw, ar y llw mau;
Pentwr y glod, rhod rhyddfyw,
Pentref dan y nef, dawn yw;
Paement i borthi pumoes,
Pell im yw eu pwyll a'u moes;
Coety'r wlad rhag ymadaw,
Cyfnither nef yw'r dref draw;
Côr hylwydd, cywir haelion,
Cyfannedd, myriwent medd Mon;
Cystadlydd nef o'r trefi,
Castell a meddgell i mi;
Perllan clod y gwirodydd,
Pair dadeni pob rhi rhydd ;
Parch pob cyffredin ddinas,
Penrhyn gloew feddyglyn glas.